Fis Pride LHDTC+
18 diwrnod yn ôl
Mae mis Mehefin yn fis Pride LHDTC+!
Pam rydyn ni'n dathlu mis Pride?
Mae Pride yn derm ar gyfer hyrwyddo urddas, cydraddoldeb a mwy o amlygrwydd i bobl LHDTC+. Balchder yw'r prif gymhelliant ar gyfer mudiadau hawliau LHDTC+, yn hytrach na chywilydd a stigma. Mae'n ddathliad o bobl yn dod at ei gilydd mewn cariad a chyfeillgarwch, i ddangos pa mor bell y mae hawliau LHDTC+ wedi dod, a sut mae gwaith i'w wneud o hyd mewn rhai mannau.
Mae Pride yn ymwneud â bod yn falch o bwy ydych chi waeth pwy rydych chi'n ei garu a dod at eich gilydd fel cymuned. Mae rhai ohonom yn ystyried ein hunain yn LHDTC+. Mae hyn yn golygu y gallwn fod yn lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws, rhyngryw, anneuaidd, cwiar neu ansicr ac ati.
LHDTC+ ac Iechyd Meddwl a Llesiant
Gall unrhyw un brofi problem iechyd meddwl. Ond mae'r rhai ohonom sy'n LHDTC+ yn fwy tebygol o ddatblygu:
Diffyg hunan-barch
Iselder
Gorbryder, gan gynnwys gorbryder cymdeithasol
Problemau bwyta
Camddefnyddio cyffuriau ac alcohol
Hunan-niweidio
Teimladau hunanladdol
Problemau iechyd meddwl eraill.
Nid yw bod yn LHDTC+ yn achosi'r problemau hyn.
Mae'r rhesymau pam mae'r rhai ohonom sydd â hunaniaeth LHDTC+ yn fwy tebygol o brofi'r problemau hyn yn gymhleth iawn. Ond mae'n fwyaf tebygol o ymwneud â wynebu pethau fel:
- Homoffobia, deuffobia a thrawsffobia.
Stigma a gwahaniaethu.
Profiadau anodd o ddod allan.
Arwahanrwydd cymdeithasol, eithrio a gwrthodiad. Gall unrhyw un brofi problem iechyd meddwl.
Ond rydym yn gwybod y gallai'r rheiny ohonom sydd â hunaniaeth LHDTC+ wynebu heriau ychwanegol o ran cael y cymorth cywir.
Mae yna grŵp LHDTC+ mewnol sy'n cwrdd yn fisol ar sail anffurfiol, mae'r grŵp hwn ar gyfer unrhyw un sy'n ystyried eu bod yn LHDTC+. Mae'r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ddydd Mercher 26 Mehefin am 13:30, dilynwch y ddolen gyswllt hon i'ch ychwanegu at eich calendr Outlook.
I gael rhagor o wybodaeth a chymorth, ewch i'n tudalennau Cymorth a Chefnogaeth LHDTRCA+ ar ein mewnrwyd a gweler y polisi Adnoddau Dynol Cefnogi Staff Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol. Os oes unrhyw ymholiadau gennych, mae croeso i chi e-bostio iechydadiogelwch@sirgar.gov.uk
Erthygl gan: Tim Iechyd a Llesiant