Wythnos y Lluoedd Arfog 2024

20 diwrnod yn ôl

Mae 24-29 Mehefin yn Wythnos y Lluoedd Arfog - cyfle i ni ddangos ein cefnogaeth i'r dynion a'r menywod sy'n rhan o gymuned y Lluoedd Arfog; o filwyr presennol y Lluoedd Arfog, i'w teuluoedd, cyn-filwyr a chadetiaid.

Codwyd baner Diwrnod y Lluoedd Arfog yn Neuadd y Dref, Llanelli o ddydd Llun, 24 Mehefin, yn ystod seremoni gan Gymdeithas Feteraniaid Llanelli wrth y senotaff. Bydd y faner hefyd yn cwhwfan yn Neuadd y Sir ac yn Neuadd y Dref, Rhydaman o ddydd Gwener 28 Mehefin tan ddydd Llun 1 Gorffennaf, i ddynodi Diwrnod y Lluoedd Arfog ddydd Sadwrn 29 Mehefin. 

Yn ystod yr wythnos hon rydym hefyd yn dathlu Diwrnod y Lluoedd Wrth Gefn (Dydd Mercher, 26 Mehefin) a Diwrnod y Lluoedd Arfog ddydd Sadwrn (29 Mehefin).

I ddathlu Diwrnod y Lluoedd Wrth Gefn, mae Hayley Edwards, Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog, yn annog unrhyw aelodau o staff sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog neu sy'n aelod o'r Lluoedd Wrth Gefn ar hyn o bryd neu'n Oedolyn sy’n Wirfoddolwr gyda’r Llu Cadetiaid gysylltu â ni. Anfonwch e-bost at Hayley, HREdwards@sirgar.gov.uk os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â Rhwydwaith Staff Cyfamod y Lluoedd Arfog.

Ar Ddiwrnod y Lluoedd Wrth Gefn, mae Hayley wedi rhannu ei phrofiadau o'i rolau yn y Lluoedd Wrth Gefn a'i gyrfa sifil gyda'r Cyngor.

“Mae fy nhaith dros y 30 mlynedd diwethaf yn y Lluoedd Wrth Gefn, gan gynnwys tair blynedd o wasanaeth amser llawn gyda'r Fyddin Reolaidd, wedi cael effaith fawr ar bwy ydw i a sut rydw i'n cyfrannu at fy nghymunedau milwrol a sifil."

Mae gyrfa filwrol Hayley wedi cynnwys teithiau ac ymarferion gweithredol ar draws y byd, gan gynnwys UDA, Ynysoedd Falkland, Ynys Ascension, yr Almaen, Awstria, Denmarc, Bosnia, Kosovo, Macedonia, Croatia, Cyprus, Gwlad Belg, yr Iseldiroedd, a Ffrainc a ledled y DU gan gynnwys yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Rwy'n Swyddog Logisteg proffesiynol yn ôl fy mhroffesiwn a chefais fy nghomisiynu gan yr Academi Filwrol Frenhinol yn Sandhurst ym 1995," ychwanegodd Hayley.

"Mae rôl swyddog logisteg yn amrywiol iawn, yn rhoi boddhad mawr ac yn cynnwys cyfrifoldeb dros gynllunio a darparu cyflenwadau, cit, offer a phersonél, ar draws weithrediadau maes y gad. Rwyf wedi cael y fraint unigryw o orchymyn milwyr, rhai rheolaidd ac wrth gefn, adeg heddwch ac yn ystod gweithrediadau. Mae'r profiadau hyn wedi mireinio fy sgiliau fel milwr ac wedi meithrin ymdeimlad cryf o falchder wrth wasanaethu fy ngwlad."

Mae Hayley bellach yn gweithio ym Mhencadlys y Fyddin yng Nghymru yn gwneud rôl nad yw'n ymwneud â logisteg fel swyddog integreiddio milwyr a sifiliaid.

"Yn fy rôl sifil, fel Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog, rwy'n arwain y gwaith o gyflawni Cyfamod y Lluoedd Arfog ar draws Gorllewin Cymru, gan gwmpasu Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion. Fy mhrif gyfrifoldeb yw sicrhau bod Cyfamod y Lluoedd Arfog yn cael ei ddeall a'i gyflawni'n effeithiol, gan gydweithio â'r sector cyhoeddus, y gymuned a sefydliadau gwirfoddol. Mae'n rôl wych sy'n ategu fy sgiliau a'm profiad milwrol; a thrwy'r rôl, rwyf wedi cael y fraint o gwrdd â rhai o'n cyn-filwyr gwerthfawr iawn a fu'n ymladd yn yr Ail Ryfel Byd a D-Day. 

Ymrwymodd Cyngor Sir Caerfyrddin i'r Cyfamod ym mis Gorffennaf 2022. Mae’n addewid bod y Cyngor yn deall y dylai’r rhai sy’n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, a’u teuluoedd, gael eu trin â thegwch a pharch yn y cymunedau, yr economi a chymdeithas maent yn gwasanaethu ac yn byw ynddynt. Gellir gweld rhagor o wybodaeth am hyn ar wefan y Cyngor

Yn 2023, roedd y Cyngor yn un o blith dim ond 17 o gyflogwyr yng Nghymru i dderbyn gwobr Arian y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr sef gwobr fawreddog am ei gefnogaeth i Gymuned y Lluoedd Arfog.

Ychwanegodd Hayley: “Fel milwr wrth gefn, rwy'n hynod ffodus i gael cefnogaeth gadarn Cyngor Sir Caerfyrddin sy'n cydnabod gwerth milwyr wrth gefn ac yn darparu'r hyblygrwydd a'r gefnogaeth angenrheidiol i gyflawni fy nyletswyddau fel milwr wrth gefn. Mae cydbwyso fy rolau sifil a milwrol yn heriol ac yn rhoi boddhad ar yr un pryd. Mae fy swydd yn y cyngor yn hynod foddhaus gan fy ngalluogi i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl yng nghymuned y Lluoedd Arfog.”