Straeon Cynaliadwyedd

Diweddarwyd y dudalen: 08/10/2026

Mae gweithredu er budd yr hinsawdd yn rhywbeth y gall pawb fod yn rhan ohono. I ddechrau sgyrsiau am gynaliadwyedd, buom yn siarad â staff o wahanol dimau a rolau ar draws y sefydliad. O weithwyr rheng flaen i reolwyr, roedden nhw'n rhannu beth mae gweithredu er budd yr hinsawdd a chynaliadwyedd yn ei olygu iddyn nhw a sut mae'n effeithio ar eu gwaith a'u bywyd bob dydd gartref.

Os hoffech gymryd rhan a dweud eich barn am gynaliadwyedd a chael eich cynnwys yn y Straeon Cynaliadwyedd, dilynwch y ddolen a llenwch ffurflen Microsoft.

Cymryd Rhan

Wendy Walters

Beth yw eich rôl yn y Cynor a beth mae cynaliadwyedd yn ei olygu i chi?

Fel y Prif Weithredwr, fy rôl yw darparu arweinyddiaeth strategol i'r Cyngor, gan sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel, yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau cyhoeddus ac yn gweithio gyda phartneriaid i wella canlyniadau i'n cymunedau. Rwy'n gyfrifol am helpu'r sefydliad i gyflawni ei weledigaeth hirdymor wrth gydbwyso blaenoriaethau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd.

I mi, mae cynaliadwyedd yn ymwneud â gwneud penderfyniadau sy'n diwallu anghenion y genhedlaeth hon heb gyfaddawdu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain. Mae'n golygu creu cymunedau gwydn, diogelu ein hamgylchedd, cefnogi economi leol gref a sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i fod yn effeithiol ac yn fforddiadwy yn y blynyddoedd nesaf.

Sut ydych chi'n teimlo bod cynaliadwyedd yn cynnwys eich rôl?

Mae cynaliadwyedd yn ystyriaeth allweddol ym mron pob agwedd ar fy rôl. P'un a ydyn ni'n datblygu polisïau, buddsoddi mewn seilwaith, cynllunio gwasanaethau neu reoli ein hystad, mae'n rhaid i ni ystyried effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol ac ariannol hirdymor wrth wneud penderfyniadau.

Fel y Prif Weithredwr, mae gen i gyfrifoldeb i sicrhau bod cynaliadwyedd yn cael ei ymgorffori ar draws y sefydliad yn hytrach na chael ei thrin fel mater annibynnol. Mae hyn yn cynnwys cefnogi ein huchelgeisiau sero net, hyrwyddo teithio a chaffael cynaliadwy, annog arloesedd a sicrhau bod ystyriaethau o ran yr hinsawdd yn cael eu hadlewyrchu yn ein prosesau cynllunio strategol a gwneud penderfyniadau.

Pa agwedd ar yr amgylchedd sy'n ei olygu fwyaf i chi a pham?

Yr agwedd ar yr amgylchedd sy'n golygu fwyaf i mi yw diogelu a gwella ein hadnoddau naturiol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae hyn yn cynnwys ein mannau gwyrdd, bioamrywiaeth, afonydd, arfordir a chefn gwlad.

Mae'r asedau amgylcheddol hyn yn sylfaenol i iechyd a llesiant yn ein cymunedau, yn cyfrannu at ffyniant economaidd trwy dwristiaeth a hamdden, ac yn chwarae rhan hanfodol wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Rwy'n credu bod gyda ni gyfrifoldeb i fod yn geidwaid da o'r amgylchedd fel y gall cenedlaethau'r dyfodol fwynhau'r un manteision ag yr ydym yn eu  gwneud heddiw.

Beth ydych chi'n ei wneud yn y gwaith/cartref i fod yn fwy cynaliadwy a helpu i ddiogelu'r amgylchedd?

Yn y gwaith, rwy'n annog arferion gweithio digidol i leihau'r defnydd o bapur, cefnogi cyfarfodydd rhithwir lle bo hynny'n briodol i leihau teithio a hyrwyddo defnydd effeithlon o ynni ac adnoddau ar draws y sefydliad.

Yn y cartref, rwy'n ceisio gwneud dewisiadau sy'n fwy ymwybodol o'r amgylchedd yn fy mywyd. Mae hyn yn cynnwys ailgylchu, lleihau gwastraff, arbed ynni a dŵr, cefnogi busnesau lleol lle bo'n bosibl a dewis opsiynau teithio cynaliadwy pryd bynnag y bo'n ymarferol. Er na all unrhyw unigolyn ddatrys heriau amgylcheddol ar ei ben ei hun, gall camau bach o hyd ac o hyd wneud gwahaniaeth ystyrlon.

Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i rywun sydd eisiau bod yn fwy cyfeillgar i'r amgylchedd?

Fy nghyngor fyddai dechrau'n raddol a chanolbwyntio ar newidiadau y gellir eu cynnal dros amser. Gall pobl weithiau deimlo fod yr heriau amgylcheddol yn ormod, ond mae pob cam bach yn gwneud gwahaniaeth.