Y Polisi a'r Weithdrefn Dileu Swyddi - Ionawr 2024

Gweithdrefnau

Ymgynghori

Mae'n arfer da ymgynghori â'r holl gyflogeion yr effeithir arnynt ac â'r Undebau Llafur cydnabyddedig cyn gynted ag y bo modd.

Bydd Rheolwr y Gwasanaethau Pobl yn gwneud yr hysbysiad priodol i Wasanaeth Taliadau Dileu Swyddi y Gwasanaeth Ansolfedd lle mae nifer y swyddi sy'n cael eu dileu ar y cyfan yn fwy na 20 mewn un sefydliad.

Cydymffurfir â'r cyfnodau ymgynghori statudol pan fydd 20 neu ragor o swyddi i'w dileu. Gall hyn fod rhwng 30 a 45 niwrnod gan ddechrau ar ddyddiad a gytunwyd wedi ymgynghori â'r undebau llafur cydnabyddedig. Cysylltwch â'ch tîm Adnoddau Dynol am gyngor.

Wrth gyfrifo nifer y cyflogeion yr effeithir arnynt, caiff y rhai sy'n gwirfoddoli i'w swydd gael ei dileu a'r rhai a adleolir eu cynnwys yn y cyfanswm, e.e. os oes cynlluniau i ddileu swyddi 17 o gyflogeion ac i adleoli 5 arall, mae'r cyfanswm yn fwy nag 20 felly mae'n rhaid wrth gyfnodau cydymgynghori.

Os yw cyflogai ar gontract cyfnod penodedig sy'n tynnu at derfyn y cyfnod a gytunwyd, nid yw'r cyflogai'n cael ei gynnwys yn y cyfrifiad. Ond os bwriedir diswyddo'r cyflogeion cyfnod penodedig yn gynharach na'r dyddiad a gytunwyd cyn pen y 90 diwrnod (a dileu swydd yw'r rheswm dros wneud hynny) mae'r contractau cyfnod penodedig yn cael eu cynnwys wrth gyfrifo cyfanswm y swyddi sydd i'w dileu ar y cyd. (Gweler y Canllawiau ynghylch Contractau Dros Dro/Cyfnod Penodedig)

Mae gan unigolion yr hawl o dan weithdrefnau diswyddo i gael eu hysbysu'n ysgrifenedig am y rheswm dros y diswyddo h.y. dileu swydd; i gwrdd i drafod y rhesymau, a hawl i apelio. Gall trefniadau gwahanol fod yn weithredol mewn sefyllfaoedd lle bydd dileu swyddi ar y cyd, fel y cytunwyd yn lleol â'r undebau llafur/cynrychiolwyr staff.

Ymgynghorir yn uniongyrchol ag unigolion, ac undebau llafur cydnabyddedig, a thrwy ddulliau ymgynghori cydnabyddedig megis Fforwm Corfforaethol Cysylltiadau â'r Gweithiwr. Bydd cymaint â phosibl o wybodaeth ynghylch yr ad-drefnu neu'r cwtogi arfaethedig a'i effaith ar gyflogeion yn cael ei rhoi ym mhob cyfarfod, fel bo'n briodol.

Polisi Ad-drefnu

Cyn i feini prawf ar gyfer dewis gael eu llunio, dylid defnyddio Gweithdrefn a Pholisi'r Awdurdod ynghylch Ailstrwythuro.

Dylid defnyddio'r Weithdrefn a'r Polisi ynghylch Ailstrwythuro yn wrthrychol a dylai'r Cyfarwyddwr neu'r Pennaeth Gwasanaeth/Rheolwr Arweiniol enwebedig gyflwyno'r canlyniadau i'r Undebau Llafur ac i'r cyflogeion yr effeithir arnynt.

Dethol ar gyfer Dileu Swyddi

Lle y bo’n bosibl, byddwn yn gofyn i gyflogeion wirfoddoli i ddileu eu swyddi. (Gweler paragraff 9).

Os bydd nifer y gwirfoddolwyr yn uwch na nifer y swyddi i'w dileu neu os nad yw trefn wirfoddoli yn briodol, bydd y meini prawf ar gyfer dewis y swyddi i'w dileu yn cael eu rhoi ar waith.

Bydd y meini prawf ar gyfer dileu swyddi yn cael eu llunio drwy ymgynghori â'r Undebau Llafur cydnabyddedig a bydd y Cyfarwyddwr perthnasol (neu gynrychiolydd enwebedig y Cyfarwyddwr) a'r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl) neu ei gynrychiolydd enwebedig, yn cytuno ar y meini prawf hynny. Wrth gytuno ar feini prawf, rhaid sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu'n uniongyrchol nac yn anuniongyrchol.

Enghraifft: Mae oedran ac absenoldeb o'r gwaith yn cael eu cynnwys wrth lunio'r meini prawf ar gyfer dewis y swyddi i'w dileu. Dewisir dileu swydd cyflogai gan iddi fod yn absennol am gyfnod hir oherwydd salwch. Ond mae gan y cyflogai sy'n uniongyrchol berthnasol i'r absenoldeb hwn a rhaid ystyried hyn neu byddai hyn yn wahaniaethu uniongyrchol. Dewisir dileu swydd cyflogai arall gan ei fod yn nesáu at oedran ymddeol – mae hyn hefyd yn debygol o fod yn wahaniaethu. Mae meini prawf dethol a ddefnyddir yn fynych yn cynnwys:3

  • Sgiliau neu brofiad
  • Safon perfformiad yn y gwaith neu gymhwyster ar gyfer gwaith (gan gyfeirio at arfarniadau)
  • Presenoldeb (ac eithrio absenoldebau'n ymwneud ag anabledd, beichiogrwydd neu famolaeth) neu gofnod disgyblu.

Dylai pob cyflogai y mae posibilrwydd y bydd ei swydd yn cael ei dileu gael ei asesu gan ddefnyddio'r meini prawf y cytunwyd arnynt ar gyfer dewis pa swyddi i'w dileu a dylid dogfennu hyn a hysbysu'r unigolion am y canlyniad cyn gynted ag y bo modd. Gall hyn gynnwys cyf-weld â chyflogeion a'u hasesu gan ddefnyddio'r meini prawf ar gyfer dewis a gytunwyd.

Mae gan gyflogeion hawl i apelio yn erbyn canlyniad y broses dewis.

Bydd yr holl gyflogeion yr effeithir arnynt yn cael eu hysbysu'n ysgrifenedig a chynigir posibilrwydd o adleoli iddynt yn unol â'r Polisi Adleoli a ddefnyddir gan yr Awdurdod.

Efallai y bydd amgylchiadau lle nad yw'n briodol defnyddio meini prawf ar gyfer dewis, er enghraifft, os un swydd yn unig yr effeithir arni, ac yn yr achosion hyn, cynghorir adrannau i symud ymlaen yn syth at geisio dod o hyd i gyflogaeth arall addas drwy'r Polisi Adleoli.

Cyflogaeth Arall Addas

Ceisir dod o hyd i gyflogaeth arall addas yn unol â'r Polisi Adleoli a fydd yn rhoi cyfle i gyflogeion gael eu hystyried ar gyfer swyddi yn yr Awdurdod cyn i'r swyddi gael eu hysbysebu'n agored.

Mae'n ofynnol i'r Cyngor gynnig cyflogaeth amgen addas lle mae ar gael i gyflogai y mae ei swydd yn cael ei dileu yn dilyn hysbysiad o feichiogrwydd, yn ystod neu ar ôl absenoldeb mamolaeth cyffredin a/neu ychwanegol, absenoldeb

mabwysiadu cyffredin a/neu ychwanegol neu absenoldeb rhiant a rennir. Golyga hyn y bydd swydd wag addas yn cael ei chynnig i'r cyfryw gyflogai pan ddaw'r swydd honno'n wag a chyn i'r swydd gael ei chynnig i unrhyw gyflogai arall y mae ei swydd wedi'i dileu hefyd ond nad yw ei absenoldeb yn deillio o un o'r rhesymau hyn. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os yw'r swydd wag yn codi cyn i'r cyflogai hysbysu'r Awdurdod o'r dyddiad y mae'n bwriadu dychwelyd ac yn ystod cyfnod fel y nodir yn Atodiad 1 o ddychwelyd i'r gwaith.

Dylai cyflogeion a'u rheolwyr gydweithio i nodi ac i ystyried yr holl swyddi eraill posibl. Os bydd cyflogai'n gwrthod, yn afresymol, gynnig am gyflogaeth arall addas, gall golli ei hawl i dâl dileu swydd.

Dylai cyflogeion gael eu cynghori gan eu rheolwr i ystyried o ddifrif unrhyw gynigion adleoli a dylent ganfod rhagor am y tâl a gynigir, y posibilrwydd o enillion ychwanegol os yw'r tâl sylfaenol yn is na thâl y swydd bresennol, yr effaith ar y pensiwn, y lleoliad a'r costau teithio ychwanegol neu'r amser teithio, yr amgylchedd gwaith a'r oriau gwaith e.e. gwaith yn ystod y dydd, gwaith sifft, ac ati.

Os bydd y gyflogaeth arall addas a gynigir yn swydd sylweddol wahanol i gyflogaeth bresennol y cyflogai, mae ganddo ef/hi yr hawl i gyfnod prawf o 4 wythnos (neu hwy hyd at 12 wythnos, os yw'r cyflogwr yn cytuno â hynny). Bydd y cyfnod prawf yn dechrau cyn i'r contract blaenorol ddod i ben h.y. ar ddiwedd y cyfnod rhybudd contractiol. Rhydd hyn gyfle i'r cyflogai benderfynu a yw'r swydd yn addas heb golli'r hawl i dâl dileu swydd.

Os bydd y cyfnod prawf yn llwyddiant o safbwynt y cyflogai a'r cyflogwr, bydd y gyflogaeth yn y swydd newydd yn cael ei chadarnhau a chollir yr hawl i dâl dileu swydd. Ond os na fydd y cyfnod prawf yn llwyddiant, gall y cyflogwr ddod â'r contract newydd i ben a bydd gan y cyflogai hawl i'w dâl dileu swydd. Ond gall cyflogeion sydd, yn afresymol, yn gwrthod cyflogaeth arall addas golli unrhyw hawl i dâl dileu swydd. Dylid nodi os oedd y diswyddo o ganlyniad i reswm nad oedd yn gysylltiedig â dileu'r swydd e.e. camymddwyn difrifol, y gall y cyflogai golli ei hawl i dâl dileu swydd.

Mewn sefyllfaoedd lle bydd swyddi'n cael eu dileu ar y cyd, dylid ystyried cynorthwyo cyflogeion i ddod o hyd i waith arall y tu allan i'r Awdurdod drwy'r Canolfannau Byd Gwaith neu drwy gysylltu â chyflogwyr eraill.

Hefyd dylid, lle bo'n briodol, gynnig cymorth i gyflogeion yng nghyswllt chwilio am swydd, llenwi ffurflenni cais, technegau cyfweliad ac ati. Dylai rheolwyr ofyn am gyngor gan y Tîm Dysgu a Datblygu Corfforaethol a/neu'r Tîm Adnoddau Dynol, fel bo'n briodol.

Bydd cyflogeion yn cael amser i ffwrdd o'r gwaith â thâl yn ystod eu cyfnod rhybuddio er mwyn chwilio am waith neu yng nghyswllt cyfleoedd i ailhyfforddi. Dylai ceisiadau am amser i ffwrdd o'r gwaith gael eu cyflwyno i'r rheolwr llinell yn unol â'r Polisi Amser i Ffwrdd o'r Gwaith a weithredir gan y Cyngor.

Rhaid i gyflogeion dderbyn Cyflogaeth Arall Addas ar y sail y'i cynigir. Nid oes trefniadau i ddiogelu cyflog/amodau.


3 Llyfryn Cynghorion gan ACAS 'How to Manage Collective Redundancies'