Cam-drin Domestig – Dydych chi ddim ar eich pen eich hun
7 diwrnod yn ôl
Fel Cyngor, rydym yn cefnogi ymgyrch y Rhuban Gwyn eleni, a ddechreuodd ddydd Llun (25 Tachwedd).
Yn y llythyr newyddion yr wythnos diwethaf, buom yn siarad am yr hyn y gallwch ei wneud i ddangos eich cefnogaeth a chymryd rhan.
Fel cyflogwr, mae gennym bolisi dim goddefgarwch i drais a cham-drin ac yn deall mai’r cyflawnwr sy’n gyfrifol am unrhyw fath o gam-drin. Gellir dod o hyd i'n polisi mewn perthynas â Cham-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar ein tudalennau Adnoddau Dynol - gall ein holl staff gyrchu'r wybodaeth hon, gan ddefnyddio unrhyw ddyfais.
Os ydych chi'n dioddef neu wedi goroesi camdriniaeth, dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Gall ein polisi eich helpu chi ac mae'n cynnwys awgrymiadau ymarferol ar gynllunio diogelwch, gwybodaeth am amser o'r gwaith â thâl a sut i gael cymorth a chwnsela. Mae hefyd yn cynnwys cyngor i reolwyr ynghylch beth i'w wneud os ydynt yn rheoli rhywun sy'n cael ei gam-drin a chyngor i bawb ar beth i'w wneud os ydych yn poeni am gydweithiwr neu'n meddwl y gallai fod angen cymorth arno/arni.
Mae yna hefyd sefydliadau allanol a all eich helpu, a gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar ein tudalennau Iechyd a Llesiant - gall ein holl staff gael mynediad at y wybodaeth hon hefyd, gan ddefnyddio unrhyw ddyfais.
Gallwch hefyd gwblhau'r modiwl e-ddysgu Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV), y gallwch ei gyrchu trwy Thinqi. Cofiwch, mae gan bob un ohonom ddyletswydd gyfreithiol i gwblhau'r modiwl hwn, a fydd yn:
- rhoi'r wybodaeth sylfaenol i chi o’r hyn y mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn ei olygu
- eich helpu i adnabod cam-drin domestig a thrais rhywiol
- eich cyfeirio at yr help sydd ar gael i ddioddefwyr.
I gael cymorth a chyngor ynghylch cam-drin domestig a thrais rhywiol, ewch i'n tudalennau Adnoddau Dynol ar y fewnrwyd.