Canllawiau Gweithio Hybrid Mehefin 2024

1. Cyflwyniad

Mae gweithio hybrid wedi ein helpu i fod yn sefydliad mwy dynamig a hyblyg gan feithrin creadigrwydd, effeithlonrwydd a chydweithio. Gall gweithio mewn ffordd hybrid hefyd ein helpu i ddiwallu anghenion defnyddwyr gwasanaeth a'r gymuned yn well, gan gydbwyso hynny â'r gallu i ddewis ble mae ein pobl yn gweithio. Rydym am alluogi pawb i wneud eu gwaith gorau.

Rydym yn gwybod bod cael rhywfaint o hyblygrwydd o ran ein trefniadau gweithio yn ein helpu i fod yn fwy cynhyrchiol ac yn cefnogi ein bywydau gwaith o ddydd i ddydd. Mae gweithio fel hyn yn cefnogi ein Gwerthoedd ac Ymddygiad Craidd, yn ein helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, yn gwella cynhyrchiant ac yn lleihau costau.

Mae hefyd yn cyfrannu at ein Strategaeth Gweithlu drwy sicrhau bod gennym y nifer cywir o bobl, sydd â'r sgiliau a'r agweddau cywir, yn eu lle ar yr adeg gywir. Mae ein canllawiau Gweithio Hybrid yn disgrifio sut y gall gweithwyr weithio o un o adeiladau'r cyngor, yn y gymuned, gartref neu gyfuniad o'r rhain, yn amodol ar barhad gwasanaeth. Nid yw'r trefniant hwn yn gontractiol a gellir ei addasu yn dibynnu ar yr amgylchiadau.

Cyn mabwysiadu dull gweithio hybrid, dylech drafod a chytuno ar eich trefniadau gweithio gyda'ch rheolwr. Dylai'r drafodaeth hon gael ei chofnodi'n lleol gan eich rheolwr. Bydd rheolwyr yn adolygu'r trefniant gweithio hwn o leiaf unwaith y flwyddyn i sicrhau ei fod yn gweithio i'r sefydliad, i'r tîm ac i chi fel unigolyn.