Strategaethau a Chynlluniau

Diweddarwyd y dudalen: 26/09/2024

Mae pob adran ac uned fusnes yn cynhyrchu Cynllun Busnes, sy'n amlinellu'r amcanion a'r adnoddau ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Mae copïau o'r holl ddogfennau hyn ar gael gan eich Rheolwr Llinell.

Mae’r Polisi Diogelu Corfforaethol hwn yn darparu fframwaith ar gyfer pob gwasanaeth yn y Cyngor gan nodi cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sy’n wynebu risg yn ogystal â’r dulliau y bydd y Cyngor yn eu defnyddio i wybod yn sicr ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Polisi Diogelu Corfforaethol

Mae'r strategaeth hon wedi'i chyhoeddi a hi sy'n gyrru gwaith cynllunio busnes a phroses cynllunio gwelliant y Cyngor ac fe gaiff ei monitro trwy PIMS

Strategaeth Gorfforaethol 2022 - 2027

Mae argyfyngau'n digwydd. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Cymru wedi dioddef tywydd gaeafol eithafol, llifogydd, tarfu ar deithio, diffyg tanwydd, clefydau ymysg anifeiliaid, a'r pandemig COVID-19.

Mae'r Llywodraeth wedi rhoi deddfwriaeth statudol ar waith i'n helpu i wynebu'r her o ymdrin ag argyfyngau o'r fath.

Y Cefndir

Yn dilyn yr argyfwng tanwydd a'r llifogydd difrifol yn yr hydref a'r gaeaf yn 2000 a Chlwy’r Traed a’r Genau yn 2001, cyhoeddodd y Llywodraeth adolygiad o drefniadau cynlluniau argyfwng. Roedd yr adolygiad yn cynnwys ymarfer ymgynghori cyhoeddus a oedd yn cyfnerthu casgliad y Llywodraeth nad oedd y ddeddfwriaeth bresennol yn rhoi fframwaith digonol bellach ar gyfer ymdrechion diogelwch sifil modern a bod angen deddfwriaeth newydd. 

Yn sgil hyn cyflwynwyd y Bil Argyfyngau Sifil i'r Senedd ar 7 Ionawr 2004. Cafodd y Bil Gydsyniad Brenhinol ar 18 Tachwedd 2004 ac o hynny ymlaen cafodd ei adnabod fel Deddf Argyfyngau Sifil 2004 (y "Ddeddf").

Trosolwg ar y Ddeddf

Rhennir y Ddeddf yn ddwy ran sylweddol:

  • Rhan 1: yn canolbwyntio ar drefniadau lleol ar gyfer diogelwch sifil, gan sefydlu fframwaith statudol o reolau a chyfrifoldebau ar gyfer ymatebwyr lleol.
  • Rhan 2: yn canolbwyntio ar bwerau brys, gan sefydlu fframwaith modern ar gyfer defnyddio mesurau deddfwriaethol arbennig a allai fod yn angenrheidiol i ymdrin ag effeithiau'r argyfyngau mwyaf difrifol.

Rhan allweddol o foderneiddio'r ddeddfwriaeth bresennol yw diweddaru'r hyn a olygir gan "argyfwng".

Diffinio Argyfwng

Mae diffiniad argyfwng yn y Ddeddf yn canolbwyntio ar ganlyniadau argyfyngau. Yn y ddeddf, diffiniad argyfwng yw:

  • digwyddiad neu sefyllfa sy'n bygwth niwed difrifol i les dynol;
  • digwyddiad neu sefyllfa sy'n bygwth niwed difrifol i’r amgylchedd; neu
  • rhyfel, neu derfysgaeth, sy'n bygwth niwed difrifol i ddiogelwch.

Oherwydd bod Awdurdodau Lleol yn cael eu cynnwys fel Ymatebwyr "Categori 1" ynghyd â'r Gwasanaethau Brys, Cyrff Iechyd ac Asiantaethau'r Llywodraeth, mae'n rhaid iddynt gydymffurfio â chwe "dyletswydd" o dan y Ddeddf.

Y rhain yw: 

  • Asesu'r risg o argyfyngau a defnyddio hyn i lywio cynlluniau wrth gefn;
  • Rhoi cynlluniau argyfwng ar waith;
  • Rhoi trefniadau Rheoli Parhad Busnes ar waith;
  • Rhoi trefniadau ar waith i sicrhau bod gwybodaeth ar gael i'r cyhoedd am faterion diogelwch sifil a chynnal trefniadau i rybuddio, hysbysu a chynghori'r cyhoedd os bydd argyfwng;
  • Rhannu gwybodaeth ag ymatebwyr lleol eraill i wella cydgysylltu ac effeithlonrwydd;
  • Cydweithredu ag ymatebwyr lleol eraill i wella cydgysylltu ac effeithlonrwydd;

Cymunedau'n Trechu Terfysgaeth

Rydym yn falch o gefnogi Ymgyrch ACT – Gweithredu i Drechu Terfysgaeth Plismona Gwrthderfysgaeth i annog y cyhoedd i helpu'r heddlu i fynd i'r afael â therfysgaeth ac achub bywydau drwy roi gwybod am unrhyw ymddygiad a gweithgaredd amheus.

Mae'r bygythiad terfysgol yn parhau, a bellach mae'n bwysicach nag erioed fod pawb – gan gynnwys staff y Cyngor – yn cyfrannu at fynd i'r afael â therfysgaeth. Gallai ein gweithredoedd achub bywydau.

Yn yr un modd â throseddwyr eraill, mae angen i derfysgwyr gynllunio. Os ydych yn clywed rhywbeth anarferol neu amheus, dilynwch eich greddf a GWEITHREDWCH drwy roi gwybod yn gyfrinachol ar gov.uk/ACT. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.

Gwyliwch y ffilm ACT i ddysgu rhagor

Dolnnau Defnyddiol

Mae’r dolenni isod yn rhoi rhagor o wybodaeth ynghylch sut mae’r dyletswyddau hyn yn berthnasol i Gyngor Sir Caerfyrddin. Nodwch fod y dolenni hyn ar gael i rai swyddogion yn unig yn yr Awdurdod.

Oherwydd deddfwriaeth ddiweddar sy’n ymwneud â’r Gymraeg a datblygiadau ym maes polisi iaith yng Nghymru, mae hi’n amserol i Gyngor Sir Gâr i sicrhau bod trefniadau priodol a digonol yn eu lle i staffio gwasanaethau dwyieithog yn Gymraeg a Saesneg i’r cyhoedd yng Nghymru.

Rydym yn gwbl ymroddedig i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth i chi a'r gymuned yr ydym yn ei wasanaethu drwy ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Rydym yn darparu gwybodaeth a chyfarwyddyd i chi am ein hymrwymiad a'n cyfrifoldebau unigol er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni'n nodau.

Mae Safonau’r Iaith Gymraeg yn egluro cyfrifoldeb yr Awdurdod i ddarparu gwasanaeth ddwyieithog i’n cwsmeriaid ac i hyrwyddo defnydd y Gymraeg yn ein gweithle.

Gellir cael mwy o fanylion yn yr Hysbysiad Cydymffurfio oddi wrth Comisiynydd yr Iaith Gymraeg.

Mae'r pecyn cymorth hwn yn cynnwys offer gwahanol a fydd o gymorth yn y gwahanol gyfnodau o gynllunio gweithlu. Lluniwyd ar gyfer Pobl ar gyfer Penaethiaid Gwasanaeth a'u timau rheoli i'w helpu i nodi blaenoriaethau a chamau gweithredu allweddol y bydd eu hangen ar eu gwasanaeth er mwyn iddo ymateb i faterion yn ymwneud â'r gweithlu yn y dyfodol.

Mae'r Cynllun hwn yn amlinellu'r prif amcanion ar gyfer cefnogi gweithwyr, boed yn ystod y broses recriwtio, yn y gwaith neu adeg ymddeol.

Strategaeth Gweithlu Ebril 2024

Llwythwch mwy