Cymryd Risg Bositif. Defnyddio dulliau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn wrth ddarparu gofal

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Staff sy'n cefnogi unigolion mewn modd person ganolog.

Beth yw'r amcanion?

Nod yr hyfforddiant hwn yw datblygu gwell dealltwriaeth o risg cadarnhaol, gan ddeall bod y cadarnhaol yn cyfeirio at y canlyniad, nid y risg. Creu diwylliant o ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, sut i gefnogi unigolion gyda'r dull yma a lleihau canlyniadau negyddol. Bydd yn cynnwys:

  • Adnabod sut i hyrwyddo gwerthoedd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • Egwyddorion gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a chymryd risg bositif
  • Canfod sut i weithio mewn ffordd person ganolog
  • Cefnogi hawl unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau i wneud dewisiadau

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd yr hyfforddiant yn cynnig y wybodaeth angenrheidiol i ofalu a asesu risg mewn modd person ganolog.

Dull darparu:

Ystafell Ddosbarth

Hyd y cwrs:

3 Awr

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.

Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Dylai partneriaid, staff asiantaeth neu bobl nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor ond sy'n bodloni'r meini prawf o ran mynychu'r cwrs hwn gwblhau'r ffurflen gais hon.


Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais os ydych yn gweithio i'r Cyngor neu gallwch ymweld â'r dudalen hon os nad ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r ffurflen gais gywir ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.