2. Ynghylch ein Strategaeth Gweithlu

Mae ein Strategaeth Gweithlu yn cefnogi gweledigaeth y Cyngor ac yn diffinio sut y byddwn yn meithrin y gallu, y sgiliau a'r diwylliant sydd eu hangen arnom ar gyfer ein gweithlu. Yn ogystal â diwallu ein hanghenion presennol, mae hefyd yn diwallu anghenion ein gweithlu yn y dyfodol. Bydd hyn yn cynnwys strategaethau ar gyfer datblygu gweithwyr, cynllunio olyniaeth, recriwtio a chadw sy'n ystyried cynaliadwyedd tymor hir a'r effaith ar genedlaethau'r dyfodol.

Mae'r Strategaeth yn disgrifio pum amcan allweddol ar gyfer gweithredu, i gefnogi a datblygu ein gweithlu, cryfhau ein galluoedd fel sefydliad, a thrawsnewid sut rydym yn gwneud pethau. Drwy alinio ein Strategaeth Gweithlu â blaenoriaethau corfforaethol y Cyngor, byddwn yn sicrhau bod y Strategaeth hon yn canolbwyntio ar sicrhau bod pwrpas, gweledigaeth a gwerthoedd y Cyngor yn rhan annatod o'n holl waith.

2.1. Ein Datganiad Gweledigaeth y Cabinet (2022 – 2027)

Mae ein Datganiad Gweledigaeth y Cabinet yn cydnabod rôl bwysig ein gweithlu wrth gyflawni ei uchelgais pum mlynedd. Mae ganddo ddisgwyliadau clir iawn o ran ein gweithlu, ac mae'r rhain wedi cael eu defnyddio i lywio camau gweithredu ein Strategaeth Gweithlu (gweler Atodiad 1).

2.2. Ein Strategaeth Gorfforaethol (2022 - 2027)

Mae ein Strategaeth Gorfforaethol yn glir ynghylch yr angen i foderneiddio a datblygu ymhellach fel Cyngor gwydn ac effeithlon yn dilyn y pandemig, ac mae ein gweithlu yn allweddol i hyn. Mae'n cydnabod manteision cael gweithlu mwy hyblyg, deinamig a grymusol i gefnogi ein rhaglen drawsnewid, ac i'n helpu i gyflawni ein nodau a'n hamcanion ehangach.

2.3. Ein Gwerthoedd Craidd

Mae ein gwerthoedd yn rhan annatod o'n Strategaeth Gweithlu ac yn cael eu dylanwadu gan y Saith Egwyddor Ymddygiad mewn Gwasanaethau Cyhoeddus (Egwyddorion Nolan). Roedd ein pobl, uwch-swyddogion ac aelodau etholedig ynghlwm wrth ddatblygu ein Gwerthoedd Craidd, sydd bellach yn adlewyrchu'r math o sefydliad rydym am fod:

  • Gweithio fel Un Tîm
  • Rhoi ein Cwsmeriaid yn Gyntaf
  • Gwrando i Wella
  • Ymdrechu i Ragori
  • Gweithredu gydag Uniondeb
  • Cymryd Cyfrifoldeb.

Mae'r gwerthoedd hyn yn ategu ac yn arwain ein ffordd o weithio, ein ffordd o wella, ein ffordd o weithio gyda phartneriaid, a'n ffordd o wneud penderfyniadau i gefnogi'r gymuned yr ydym yn ei gwasanaethu.

2.4. Ein Strategaeth Gorfforaethol (2022 - 2027)

Mae ein gweithlu wrth wraidd uchelgais ein Strategaeth Drawsnewid. Mae'n cydnabod mai ein gweithwyr yw ein hased pwysicaf a'u bod yn cyfrif am dros 60% o gyfanswm gwariant y Cyngor. ‘Bydd recriwtio, cadw, datblygu a llesiant ein gweithlu i’r dyfodol yn allweddol ar gyfer cyflawni Rhaglen Drawsnewid lwyddiannus ac i amcanion strategol ehangach y Cyngor' (gweler Atodiad 2).