Cyflwyniad ar y Menopos
1361 diwrnod yn ôl
Mae'r menopos yn gyfnod naturiol a dros dro ym mywydau menywod ac nid yw pob menyw yn profi symptomau sylweddol. Yn y gorffennol, mae'r menopos wedi cael ei ystyried yn bwnc tabŵ, ond mae hyn yn newid. Mae cyflogwyr bellach yn cydnabod yr effaith bosibl y gallai'r menopos ei chael ar fenywod ac yn dod yn fwy ymwybodol o'r camau syml y gallent eu cymryd i fod yn gefnogol.
I gydnabod Diwrnod Menopos y Byd, bydd sgwrs am y menopos yn cael ei rhoi Ddydd Iau 28 Hydref am 12:30 gan ein Hyrwyddwr Iechyd a Lles ein hunain, Gillian Grennan-Jenkins. Bydd y sgwrs yn para tua 45 munud, a bydd cyfle i ofyn cwestiynau.
Rydym yn annog pawb i fynd i'r sgwrs, gan ei fod yn gyfle gwych i unigolion sydd â symptomau, yn ogystal â rheolwyr a chydweithwyr, i ddeall proses a symptomau'r menopos, er mwyn darparu'r cymorth gorau i'r rhai sydd ei angen.
Mae'r ddolen ar gael ar ein tudalen Digwyddiadau a Gweithgareddau.
I gael rhagor o wybodaeth am y menopos, ewch i'n tudalen Rheoli'r Menopos ar y fewnrwyd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost Health&Wellbeing@sirgar.gov.uk