Dyfarniad Cyflog ar gyfer 2024/25

21 diwrnod yn ôl

Newyddion da!  Mae dyfarniad cyflog eleni ar gyfer Staff y Cyd-gyngor Cenedlaethol (NJC) bellach wedi'i gytuno ac mae ein Tîm y Gyflogres yn gweithio tuag at gael hwn, a'ch ôl-daliadau (o 1 Ebrill 2024), i'ch cyfrif banc ym mis Tachwedd.

Os ydych yn cael eich talu bob pedair wythnos, bydd hyn yn digwydd ym mis Tachwedd. Mae ein Tîm y Gyflogres yn brysur iawn ar hyn o bryd, felly peidiwch â'u ffonio oni bai bod gennych ymholiad brys.   

Os ydych yn derbyn budd-daliadau cysylltiedig ag incwm, fel Credyd Cynhwysol, gallai ôl-daliadau cyflog effeithio ar eich budd-daliadau. Os ydych yn poeni am hyn, dylech gysylltu â'ch Hyfforddwr Gwaith Credyd Cynhwysol trwy eich cyfrif ar-lein neu drwy ffonio Llinell Gymorth Credyd Cynhwysol ar 0800 328 5644. 

Mae'r dyddiadau talu ar gael ar ein tudalennau mewnrwyd lle cewch hyd hefyd i'r graddfeydd cyflog diweddaraf.