Ymgyrch Defnyddia dy Gymraeg

6 diwrnod yn ôl

Rydym yn falch o gefnogi'r ymgyrch 'Defnyddia dy Gymraeg', sy'n cael ei threfnu gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Mae'r ymgyrch yn cael ei chynnal rhwng 25 Tachwedd a 9 Rhagfyr a'r nod yw annog pawb i ddefnyddio'u Cymraeg bob dydd – yn y cartref, yn y gwaith, dros y ffôn, wyneb yn wyneb ac ar-lein. Mae'n gyfle i ni fel awdurdod lleol hyrwyddo ein gwasanaethau Cymraeg a dangos bod yr iaith yn perthyn i bawb.

Cofiwch lawrlwytho ein cefndiroedd hydref/gaeaf newydd ar gyfer Teams a fydd hefyd yn dangos yn amlwg os ydych chi'n siarad Cymraeg neu'n ddysgwr Cymraeg. Ewch i'r dudalen Marchnata a'r Cyfryngau ar y fewnrwyd i weld y cefndiroedd newydd.

P'un a ydych chi'n dysgu, yn ymarfer neu'n dymuno gwella eich sgiliau Cymraeg, mae gennym ystod eang o gyfleoedd ar gael ichi. Edrychwch ar y tudalennau Dysgu a Datblygu ar y fewnrwyd i gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau, darganfod eich lefel iaith, a'r 'pethau ychwanegol' y gallwch eu gwneud i wella'ch Cymraeg.

CANOLRADD:

Os ydych chi wedi cwblhau'r cwrs canolradd o'r blaen ac yr hoffech loywi eich iaith neu os ydych chi wedi cyrraedd Lefel 4 Cymraeg ar hyn o bryd. Gallwch ymuno â'r cwrs hwn sydd ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn benodol ar Teams.

Dydd Mercher 09:30 – 12:30 – Ebrill 2025 

CÔD: WorkWelsh24 Intermediate

GWNEUD CAIS:

Cynyddu Hyder mewn Addysg:

Mae gennym gwrs 6 wythnos ar gyfer staff yn yr adran addysg, sy'n medru siarad Cymraeg ond sydd am gael mwy o hyder o bosib wrth weithio yn y sector Addysg ac mewn ysgolion.  

Bob wythnos:  Ar ddydd Iau

Dechrau: 7 Tachwedd 2024

CÔD: HYDER-ADDYSG24

GWNEUD CAIS:

GWELLA SGILIAU YSGRIFENNU:

Hoffech chi wella eich sgiliau ysgrifennu Cymraeg?

Cwblhewch y cwrs 2 ran hwn ar-lein i wella'ch sgiliau ysgrifennu Cymraeg

GWELLA'CH CYMRAEG: Rhan 1 | Dysgu Cymraeg

GWELLA'CH CYMRAEG: Rhan 2 | Dysgu Cymraeg

CROESO I'R GYMRAEG:

Ydych chi'n newydd i'r Gymraeg, ac am gael cael cyflwyniad i'r iaith cyn dechrau cwrs? Ar ôl cwblhau'r cwrs, byddwch yn cyrraedd lefel 1.

CROESO: RHAN 1 | Dysgu Cymraeg

CROESO: Rhan 2 | Dysgu Cymraeg

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn cynnig cyrsiau hyblyg ar-lein wedi'u teilwra ar gyfer staff yn y sector Gofal Cymdeithasol i gefnogi datblygu sgiliau Cymraeg. Enw'r cwrs hwn yw CAMAU ac mae'n canolbwyntio ar eiriau ac ymadroddion mae'n fwyaf tebygol y bydd eu hangen yn y sector gofal cymdeithasol.

MYNEDIAD CAMAU:

Mae'r modiwl Mynediad yn addas ar gyfer dechreuwyr

Cwrs Mynediad Rhan 1 | Cyrsiau | Dysgu Cymraeg

SYLFAEN CAMAU:

Addas ar gyfer y rhai sydd wedi cwblhau'r cwrs Mynediad, neu sydd â dealltwriaeth sylfaenol o'r Gymraeg

Cwrs Sylfaen Rhan 1 | Cyrsiau | Dysgu Cymraeg

Os hoffech drafod eich opsiynau, cysylltwch â Kelly A Morris yn y tîm Dysgu a Datblygu drwy Teams, neu trefnwch apwyntiad