Mae Diogelu yn gyfrifoldeb ar bawb!
13 diwrnod yn ôl
Mae Wythnos Genedlaethol Diogelu yn cael ei chynnal rhwng 11 a 15 Tachwedd. Dyma ein cyfle i dynnu sylw at y rôl hanfodol y mae diogelu yn ei chwarae yn ein cymuned ac i annog pawb i fod yn wybodus a bod yn rhagweithiol.
Mae Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal rhwng 11 a 15 Tachwedd. Gallwch gael rhagor o wybodaeth a chofrestru'ch diddordeb yma.
Mae ein mewnrwyd hefyd yn llawn adnoddau i'ch helpu i ddeall a gweithredu mesurau diogelu yn effeithiol. Edrychwch ar ein:
- Tudalennau Diogelu Corfforaethol newydd: Darllenwch ein Polisi Diogelu Corfforaethol a darganfod pa gamau i'w cymryd os oes gennych unrhyw bryderon diogelu.
- Tudalennau recriwtio: Dysgwch am ein Polisi Recriwtio Mwy Diogel a chael arweiniad ar wiriadau'r DBS.
- Tudalennau Dysgu a Datblygu: Adnoddau sy'n cwmpasu ystod eang o bynciau diogelu.
Rydym yn eich annog i fanteisio ar y cyfleoedd hyn oherwydd bod eich ymwybyddiaeth a'ch ymrwymiad yn hanfodol i sicrhau diogelwch pawb a chynnal y safonau uchaf o ran diogelu.