6 chamgymeriad (sydd ag atebion hawdd) sy'n golygu eich bod dal mewn dyled

13 diwrnod yn ôl

Yn ystod Wythnos Siarad Arian eleni (4-8 Tachwedd), mae ein darparwr llesiant ariannol, Salary Finance, yn rhannu chwe chamgymeriad cyffredin, ond sydd ag atebion hawdd iddynt, i dorri'r cylch o ran dyled – darllenwch y blog yma.

Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer ffrwd fyw ryngweithiol Salary Finance a gynhelir ar 27 Tachwedd.  Bydd Jason Butler, Pennaeth Addysg Ariannol Salary Finance, yn ymuno â'r arbenigwr ariannol, Abigail Foster, i roi gwybodaeth newydd ac awgrymiadau ymarferol na fyddwch am eu colli! 

Oes angen cymorth ychwanegol arnoch chi? 

Mae Salary Finance yn blatfform ariannol sy'n gysylltiedig â'ch cyflog. Mae'n darparu opsiynau i gyfuno eich holl ddyledion yn un benthyciad hawdd ei reoli. 
Sut mae'n gweithio?
●    Cyfunwch ddyledion i dalu cardiau credyd, gorddrafftiau a phopeth arall 
●    Peidiwch byth â cholli taliad gydag ad-daliadau'n cael eu tynnu'n syth o'ch cyflog
●    Mynediad ar unwaith – mae'r rhan fwyaf o gwsmeriaid yn cael penderfyniad mewn munudau ac arian o fewn 24 awr 
●    Addewid am bris – ar gyfer benthyciadau o dan £5,000, os byddwch yn cael cyfradd well bydd Salary Finance yn rhoi cyfradd gyfatebol
Cyfradd Gynrychioliadol 13.9% APR (sefydlog) 
Mae popeth y mae ei angen arnoch ar gael ar blatfform Salary Finance: home.salaryfinance.com/carmarthenshire

Pwysig: Opsiwn yw hwn, nid argymhelliad. Nid yw eich cyflogwr yn elwa ar gynnig y gwasanaeth hwn a bydd eich holl gyfathrebiadau gyda Salary Finance. Bydd ceisiadau am fenthyciadau yn cael eu hasesu i sicrhau bod y benthyciad yn briodol ac yn fforddiadwy i chi. Mae'r cynnwys "dysgu" at ddibenion addysgol ac i roi arweiniad yn unig ac mae'n gyffredinol ei natur. Nid yw Salary Finance yn cynnig cyngor ariannol rheoledig. Ceisiwch gyngor ariannol annibynnol.