Byddwch Greadigol y Nadolig hwn: Cymrwch ran yn ein Cystadleuaeth Farddoniaeth Nadoligaidd

6 diwrnod yn ôl

Mae'r Tîm Iechyd a Llesiant yn llawn cyffro wrth eich gwahodd i fod yn greadigol a chymryd rhan yn ein cystadleuaeth farddoniaeth Nadoligaidd. Gall cymryd rhan mewn gweithgareddau artistig fel canu, dawnsio, paentio neu ysgrifennu roi hwb i hyder, ein helpu i ymgysylltu a theimlo'n wydn, a helpu i leddfu pryder, iselder a straen. Mae therapi barddoniaeth, yn benodol, yn gwella hunan-barch, hunan-ddealltwriaeth, ac yn annog mynegi teimladau.

Rydym yn eich annog i ysgrifennu cerdd ar y thema "Beth mae'r Nadolig yn ei olygu i mi." P'un a yw'n atgof plentyndod, yn draddodiad teuluol arbennig, neu'r teimlad o gynhesrwydd a geir wrth roi a dod at ein gilydd, rydym am glywed eich safbwynt unigryw chi ar dymor yr ŵyl. Gallwch weithio'n unigol neu fel tîm i greu eich cerdd.

Cyflwynwch eich ceisiadau i healthandwellbeing@sirgar.gov.uk erbyn 12pm ddydd Mercher, 10 Rhagfyr.

Am ragor o wybodaeth, awgrymiadau neu adnoddau iechyd a llesiant, ewch i'r tudalennau Iechyd a Llesiant. Gadewch i ni ddathlu creadigrwydd, dychymyg, a llawenydd barddoniaeth gyda'n gilydd y Nadolig hwn!

Erthygl gan: Tim Iechyd a Llesiant