Canllawiau Gweithio Hybrid Mehefin 2024

4. Egwyddorion

Dyma rai egwyddorion allweddol sy'n sail i weithio mewn ffordd fwy hyblyg:

  • Mae'n seiliedig ar ymddiriedaeth. Rydym yn ymddiried ynoch chi i ddewis y mannau gorau, a'r dechnoleg sydd ar gael i gefnogi'r gwaith rydych yn ei wneud, ac i gydbwyso hyn ag anghenion eich gwasanaeth a'ch tîm yn ogystal â'ch anghenion eich hun.
  • Bydd eich perfformiad yn cael ei werthuso yn ôl yr effaith rydych yn ei chael a'r canlyniadau rydych yn eu cyflawni.
  • Mae'r ffordd hon o weithio yn agored i bawb sydd mewn rôl aml-leoliad waeth pa mor hir y maent wedi gweithio i ni. Mae hyn yn cynnwys ein gweithwyr asiantaeth a'n contractwyr, ar yr amod ei bod yn cefnogi darparu gwasanaethau.
  • Rydym yn ymrwymo i sicrhau bod gennych y dechnoleg a'r offer cywir i'ch cefnogi i weithio fel hyn.
  • Ni ddylai gweithio hybrid effeithio'n andwyol ar eich cydweithwyr na lefel neu ansawdd y gwasanaeth i'n cwsmeriaid.
  • Rydym yn gwybod bod cysylltu â'ch cydweithwyr ac eraill yn bwysig i'ch llesiant. Byddwn yn parhau i ddarparu swyddfeydd diogel i chi gydweithio a chysylltu â'ch gilydd.

Dyma rai pethau allweddol i'w cofio am weithio hybrid:

  • Bydd yn dibynnu ar a yw eich rôl yn un aml-leoliad, yr adran rydych yn gweithio ynddi, faint o oruchwyliaeth sydd ei hangen arnoch yn eich rôl, unrhyw lefelau gofynnol o ddarparu gwasanaeth wyneb yn wyneb yn ogystal â'r dechnoleg a'r amgylchedd sydd ar gael i chi.
  • Bydd ein hanghenion busnes yn flaenoriaeth wrth ystyried ein dull gweithredu a threfniadau gweithio unigol.
  • Ni fydd gweithio fel hyn yn newid eich telerau ac amodau cyflogaeth contractiol mewn perthynas ag oriau gwaith neu leoliad gwaith contractiol; mae'n drefniant anffurfiol y gellir ei newid yn dibynnu ar anghenion busnes.
  • Bydd eich lleoliad swyddogol contractiol at ddibenion hawlio costau yn cael ei nodi yn eich contract cyflogaeth ac ni fydd yn newid os ydych yn weithiwr presennol. Mae costau yn cael eu hawlio o'ch lleoliad gwaith swyddogol contractiol yn unol â'ch contract (nid eich cartref).
  • Nid yw hyn yr un peth â chytundeb gweithio hyblyg. Os ydych am wneud newid mwy parhaol i'ch oriau neu'ch patrwm gwaith, bydd angen i chi ofyn am hyn ar wahân drwy ein Polisi Gweithio Hyblyg. Gallwch lawrlwytho a darllen y polisi hwn o'n tudalennau Gweithio Hyblyg ar ein mewnrwyd.
  • Os ydych yn uniaethu fel person anabl a bod gennych unrhyw anghenion mynediad neu offer hygyrch, bydd y rhain yn cael eu hystyried wrth gynllunio ar gyfer gweithio hybrid. Cyfeiriwch at y canllawiau addasiadau rhesymol.
  • Bydd eich rheolwr yn gweithio gyda chi i ystyried sut y gallai gweithio hybrid weithio i chi ac i'ch tîm yn seiliedig ar anghenion y busnes.

Cofiwch fod unrhyw drefniant gweithio yn amodol ar gytundeb parhaus, ac weithiau efallai y bydd angen ei newid am resymau busnes.