Wythnos Ymwybyddiaeth o Alcohol
13 diwrnod yn ôl
Mae Wythnos Ymwybyddiaeth o Alcohol yn wythnos o godi ymwybyddiaeth, ymgyrchu dros newid, a mwy. Cynhelir Wythnos Ymwybyddiaeth Alcohol eleni rhwng 1-7 Gorffennaf 2024.
Ydych chi'n yfed gormod?
Ydych chi'n ymwybodol o'r canllawniau alcohol? Cyhoeddwyd canllawiau alcohol newydd i alluogi pobl i wneud penderfyniadau gwybodus o ran yfed er mwyn lleihau peryglon iechyd sy'n gysylltiedig ag alcohol.
Mae'r canllawiau (nid cyfarwyddiadau neu reolau!) yn argymell y canlynol:
- Ni ddylai dynion a menywod yfed mwy na 14 uned o alcohol mewn wythnos yn rheolaidd. Yn ddelfrydol, dylech chi yfed yr unedau hyn dros dri diwrnod neu fwy. Dylech chi gael nifer o ddiwrnodau heb alcohol bob wythnos.
- Dylai pobl gyfyngu ar faint y maent yn ei yfed ar un achlysur, a dylent fwyta bwyd ac yfed dŵr wrth yfed alcohol.
- Ni ddylai menywod beichiog yfed alcohol o gwbl
Bydd y perygl o farw oherwydd problem sy'n gysylltiedig ag alcohol yn is nag 1% os dilynir y canllawiau hyn.
Sut gallaf gael rhagor o wybodaeth?
Gallwch ddysgu mwy am alcohol, ei effeithiau, a’r hyn rydych yn ei yfed yn ein modiwl e-ddysgu.
Os ydych chi'n pryderu eich bod chi'n yfed gormod, mae yna newidiadau ymddygiadol bach y gallwch chi eu gwneud:
- Cadwch ddyddiadur diodydd i wybod faint ydych chi'n ei yfed
- Osgowch yfed mewn rowndiau
- Ceisiwch gael mwy o ddiwrnodau heb alcohol
- Gwnewch fwy o weithgareddau sydd heb alcohol
Mae ap 'Ionawr Sych ac ymlaen" Alcohol Concern (ar gael ar Apple ac Android) yn gallu eich helpu i gadw golwg ar eich yfed, yn ogystal â rhoi cyngor ac argymhellion i chi ynghylch yfed llai o alcohol.
Cymorth pellach
I gael rhagor o wybodaeth ewch i'n tudalen Camddefnyddio Alcohol a Sylweddau lle gallwch chi hefyd lawrlwytho ein polisi.
Os ydych chi'n credu eich bod chi a/neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn yfed gormod, cysylltwch â Dan24/7 (Cymru) ar 0808 808 2234.
Mae Al-Anon yn rhoi cymorth i unrhyw un y mae faint mae rhywun arall yn ei yfed yn effeithio neu wedi effeithio arno. Ewch i al-anonuk.org.uk.
Erthygl gan: Tim Iechyd a Llesiant