1. Cyflwyniad gan y Prif Weithredwr a'r Aelod Cabinet
Rydym yn falch o'n Sir gan fod Sir Gaerfyrddin yn lle gwych i fyw, gweithio, ac ymweld ag ef. Fel Cyngor, rydym hefyd yn hynod falch o'r bobl sy'n gweithio i ni. Mae ein gwasanaethau yn cael eu darparu gan ein pobl, a'n pobl ni sy'n gwneud y Cyngor hwn yr hyn ydyw.
Rydym wedi gweithio'n galed i rymuso a chefnogi ein pobl i greu diwylliant 'Un tîm' cynhwysol. Cafodd hyn ei gydnabod yn 2022, pan wnaethom ennill achrediad safon Aur Buddsoddwyr mewn Pobl, gyda'r adroddiad yn nodi: ‘Mae'r sefydliad yn cyflawni canlyniadau rhagorol o ganlyniad i'r ffyrdd y mae pobl yn cael eu hannog a'u grymuso i fod yn ystwyth, yn arloesol ac yn gydweithredol’. Fodd bynnag, gellir gwneud rhagor.
Rydym yn gwybod bod y byd yn newid, a bydd y ffordd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu yn parhau i newid, felly nid yw gwneud mwy o'r un peth yn gynaliadwy. Cafodd pandemig COVID-19 effaith fawr ar y ffordd rydym yn gweithio, ac, ar ôl rhoi ystyriaeth i'n profiadau, rydym bellach yn edrych ymlaen. Trwy gynnwys yr Egwyddor Datblygu Cynaliadwy yn llawn wrth flaengynllunio, rydym wedi llunio Strategaeth sy'n nodi sut rydym yn bwriadu siapio ein gweithlu dros y 5 mlynedd nesaf, gan sicrhau, gyda'n gilydd, fel un Cyngor ac un tîm, y gallwn ganolbwyntio ar wneud yr hyn sy'n bwysig i'n trigolion a busnesau lleol.
Ar hyn o bryd mae'r farchnad recriwtio yn heriol, ac mae cyfyngiadau cyllidebol yn golygu ei bod yn anodd i ni gynnig cyflogau cystadleuol. Fel pob corff arall yn y sector cyhoeddus, byddai'n ffôl tanamcangyfrif yr heriau ariannol sylweddol rydym yn eu hwynebu, mewn sefyllfa lle mae llai o gyllid a mwy o alw am wasanaethau. Mae hyn yn golygu y bydd angen i ni fod yn agored i ffyrdd newydd o weithio a ffyrdd gwahanol o feddwl. Rydym yn gwybod hefyd ei bod yn debygol y bydd gweithlu'r dyfodol yn wahanol i'r hyn sydd gennym heddiw ac angen sgiliau gwahanol, felly bydd angen i ni fuddsoddi yn ein pobl, yn ogystal â thyfu a datblygu ein harweinwyr ein hunain, fel eu bod yn barod i gwrdd â'r heriau sy'n ein hwynebu.
Drwy'r cyfnod hwn o newid a thrawsnewid, byddwn yn sicrhau bod ein pobl yn cael eu harwain, eu cefnogi, yr ymddiriedir ynddynt ac yn cael eu cydnabod am y cyfraniad a wnânt, gan sicrhau eu bod yn cael eu trin yn deg, gyda pharch ac yn cael eu hannog i gyflwyno syniadau ynghylch sut y gallwn wella'r hyn a wnawn. Byddwn hefyd yn annog ein pobl i groesawu newid ac ymgysylltu â'n rhaglen drawsnewid i'n helpu i foderneiddio'r gwasanaethau a ddarparwn ac adeiladu Cyngor mwy gwydn ac effeithlon.
Yn olaf, ni allwn wireddu ein huchelgeisiau heb ein gweithlu ymroddedig a brwdfrydig. Felly, byddwn yn gweithio gyda'n gilydd, yn agored, yn onest, yn deg ac yn gynhwysol, sef yr ymrwymiad sy'n sail i'r strategaeth hon.
Wendy Walter a'r Cynghorydd Philip Hughes
2. Ynghylch ein Strategaeth Gweithlu
Mae ein Strategaeth Gweithlu yn cefnogi gweledigaeth y Cyngor ac yn diffinio sut y byddwn yn meithrin y gallu, y sgiliau a'r diwylliant sydd eu hangen arnom ar gyfer ein gweithlu. Yn ogystal â diwallu ein hanghenion presennol, mae hefyd yn diwallu anghenion ein gweithlu yn y dyfodol. Bydd hyn yn cynnwys strategaethau ar gyfer datblygu gweithwyr, cynllunio olyniaeth, recriwtio a chadw sy'n ystyried cynaliadwyedd tymor hir a'r effaith ar genedlaethau'r dyfodol.
Mae'r Strategaeth yn disgrifio pum amcan allweddol ar gyfer gweithredu, i gefnogi a datblygu ein gweithlu, cryfhau ein galluoedd fel sefydliad, a thrawsnewid sut rydym yn gwneud pethau. Drwy alinio ein Strategaeth Gweithlu â blaenoriaethau corfforaethol y Cyngor, byddwn yn sicrhau bod y Strategaeth hon yn canolbwyntio ar sicrhau bod pwrpas, gweledigaeth a gwerthoedd y Cyngor yn rhan annatod o'n holl waith.
2.1. Ein Datganiad Gweledigaeth y Cabinet (2022 – 2027)
Mae ein Datganiad Gweledigaeth y Cabinet yn cydnabod rôl bwysig ein gweithlu wrth gyflawni ei uchelgais pum mlynedd. Mae ganddo ddisgwyliadau clir iawn o ran ein gweithlu, ac mae'r rhain wedi cael eu defnyddio i lywio camau gweithredu ein Strategaeth Gweithlu (gweler Atodiad 1).
2.2. Ein Strategaeth Gorfforaethol (2022 - 2027)
Mae ein Strategaeth Gorfforaethol yn glir ynghylch yr angen i foderneiddio a datblygu ymhellach fel Cyngor gwydn ac effeithlon yn dilyn y pandemig, ac mae ein gweithlu yn allweddol i hyn. Mae'n cydnabod manteision cael gweithlu mwy hyblyg, deinamig a grymusol i gefnogi ein rhaglen drawsnewid, ac i'n helpu i gyflawni ein nodau a'n hamcanion ehangach.
2.3. Ein Gwerthoedd Craidd
Mae ein gwerthoedd yn rhan annatod o'n Strategaeth Gweithlu ac yn cael eu dylanwadu gan y Saith Egwyddor Ymddygiad mewn Gwasanaethau Cyhoeddus (Egwyddorion Nolan). Roedd ein pobl, uwch-swyddogion ac aelodau etholedig ynghlwm wrth ddatblygu ein Gwerthoedd Craidd, sydd bellach yn adlewyrchu'r math o sefydliad rydym am fod:
- Gweithio fel Un Tîm
- Rhoi ein Cwsmeriaid yn Gyntaf
- Gwrando i Wella
- Ymdrechu i Ragori
- Gweithredu gydag Uniondeb
- Cymryd Cyfrifoldeb.
Mae'r gwerthoedd hyn yn ategu ac yn arwain ein ffordd o weithio, ein ffordd o wella, ein ffordd o weithio gyda phartneriaid, a'n ffordd o wneud penderfyniadau i gefnogi'r gymuned yr ydym yn ei gwasanaethu.
2.4. Ein Strategaeth Gorfforaethol (2022 - 2027)
Mae ein gweithlu wrth wraidd uchelgais ein Strategaeth Drawsnewid. Mae'n cydnabod mai ein gweithwyr yw ein hased pwysicaf a'u bod yn cyfrif am dros 60% o gyfanswm gwariant y Cyngor. ‘Bydd recriwtio, cadw, datblygu a llesiant ein gweithlu i’r dyfodol yn allweddol ar gyfer cyflawni Rhaglen Drawsnewid lwyddiannus ac i amcanion strategol ehangach y Cyngor' (gweler Atodiad 2).
3. Ein Huchelgais fel Cyflogwr
Ein huchelgais yw bod yn 'gyflogwr o ddewis', gan greu gweithle sy'n meithrin twf, cyflawniad a boddhad. Ni yw un o gyflogwyr mwyaf y rhanbarth, ac mae pobl yn gweithio mewn amryw swyddi rheng flaen, technegol, cefn swyddfa, a phroffesiynol.
Byddwn yn gweithio i sicrhau bod ein pobl yn teimlo wedi'u gwerthfawrogi, eu hysbrydoli, a'u grymuso i gyflawni ein hamcanion a darparu'r gwasanaethau gorau posibl i'n trigolion. Byddwn hefyd yn gweithio i fod yn sefydliad sy'n perfformio'n dda, sy'n gweithio fel un tîm, sy'n gynhwysol ac yn arloesol, ac i fod yn gyflogwr sy'n annog talent i ffynnu ac yn meithrin gallu'r gweithlu i gyflawni ein huchelgeisiau. Man lle gall pawb siarad allan a chael llais, lle mae tegwch a chydraddoldeb yn teimlo'n real, a lle nad yw bwlio, aflonyddu na gwahaniaethu yn cael eu goddef. Byddwn yn cyfathrebu ein gwerthoedd brand yn glir fel mai'r bobl sydd eisiau gweithio i ni yw'r rhai sy'n cyd-fynd yn naturiol â'n gwerthoedd.
4. Ein Rôl o ran Darparu Gwasanaethau Dwyieithog
Rydym yn deall bod y Gymraeg yn allweddol i hunaniaeth nifer o'n trigolion ac yn aml iawn bod pobl yn gallu mynegi eu barn a'u hanghenion yn well yn eu hiaith gyntaf. Felly mae'n ddyletswydd arnom i sicrhau bod ein trigolion a'n cwsmeriaid yn gallu cyrchu ein gwasanaethau trwy eu dewis iaith a sicrhau bod gan ein gweithwyr y sgiliau gofynnol.
Gan weithio ochr yn ochr â Phanel Ymgynghorol yr Iaith Gymraeg, rydym yn cefnogi hyrwyddo a datblygu'r Gymraeg yng nghyd-destun sicrhau ein bod yn gallu recriwtio i swyddi allweddol a hanfodol.
Mae data'r Cyfrifiad diweddaraf ar gyfer 2021 yn dweud wrthym fod Sir Gaerfyrddin yn gartref i 72,838 o siaradwyr Cymraeg. Mae hyn yn cyfateb i 39.9% o gyfanswm poblogaeth y sir. Mae'r ffigur hwn wedi gostwng 5,210 ers y Cyfrifiad diwethaf yn 2011, sy'n cyfateb i ostyngiad pwynt canran o 4.0. Dyma'r gostyngiad mwyaf fel pwynt canran o blith holl awdurdodau lleol Cymru.
Yn 2001 a 2011, Sir Gaerfyrddin oedd â'r nifer uchaf o siaradwyr Cymraeg o bob awdurdod lleol yng Nghymru, gydag 84,196 o siaradwyr Cymraeg yn 2001 a 78,048 o siaradwyr Cymraeg yn 2011. Mae'r ffigurau newydd hyn yn golygu bod gan y sir bellach y nifer ail uchaf o siaradwyr Cymraeg o bob awdurdod lleol yng Nghymru. Sir Gaerfyrddin yw'r pedwerydd uchaf o hyd o ran canran y boblogaeth sy'n medru siarad Cymraeg.
Yn unol â Strategaeth Hybu’r Gymraeg (llyw.cymru) a'r ymrwymiadau a nodir yn Safonau'r Gymraeg, Strategaeth Sgiliau'r Gymraeg, a'r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth mae'r Strategaeth hon yn adleisio'r hyn y bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei wneud i hwyluso'r gwaith o ddarparu gwasanaethau dwyieithog.
5. Hyrwyddo Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Byddwn yn gweithio i greu gweithle lle mae pawb yn cael eu trin yn gyfartal a chydag urddas, a lle mae gan bawb fynediad teg at adnoddau, dysgu a chyfleoedd. Rydym hefyd eisiau gweithle â diwylliant cynhwysol sy'n darparu lle arloesol, cefnogol a diddorol i'n pobl weithio ynddo, yn ogystal â'u galluogi i ymgysylltu'n llawn yn ein gwaith i helpu cymunedau i ffynnu.
Gwyddom fod cyflogi pobl sydd ag amrywiaeth o gefndiroedd, profiadau a syniadau gwahanol yn cynyddu creadigrwydd ac yn arwain at welliant o ran datrys problemau a gwneud penderfyniadau. Rydym hefyd yn gwybod y gall gweithle sy'n annog cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant helpu i ddenu a chadw pobl dda a gwasanaethu ein hystod amrywiol o gwsmeriaid yn well, tra'n cadw ein pobl wedi'u hymgysylltu ac yn llawn cymhelliant. O'i roi'n syml, mae sefydliadau tecach yn perfformio'n well. Yn unol â'n hymrwymiadau, a nodir yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol mae'r Strategaeth hon yn adleisio'r hyn byddwn yn ei wneud i gyflawni hyn.
6. Ynghylch ein Gweithlu
Yn genedlaethol, gwyddom fod tua 30% o weithlu'r DU dros 50 oed, a bod y ganran hon yn mynd i barhau i gynyddu. Yn lleol, ers Cyfrifiad 2011, mae Sir Gaerfyrddin wedi gweld cynnydd o 19% bron yn nifer y bobl 65 oed a hŷn a gostyngiad o 2.5% yn nifer y bobl 15 i 64 oed. O ystyried y sefyllfa gymdeithasol/economaidd a'r cynnydd yng nghostau byw gyda chwyddiant uwch, mae'n anochel y bydd llawer o bobl yn gweithio am fwy o amser. Fodd bynnag, cydnabyddir bod y pandemig wedi cael effaith ar y dewisiadau personol y mae rhai pobl yn eu cymryd mewn perthynas ag ymddeoliad cynnar, llai o oriau, a'r angen am amgylchedd gwaith mwy hyblyg.
Wrth i'n poblogaeth dyfu'n hŷn, nid yw cyn symled yn ymarferol â disodli'r rhai sy'n ymddeol gyda phobl iau. Felly, bydd angen i ni ystyried sut rydym yn gofalu am iechyd a llesiant ein gweithlu i helpu i ymestyn eu bywydau gwaith.
Rydym hefyd yn un o'r cyflogwyr mwyaf yn y Sir ac ar hyn o bryd yn cyflogi:
- 8,665 o bobl (6,566 cyfwerth ag amser llawn) yn meddiannu 5,022 o swyddi gydag ychydig llai na 100 o weithwyr yn cael eu cyflogi drwy asiantaeth gyflogaeth ar unrhyw adeg benodol.
- Mae gan 45% o'n pobl dros 10 mlynedd o wasanaeth.
- Mae 27% yn debygol o ymddeol yn y deng mlynedd nesaf.
- Mae gan 11.77% o'n pobl anabledd datganedig.
- Y cyflog cyfartalog yn y Cyngor yw £27,128.
- Mae trosiant gwirfoddol ar hyn o bryd yn 9.11%, sy'n is na chyfartaledd y DU.
Mae Tabl 1 isod yn darparu dadansoddiad proffil oedran manwl:
Tabl 1
| Ystod Oedran | Nifer | Cyfran y gweithlu |
| Dan 25 oed | 482 | 5.6% |
| 25-44 | 3,476 | 40% |
| 45-54 | 2,405 | 28% |
| 55-64 | 1,957 | 23% |
| Dros 65 | 345 | 4% |
Mae'r siartiau cylch canlynol yn darparu dadansoddiad pellach o'n gweithlu presennol:
Oed
Rhywedd
Statws Contract
Amser Llawn V Rhan-amser
7. Amcanion ein Strategaeth Gweithlu
Nod cyffredinol y Strategaeth hon yw cefnogi cyflawni ein blaenoriaethau corfforaethol drwy sicrhau bod gennym y nifer cywir o bobl, sydd â'r sgiliau a'r agweddau cywir, mewn lle ar yr adeg gywir. Byddwn yn cyrraedd y nod hwn drwy gyflawni ein pum Amcan Strategaeth y Gweithlu.
Amcanion Strategol y Gweithlu:
- Denu, Recriwtio, a Chadw Talent
- Tyfu Arweinwyr a Rheolwyr Eithriadol
- Gwella Ymgysylltu â'r Gweithlu
- Datblygu Diwylliant Perfformiad Uchel, Blaengar a Chyflawni
- Datblygu a Chynnal Gweithlu Diogel ac Iach
7.1. AMCAN STRATEGOL Y GWEITHLU 1: Denu, Recriwtio a Chadw Talent
Fel llawer o gyflogwyr yn y DU, mae Llywodraeth Leol yn delio â marchnad recriwtio heriol oherwydd bylchau sgiliau mewn rhai sectorau allweddol a chyfyngiadau cyllidebol sy'n ei gwneud yn anodd i ni gynnig cyflogau cystadleuol yn gyson.
Er mwyn denu a recriwtio gweithlu amrywiol yn ddiogel, sydd â gweithwyr ac arweinwyr talentog, bydd angen i ni sicrhau brandio effeithiol o ran y cyflogwr a hyrwyddo'r Cyngor yn effeithiol fel 'cyflogwr o ddewis’.
Gan ddarparu cyfleoedd i'n pobl ffynnu mewn amgylchedd gwaith diogel, byddwn yn cefnogi ac yn annog talent bosibl trwy gynnig cyfleoedd dysgu o ansawdd uchel, datblygiad personol, llwybrau gyrfa clir a phecyn buddion cyfan sy'n deg. Felly, bydd cynllunio gweithlu effeithiol ar bob lefel yn hanfodol er mwyn sicrhau bod gennym y bobl gywir â'r sgiliau cywir ar gyfer y swyddi cywir ar yr adeg gywir.
Mewn amgylchedd sy'n newid yn gyson, rydym yn gwybod y bydd y galw am wasanaethau megis gofal cymdeithasol, tai a diogelu ein hamgylchedd yn parhau. Bydd hyn hefyd, yn ddieithriad, yn effeithio ar y gefnogaeth cefn swyddfa sydd ei hangen i ddarparu'r gwasanaethau hynny yn ogystal â'r math o wytnwch sydd ei angen arnom ar lefel arweinyddiaeth. Mae prinder sgiliau parhaus, newid yn nemograffeg y farchnad lafur, a gofynion gweithwyr am gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, wedi creu cynnydd yn y gystadleuaeth am dalent.
Mae'r agenda ddigidol wedi dod yn fwyfwy pwysig, felly byddwn yn dangos i'n pobl ein bod yn eu gwerthfawrogi trwy eu cefnogi i ddatblygu'r sgiliau sy'n angenrheidiol ar gyfer swyddi'r dyfodol. Y sgiliau a fydd yn ein helpu i drawsnewid, moderneiddio ac adfywio gwasanaethau. Trwy ailgynllunio gwasanaethau o safbwynt cwsmeriaid a defnyddio technoleg, deallusrwydd artiffisial a roboteg fel galluogwr, byddwn yn gallu cyflawni'r canlyniadau gorau i'n trigolion o fewn yr adnoddau gostyngol sydd ar gael i ni, gan leihau costau a gwella effeithlonrwydd trwy ffyrdd mwy clyfar o weithio.
Er mwyn llwyddo yn yr amgylchedd hwn sy'n newid yn barhaus ac aros yn gystadleuol o ran y farchnad recriwtio, bydd angen i ni wella ein cynnig cyflogaeth a sicrhau bod cynifer o fanteision ag sy'n bosib ynghlwm wrth weithio i ni, megis polisïau rheoli pobl hyblyg, buddion/gostyngiadau i staff a gweithio hybrid, fel ein bod yn gallu denu a chadw'r bobl orau.
Byddwn hefyd yn adolygu ein strategaethau, ein polisïau a'n harferion, ynghyd â sut rydym yn datblygu, defnyddio a chadw talent. Byddwn yn parhau i ddatblygu ein cynlluniau gweithlu i ddeall y galluoedd angenrheidiol ac i benderfynu ar y talentau sy'n ofynnol gan ein gweithlu.
Bydd pwysau ariannol parhaus yn rhoi pwyslais ar yr angen i wneud gwell defnydd o'r adnoddau ariannol sydd ar gael i ni. Mae ein Panel Ymgynghorol ynghylch y Polisi Tâl yn cydnabod hyn ac wedi mynegi ei awydd i gynnal adolygiad a fydd yn canolbwyntio ar strwythurau uwch-swyddogion, rhychwantau rheoli a chyflogau i sicrhau bod ein strwythur sefydliadol yn addas i'r diben ac yn gost-effeithiol wrth symud ymlaen.
I grynhoi, byddwn yn denu'r doniau gorau trwy gynnig pecyn 'cyflogwr o ddewis', sicrhau cynllunio gweithlu ac olyniaeth effeithiol, a symleiddio ein strwythurau sefydliadol. Bydd hyn yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau o ansawdd da tra'n gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael i ni.
Byddwn yn cyflawni hyn drwy:
- Adolygu ein model cyflogau, gan sicrhau ei fforddiadwyedd, er mwyn cefnogi ein huchelgais o fod yn 'gyflogwr o ddewis’.
Cyflwyno strategaeth recriwtio ddiwygiedig sy'n adlewyrchu ymrwymiad corfforaethol i gydraddoldeb ac amrywiaeth, tra'n sicrhau bod arferion recriwtio diogel ar waith. - Hyrwyddo arferion cyflogaeth diogel.
- Adolygu a symleiddio ein prosesau recriwtio presennol ac ymgorffori safonau ac arferion cyson i gefnogi denu, dewis a chadw'r doniau gorau sydd ar gael.
- Adolygu'r broses recriwtio a dewis ar gyfer uwch-swyddogion i adlewyrchu'r newidiadau sy'n ofynnol gan ein harweinwyr wrth i ni symud ymlaen.
- Recriwtio a chadw pobl sy'n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd trwy fabwysiadu fframwaith cymhwysedd wedi'i alinio.
- Datblygu cylch gorchwyl i adolygu strwythurau ein huwch-swyddogion, rhychwantau rheoli a chyflogau er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu anghenion y sefydliad a chydraddoldeb.
- Adolygu'r broses sefydlu o'r dechrau i'r diwedd gan gynnwys lansio rhaglen sefydlu gorfforaethol newydd sy'n adlewyrchu ein brand corfforaethol.
- Adolygu effeithiolrwydd ein strategaethau cadw, fel talu atchwanegiadau marchnad, er mwyn sicrhau y ceir y canlyniadau a ddymunir.
- Sicrhau bod gan weithwyr y sgiliau a'r gallu i ymateb i ffyrdd newydd o weithio drwy ddatblygu llwybrau gyrfa a chyfleoedd cynhwysol i dalent dyfu.
- Datblygu gweithlu gwydn drwy gryfhau'r gweithlu a chynllunio olyniaeth ymhellach.
- Datblygu rhwydwaith o hyrwyddwyr a all ddarparu meysydd dysgu allweddol.
- Nodi potensial ar draws ein gweithlu amrywiol, gan sicrhau bod ein holl bobl yn cael y cyfle i gyrraedd eu potensial.
- Ein nod yw lleihau ein dibyniaeth ar weithwyr asiantaeth a chontractwyr allanol.
- Hybu'r defnydd o brofiad gwaith, secondiadau, prentisiaethau, cysgodi, hyfforddi, mentora a chynlluniau graddedigion.
- Annog pawb i gymryd cyfrifoldeb personol dros eu perfformiad a'u dysgu eu hunain.
Datblygu ymhellach y fframweithiau gwobrwyo a chydnabod presennol i ddathlu llwyddiant, arloesedd a chreadigrwydd yn gyson. - Cwblhau archwiliad sgiliau digidol ledled y cyngor i nodi anghenion gwybodaeth a sgiliau ein gweithlu ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
- Gwella ein cynigion dysgu a datblygu digidol, gan sicrhau bod modd cael mynediad at ddysgu priodol o ystod o ddyfeisiau a lleoliadau.
- Sicrhau bod yr holl weithwyr yn ymwybodol o ddysgu sgiliau hanfodol, statudol a chraidd ac wedi cwblhau hynny.
- Adolygu ein Strategaeth Sgiliau Iaith Gymraeg a gweithio mewn partneriaeth â Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg ar brosiect peilot sy'n edrych ar y defnydd mewnol o'r iaith.
7.2. AMCAN STRATEGOL Y GWEITHLU 2: Tyfu Arweinwyr a Rheolwyr Eithriadol
Mae sefydliadau arloesol ac uchel eu perfformiad yn arddangos ymddygiadau arweinyddiaeth ar bob lefel o'r sefydliad. Byddwn yn gweithio i feithrin yr ymddygiadau hyn i ymateb i'r heriau sy'n ein hwynebu, gan ein galluogi i ddatblygu ein cenhedlaeth nesaf o arweinwyr talentog - pobl sy'n gallu arwain mewn ffordd onest a dilys, gan ysbrydoli ac ymgysylltu â'r bobl maent yn gweithio gyda nhw drwy hyrwyddo gwerthoedd gwasanaeth cyhoeddus a modelu rôl ein Gwerthoedd Craidd.
Rydym yn deall nad yw gwneud mwy o'r un peth yn gynaliadwy, felly byddwn yn tyfu arweinwyr a rheolwyr addasadwy, cynhwysol, sy'n deall yr hyn yr ydym yn ei ddisgwyl gan reolwr yn Sir Gaerfyrddin; unigolion â sgiliau arwain a all lywio'r sefydliad yn effeithiol drwy newid, gan ddarparu arweinyddiaeth, cyfeiriad a chymorth i'n pobl.
Byddwn hefyd yn gweithio i sicrhau diwylliant perfformio, sy'n golygu y bydd angen arweinwyr a rheolwyr datblygedig, cydweithredol ac effeithiol iawn arnom, sy'n bobl sy'n ffocysu ar ac yn gallu cyfrannu'n gadarnhaol at gydnabod a gwobrwyo gweithwyr - gan eu hyfforddi a'u datblygu fel y gallant ddarparu gwasanaethau o'r safon uchaf.
Gan roi mwy o ffocws ar gydweithio a gweithio mewn partneriaeth, bydd angen i'n harweinwyr hefyd fod yn ymwybodol yn wleidyddol, gan feddu ar y gallu i fod yn arloesol. Bydd angen i arweinwyr a rheolwyr fod yn dysgu'n barhaus i gefnogi ffyrdd newydd o weithio.
Yn ogystal, fel rhan o'n dull o ddatblygu sgiliau a chapasiti ar draws y gweithlu cyfan, byddwn yn sicrhau y gall pobl ar bob lefel yn ein sefydliad ddatblygu a dangos rhinweddau angenrheidiol arweinyddiaeth.
Byddwn yn cyflawni hyn drwy:
- Gweithredu'r Fframwaith Cymhwysedd newydd sy'n cyd-fynd â'n gwerthoedd, i gefnogi recriwtio, arfarniadau a datblygiad.
- Adeiladu dull arwain a rheoli 'hyfforddi ar gyfer perfformiad'.
- Datblygu offeryn asesu 360 gradd newydd ar gyfer arweinwyr yn seiliedig ar y cymwyseddau newydd.
- Dylunio a threialu rhaglen a fydd yn arfogi ein harweinwyr a'n rheolwyr â'r sgiliau craidd sydd eu hangen ar gyfer rheoli pobl a rheoli newid yn effeithiol.
- Datblygu arweinwyr sy'n ymwybodol yn wleidyddol ac yn ddemocrataidd.
- Meithrin sgiliau a hyder i reoli amrywiaeth yn ogystal ag atebolrwydd am ymgysylltu â gweithwyr a chynhwysiant.
- Sicrhau ein bod yn arwain gwasanaethau sy'n adlewyrchu natur ddwyieithog ein Sir drwy ddarparu ystod o gyfleoedd datblygu i weithwyr presennol a newydd wella eu sgiliau Cymraeg.
- Creu a chyflwyno cynnig "arweinwyr y dyfodol" ar gyfer gweithwyr sy'n anelu at ddringo i swyddi sy'n arwain.
- Gweithredu’r System Rheoli Dysgu newydd yn llawn i gefnogi’r gwaith o ddarparu ymyriadau Dysgu a Datblygu wedi’u targedu sy’n cefnogi nodau strategol y sefydliad wrth symleiddio prosesau.
7.3. AMCAN STRATEGOL Y GWEITHLU 3: Gwella Ymysylltu â'r Gweithlu
Y sefydliadau sy'n darparu'r profiadau gorau i gwsmeriaid yw'r rhai sydd â gweithwyr mawr eu hymgysylltiad. Mae sefydliadau sydd â gweithwyr ymgysylltiedig 21% yn fwy cynhyrchiol (Gallup). Yn ôl ein dealltwriaeth ni, y pedwar peth sy'n galluogi gweithlu ymgysylltiedig yw naratif strategol cryf, rheolwyr sy'n ymgysylltu, llais y gweithiwr ac uniondeb sefydliadol.
Byddwn yn gweithio i ddarparu naratif strategol cryf am Gyngor Sir Caerfyrddin, sy'n ddilys, ac yn cael ei ddarparu gan arweinwyr grymus a gweladwy. Mae ein Strategaeth Gorfforaethol yn amlinellu diben a rennir y gall ein pobl uniaethu ag ef, sy'n gweithredu fel conglfaen o ran dealltwriaeth pobl o'r darlun ehangach, a bydd ein rheolwyr yn perchnogi negeseuon corfforaethol gyda dilysrwydd.
Mae recriwtio a datblygu rheolwyr ymgysylltu yn hollbwysig; rheolwyr sy'n ffocysu eu pobl ac yn eu trin fel unigolion tra'n eu hyfforddi a'u herio. Rydym am i'n pobl deimlo'n rhan o sefydliad sy'n gwerthfawrogi cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn allweddol i hyn fydd rheolwyr sy'n gwneud i bawb deimlo'n rhan o'r tîm ac yn blaenoriaethu llesiant eu pobl, gan fod yn synhwyrol ac yn ddibynadwy ar yr un pryd.
Byddwn yn rhoi llais i'n staff. Mae llais y gweithiwr yn hanfodol i'n helpu i wneud newidiadau cadarnhaol a gwirioneddol. Byddwn yn gweithio i greu diwylliant lle mae ein pobl yn cael eu hystyried yn ganolog i'r ateb, yn cymryd rhan, yn cael eu gwahodd i gyfrannu eu profiad, eu harbenigedd a'u syniadau, ac yn bobl y gwrandewir arnynt. Byddwn yn adeiladu ar ein dulliau presennol ac yn rhoi fframwaith ar waith sy'n sicrhau ein bod yn cael sgyrsiau dwyffordd parhaus gyda'n pobl mewn gwahanol ffyrdd, er mwyn sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed.
Mae uniondeb sefydliadol yn bodoli pan fydd ein gwerthoedd craidd y cytunwyd arnynt yn cael eu hadlewyrchu mewn ymddygiadau o ddydd i ddydd. Nid oes bwlch 'dweud–gwneud'. Addewidion a wnaed ac addewidion a gadwyd, neu esboniad pam nad felly. Mae ymddiriedaeth yn hanfodol i berfformiad da mewn tîm, ac ymgysylltiad uchel mewn sefydliad. Mae uniondeb sefydliadol yn meithrin ymddiriedaeth a bydd yn cael ei amlygu nid yn unig gan uwch-arweinwyr ond gan reolwyr ar draws y sefydliad.
Byddwn yn cyflawni hyn drwy:
- Sicrhau bod gan ein rheolwyr y sgiliau i arwain a rheoli yn effeithiol, gan ymddwyn yn onest a chydag uniondeb a chreu amgylchedd cadarnhaol, dibynadwy i'w pobl.
- Sicrhau bod ein rheolwyr yn cytuno ar amcanion clir gyda'u pobl ac yn dangos iddynt sut mae eu gwaith yn cyfrannu at amcanion y sefydliad.
- Sicrhau bod ein rheolwyr yn cael y gorau o'u pobl drwy roi adborth rheolaidd, meddylgar, gonest ac adeiladol ar berfformiad.
- Sicrhau bod rheolwyr yn trafod datblygiad proffesiynol a gyrfaol eu pobl ar adegau rheolaidd yn ystod y flwyddyn ac yn darparu cefnogaeth i gyflawni nodau y cytunwyd arnynt.
- Cynnwys ein pobl yn ein Rhaglen Drawsnewid drwy gyflwyno rhaglen rheoli talent.
- Datblygu a rhannu adnoddau dysgu i gefnogi cynhwysiant digidol.
- Gwella cyfathrebu mewnol ymhellach.
- Gwella'r cyfleoedd i bobl ddweud eu dweud.
- Cynnal arolwg blynyddol i ymgysylltu â gweithwyr a gweithredu ar yr adborth a dderbyniwn yn gorfforaethol ac yn adrannol.
- Cynnal arolygon "gwirio tymheredd" rheolaidd i sicrhau bod llais y gweithiwr yn cael ei glywed ac y gwrandewir arno.
- Datblygu fframwaith cydnabyddiaeth, yn seiliedig ar adborth gan ein staff, sy'n annog ein rheolwyr i ddiolch nid yn unig i'w pobl am y gwaith maen nhw'n ei wneud, ond hefyd i wneud ymdrech i sicrhau bod arloesedd, creadigrwydd, llwyddiant a chyflawniadau unigolion a thimau yn cael eu cydnabod, eu gwerthfawrogi a'u dathlu.
- Datblygu strategaeth cysylltiadau gweithwyr sy'n croesawu egwyddorion partneriaeth gymdeithasol i sicrhau ein bod yn meithrin perthynas gadarnhaol â'n hundebau llafur cydnabyddedig.
7.4. AMCAN STRATEGOL Y GWEITHLU 4: Datblygu Diwylliant Perfformiad Uchel, Blaengar a Chyflawni
Mae'r sefydliadau gorau bob amser yn chwilio am gyfleoedd i wella, ac felly'r gweithwyr gorau hefyd. Mae creu diwylliant sy'n gwerthfawrogi blaengarwch a chreadigrwydd, a datblygu ein gweithlu cyfan, mewn diwylliant nad yw'n gweld bai, yn hanfodol i berfformiad ein sefydliad – dyma'r gwahaniaeth rhwng sefydliad sydd ond yn cael y pethau sylfaenol yn iawn a sefydliad sy'n arloesi'n llwyddiannus trwy fod yn barod i roi cynnig ar bethau newydd, gan ddefnyddio camgymeriadau fel cyfleoedd dysgu lle mae pawb yn rhannu atebolrwydd.
Mae sicrhau perfformiad da ar bob lefel o'r sefydliad hefyd yn hanfodol i'n llwyddiant yn y dyfodol. Mae'n dechrau gyda'n harweinwyr yn dangos y gwerthoedd a'r ymddygiadau rydym am i eraill efelychu a sefydlu mesurau perfformiad clir sy'n cyd-fynd â'r gwerthoedd a'r ymddygiadau hyn. O hyn, byddwn yn ymgorffori arferion recriwtio teg a chyson sy'n adlewyrchu ein cymuned ac yn canolbwyntio ar ddenu a chadw'r talentau gorau sydd ar gael. Mae'r mesurau perfformiad hyn yn sail i fframwaith arfarnu a rheoli perfformiad safonol, a phan fyddant yn cael eu defnyddio byddant yn ein galluogi i adnabod perfformwyr a chyflawnwyr da. Byddant hefyd yn ein helpu ni i fynd i'r afael yn briodol â thanberfformiad drwy sgyrsiau gonest ac adeiladol, a thrwy roi i'n harweinwyr a'n rheolwyr yr hyn sydd eu hangen arnynt, rhoddir cymorth iddynt fynd i'r afael â thanberfformiad effeithiol.
Gan sefydlu llwybrau gyrfa clir ar gyfer rolau allweddol a chynnig cyfleoedd twf i bawb, byddwn yn cefnogi ein gweithlu i ffynnu a llwyddo, gan hyrwyddo diwylliant o greadigrwydd a blaengarwch a hybu ymgysylltu â gweithwyr, cadw gweithwyr a theyrngarwch ymysg y gweithwyr.
Bydd cyflwyno rhaglen arbrofol tymor byr yn rhoi cyfle i'n pobl ddatblygu wrth iddynt gyfrannu at brosiectau trawsnewid gan ychwanegu gwerth go iawn i'n sefydliad.
Ar hyn o bryd mae data'n dangos nad oes gan 21% o bobl ledled y DU sgiliau digidol sylfaenol llawn, ac mae'r lefel allgáu digidol ledled Cymru yn uwch fyth . Felly, mae'n hanfodol ein bod, fel sefydliad, yn gynhwysol yn ddigidol trwy sicrhau bod ein gweithlu'n hyderus yn ddigidol a bod ein cynnwys digidol yn cadw at ganllawiau hygyrchedd.
Mae gweithlu sy'n hyderus yn ddigidol yn hanfodol ar gyfer sector cyhoeddus modern, arloesol ac effeithlon. Mae gweithlu sy'n hyderus yn ddigidol yn weithlu sydd â'r sgiliau, y wybodaeth a'r meddylfryd i ddefnyddio technolegau digidol yn effeithiol ac yn effeithlon yn eu gwaith. Gweithlu sy'n gallu addasu i ofynion digidol sy'n newid, cydweithio ar-lein, a chreu gwerth drwy arloesi digidol. Mae gweithlu sy'n hyderus yn ddigidol nid yn unig yn gymwys yn ddigidol, ond hefyd yn chwilfrydig a chreadigol yn ddigidol.
Byddwn yn cefnogi ein pobl i fod yn hyderus yn ddigidol ac i addasu i dechnolegau newydd, deallusrwydd artiffisial a roboteg, fel ein bod yn gwneud y gorau o'r cyfleoedd a gyflwynir.
Byddwn yn cyflawni hyn drwy:
- Datblygu arferion recriwtio teg a chyson sy'n adlewyrchu ein cymuned ac yn canolbwyntio ar ddenu a chadw'r talentau gorau sydd ar gael.
- Sefydlu ymddygiadau arweinyddiaeth clir a chymwyseddau rheoli disgwyliedig.
- Gweithio gyda'n gilydd i ymgorffori ymddygiadau sy'n adlewyrchu ein gwerthoedd ac yn ein gadael i ddangos pa mor falch ydym ni o weithio i Sir Gaerfyrddin.
- Canolbwyntio ar gadw ein perfformwyr da a rheoli tanberfformio trwy gyfnodau o newid a gweithredu cynlluniau olyniaeth mewn swyddi hollbwysig.
- Gwella profiad y defnyddiwr gyda'n System Rheoli Dysgu newydd a datblygu gallu i dynnu gwybodaeth reoli briodol.
- Defnyddio ein rhaglen drawsnewid i wrando ar staff am syniadau sut i wella ac i ymchwilio ymhellach i gyfleoedd i weithio mewn modd mwy clyfar.
- Cyflwyno Rhaglen Profiad Tymor Byr (STEP) sy'n rhoi cyfle i staff ddatblygu wrth gefnogi Prosiectau Trawsnewid.
- Datblygu gwybodaeth a sgiliau ymhellach i gefnogi mabwysiadu dull mwy masnachol o ddarparu gwasanaethau'r Cyngor, gyda'r nod o gynhyrchu incwm ychwanegol a lliniaru effaith heriau cyllidebol parhaus.
- Darparu data perthnasol, manwl-gywir am bobl i'r sefydliad, i helpu i wneud penderfyniadau effeithiol ar sail tystiolaeth trwy ddatblygu dangosfwrdd data pobl.
- Datblygu a gweithredu fframwaith cymwysterau a sgiliau newydd.
- Cefnogi ein gwasanaethau i wneud gwell defnydd o dechnoleg, fel ein bod yn lleihau gwastraff a chostau ac yn rhyddhau ein pobl i wneud pethau gwell.
- Gweithredu ein Fframwaith Sgiliau Digidol newydd.
- Adolygu ein proses arfarnu newydd, o safbwynt ansoddol a meintiol.
7.5. AMCAN STRATEGOL Y GWEITHLU 5: Datblygu a Chynnal Gweithle Diogel ac Iachus.
Ein nod yw cefnogi ein pobl i fod yn fwy diogel, yn iachach ac yn hapusach yn y gwaith. Mae integreiddio iechyd, diogelwch, a llesiant i'n ffordd o weithio, gan hyrwyddo amgylchedd cadarnhaol, diogel ac iach yn allweddol i sicrhau bod ein pobl yn gallu ffynnu yn y gwaith. I gyflawni hyn, byddwn yn parhau i greu cyfleoedd sy'n canolbwyntio ar iechyd, diogelwch a llesiant ein pobl, gan gefnogi mentrau sy'n darparu addysg a chyngor ar amrywiaeth eang o bynciau iechyd, diogelwch, a llesiant.
Gan weithio gyda'n rheolwyr a'u pobl, byddwn yn datblygu, gweithredu, adolygu a monitro asesiadau risg, polisïau, gweithdrefnau a systemau gwaith diogel sy'n lleihau risgiau ac yn darparu gweithle diogel ac iach. Bydd ein pobl yn rhan flaenllaw o'r prosesau hyn i sicrhau bod y canlyniadau'n briodol, gan wneud eu gweithle mor ddiogel ag sy'n rhesymol ymarferol.
Gan weithio'n agos gyda'n pobl, byddwn yn eu hannog i fyw bywyd iach. Mae hyn yn cynnwys darparu mynediad at y wybodaeth, yr adnoddau a'r cymorth sy'n angenrheidiol i wneud penderfyniadau cadarnhaol iach a diogel, yn ogystal â chynnal digwyddiadau, gweithgareddau a mentrau dysgu a datblygu rheolaidd i hyrwyddo iechyd a llesiant cadarnhaol.
Byddwn hefyd yn gweithio'n galed i leihau unrhyw agweddau ar yr amgylchedd gwaith, a allai effeithio'n negyddol ar iechyd, diogelwch neu les gweithiwr, gan sicrhau bod yr holl brosesau a gweithdrefnau yn rhoi ystyriaeth briodol i iechyd meddwl a chorfforol ein pobl.
Byddwn yn sicrhau bod digon o gapasiti yn ein Canolfan Iechyd Galwedigaethol fewnol i gefnogi ein pobl, ac yn darparu cyngor meddygol arbenigol, i reoli presenoldeb yn effeithiol a ffitrwydd gweithwyr i weithio. Byddwn hefyd yn parhau i gynnal profion sgrinio meddygol statudol i fesur effaith gwaith, ar gyfer grwpiau galwedigaethol a nodwyd.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu a gweithredu polisïau sy'n berthnasol i iechyd a llesiant ein gweithwyr a byddwn yn parhau i adolygu a diweddaru polisïau o'r fath i sicrhau eu bod yn cefnogi'r Strategaeth hon.
Ar ben hynny, mae'n bwysig ein bod yn edrych ar ffyrdd o adeiladu a chefnogi gwytnwch a chapasiti i ffynnu mewn hinsawdd o newid parhaus. Mae hynny'n golygu darparu'r dulliau, y technegau, y polisïau a'r prosesau i gefnogi ein pobl drwy gyfnodau anodd.
Byddwn yn annog cyfrifoldeb personol i gael gafael ar y cymorth sydd ar gael ac yn parhau i eirioli ein rhwydweithiau iechyd a lles gweithwyr a'r gwaith gwych maent yn ei wneud, a'r llais cryf sydd ganddynt ar draws y sefydliad.
Mae ein dull gweithio hyblyg eisoes yn darparu buddion gwych ar gyfer rheoli cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Rydym am wneud mwy i sicrhau bod y meddylfryd hwn yn gyson ar draws y sefydliad, tra'n galluogi rheolwyr i fod yn greadigol ac yn arloesol er mwyn diwallu anghenion busnes sy'n newid.
Byddwn yn cyflawni hyn drwy:
- Creu diwylliant lle mae iechyd, diogelwch a llesiant wedi'u hintegreiddio i ymddygiad gweithwyr, yn ogystal â pholisïau, prosesau a gweithgareddau perthnasol sy'n cael dylanwad ar iechyd, diogelwch a llesiant cyffredinol gweithwyr.
- Sefydlu a hyrwyddo diwylliant o arweinyddiaeth gadarnhaol ar gyfer iechyd, diogelwch a llesiant, sy'n dangos ymrwymiad gan Uwch-reolwyr.
- Datblygu a gweithredu trefniadau rheoli perthnasol ar gyfer iechyd, diogelwch a llesiant.
- Datblygu a chyflwyno cynllun a rhaglen iechyd a llesiant.
- Sicrhau bod gennym yr ymrwymiad sefydliadol parhaus i iechyd a llesiant ein pobl.
- Sicrhau ffocws corfforaethol digonol o ran cymorth iechyd a llesiant i weithwyr.
- Annog a chefnogi gweithwyr i wneud newidiadau cadarnhaol i'w ffordd o fyw a chymryd cyfrifoldeb dros eu hiechyd, eu diogelwch a'u llesiant eu hunain, drwy ddarparu cyngor, cymorth, digwyddiadau a gweithgareddau.
- Darparu amgylchedd gwaith cadarnhaol sy'n hyrwyddo ac yn galluogi gwelliannau i iechyd, diogelwch a llesiant gweithwyr.
- Atgyfnerthu dysgu Iechyd a Diogelwch yn y System Rheoli Dysgu newydd, er mwyn gwella cydymffurfiaeth a monitro.
8. Atodiadau
8.1. Atodiad 1: Gweledigaeth y Cabinet – Crynodeb o Ddisgwyliadau'r Gweithlu
- Sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn sefydliad amrywiol a chynhwysol.
- Gweithio gyda grwpiau perthnasol i hyrwyddo'r Cyngor fel cyflogwr ar draws pob cymuned gan gynnwys o fewn y gymuned Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.
- Gweithio gyda'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i sbarduno gwaith ymgysylltu cymunedol ac arfer da mewn perthynas â recriwtio o gymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.
- Gweithio gyda grwpiau allanol perthnasol, i wella cynrychiolaeth a chyfeirio ar gyfer cymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar wefan y Cyngor.
- Edrych ar ffyrdd o wella ansawdd data cydraddoldeb ein gweithlu a gwella ansawdd y wybodaeth a gesglir yn barhaus er mwyn gwella'r broses o gynllunio a rheoli'r gweithlu.
- Recriwtio mewn modd cystadleuol a gweithio tuag at wella lefelau recriwtio yn barhaus ar draws y sefydliad. Ceisio deall y camau sydd eu hangen er mwyn dod yn gyflogwr o ddewis yng Ngorllewin Cymru.
- Gweithio i farchnata Cyngor Sir Caerfyrddin fel cyflogwr deniadol i brentisiaid, pobl sy'n gadael yr ysgol a graddedigion. Canolbwyntio ar leihau nifer y bobl ifanc sy'n mudo o Sir Gaerfyrddin ac o ardaloedd gwledig.
- Gweithio gyda rhanddeiliaid i gynyddu cyfran y prentisiaethau cyfrwng Cymraeg.
- Ystyried gallu ein gweithlu yn y tymor byr a'r tymor hir i gyflawni gweledigaeth y weinyddiaeth bresennol.
- Parhau i groesawu a hyrwyddo arferion gweithio ystwyth, cyfarfodydd hybrid a ffyrdd newydd o weithio ar draws y sefydliad.
- Gweithio gyda Llywodraeth Cymru, partneriaid Gwasanaethau Cyhoeddus ac Undebau Llafur i wneud rhagor o waith ar yr agenda Cyflog Byw Gwirioneddol.
- Byddwn yn gwneud mwy o ddefnydd o’r dechnoleg ddigidol ddiweddaraf i drawsnewid ymhellach y gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor.
- Datblygu Strategaeth Trawsnewid y Cyngor a fydd yn darparu'r fframwaith strategol i gefnogi'r gwaith o weithredu rhaglen drawsnewid a newid ar draws y sefydliad.
8.2. Atodiad 2: Strategaeth Drawsnewid – Blaenoriaethau'r Gweithlu
- Datblygu a chryfhau ymhellach fframwaith rheoli gweithlu strategol yr Awdurdod i gefnogi awydd y Cyngor i ddod yn ‘gyflogwr o ddewis’.
- Datblygu ymhellach drefniadau Cynllunio’r Gweithlu y Cyngor er mwyn creu’r capasiti a’r cydnerthedd i gyflawni ei amcanion strategol a rhagweld a chwrdd ag anghenion i’r dyfodol.
- Gofalu y gall y Cyngor wneud defnydd effeithiol o ddata i gryfhau perfformiad a rheolaeth strategol ei weithlu.
- Gwneud defnydd effeithiol o dechnoleg i helpu i foderneiddio prosesau a gweithdrefnau gweithlu allweddol.
- Cryfhau trefniadau’r Cyngor ar gyfer recriwtio, cadw a hyblygrwydd ei weithlu.
- Sicrhau bod gan staff y Cyngor y sgiliau a’r ymddygiadau angenrheidiol i gefnogi’r gwaith o gyflwyno’r agenda moderneiddio a thrawsnewid yn effeithiol fel y gall y Cyngor gyflawni ei nodau ac amcanion ehangach.
- Parhau i geisio gwella iechyd a llesiant ein gweithlu.
