Proses newydd ar gyfer archebu ystafelloedd cyfarfod
12 diwrnod yn ôl
Rydym yn gweithio i wella ein proses ar gyfer archebu ystafelloedd cyfarfod, ac efallai eich bod wedi sylwi ar arwyddion newydd ar rai o ddrysau ein hystafelloedd cyfarfod.
Mae hyn yn rhan o brosiect parhaus, sy'n cael ei redeg gan y tîm Eiddo, i ddiweddaru gwybodaeth am ystafelloedd cyfarfod. Bydd y gwaith yn ei gwneud hi'n haws i staff ddod o hyd i ystafelloedd cyfarfod, archebu lle a mynd iddynt.
Bydd y prosiect yn cymryd sawl wythnos i'w gwblhau, a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd.
Yn y cyfamser, daliwch ati i archebu a defnyddio ystafelloedd cyfarfod yn y ffordd arferol.