Mae Wythnos Siarad Arian yma – "Just Do One Thing" gyda My Money Matters!
22 diwrnod yn ôl
Mae Wythnos Siarad Arian (4-8 Tachwedd) yn annog pawb i gymryd cam bach ond effeithiol tuag at iechyd ariannol gwell, ac mae My Money Matters yma i'ch helpu i wneud i hynny ddigwydd!
Fel aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, mae gennych fynediad unigryw at lwyfan My Money Matters. P'un a ydych chi eisiau rheoli eich cyllideb, deall eich buddion CPLlL, neu fynd i'r afael â dyled, mae'r llwyfan hwn yn cynnig yr offer a'r adnoddau i'ch cefnogi.
Drwy gydol Wythnos Siarad Arian, bydd My Money Matters yn cynnal cyfres o weminarau am ddim, llawn gwybodaeth i'ch helpu i gymryd cyfrifoldeb am eich arian:
- Y gyllideb - Gwybodaeth angenrheidiol
Dadansoddiad o'r prif gyhoeddiadau o Gyllideb Hydref gyntaf y llywodraeth newydd, gan gynnwys sut y gallai newidiadau i reolau treth a rheoliadau pensiwn y DU effeithio arnoch chi a'ch cynlluniau ariannol.
- Delio â dyled
Dysgu strategaethau i rheoli a lleihau beichiau ariannol, archwilio'r camau y gallwch eu cymryd i adennill rheolaeth o'ch arian a gweithio tuag ddyfodol mwy sefydlog.
- Deall eich arian parod di-dreth
Os ydych yn ystyried defnyddio'ch arian parod di-dreth o'ch pensiwn, bydd y weminar hon yn esbonio sut i'w wneud yn effeithlon heb gyfaddawdu ar eich buddion pensiwn.
- Nodweddion arbennig gan The Will Guys a Snoop
Mewnwelediadau unigryw gan The Will Guys a Snoop, darparwyr cynnyrch dibynadwy My Money Matters, ar y gwasanaethau sydd ar gael i'ch helpu i gyrraedd eich nodau ariannol.
Mae My Money Matters yn cynnig amrywiaeth o adnoddau sy'n gallu eich helpu, ble bynnag rydych chi ar eich taith ariannol. O gyfarfodydd 1-1 i gyfrifianellau, gallwch gael mynediad at y rhain i gadw rheolaeth dros eich arian.
Ddim yn siŵr ble i ddechrau? Ewch i'r Blog Wythnos Siarad Arian i ddysgu mwy.