Trais ac Ymddygiad Ymosodol
21 diwrnod yn ôl
Mae trais ac ymddygiad ymosodol, bwlio ac aflonyddu neu unrhyw fath arall o ymddygiad sy'n effeithio ar ddiogelwch personol unrhyw un o weithwyr Cyngor Sir Caerfyrddin, o unrhyw ffynhonnell yn ANNERBYNIOL ac NI FYDD YN CAEL EI ODDEF.
Mae rhoi gwybod am achosion o drais ac ymddygiad ymosodol yn galluogi'r Cyngor i ddeall pryd a ble mae'r digwyddiadau hyn yn digwydd, os oes angen gweithredu asesiadau risg / trefniadau ac a oes angen unrhyw gymorth ychwanegol.
Mae gan bob aelod o staff yr hawl i weithio heb ofni trais, camdriniaeth, aflonyddu, erledigaeth, aflonyddu rhywiol neu aflonyddu oherwydd nodwedd warchodedig o unrhyw fath gan eraill.
Mae ymddygiadau annerbyniol yn cynnwys:
- Rhegi
- Gweiddi
- Ymosod
- Dychryn
- Bygwth
- Galw enwau
- Rhwystro
- Dilyn/stelcian
- Enwi ar y cyfryngau cymdeithasol
- Ymddygiad ymosodol ysgrifenedig (e.e e-bost/llythyrau ac ati)
Neu unrhyw ymddygiad arall sy'n gwneud i chi deimlo eich bod wedi'ch dychrynu, dan fygythiad neu'n anghyfforddus.
Atgoffir gweithwyr i adrodd POB achos o drais ac ymddygiad ymosodol i reolwyr llinell cyn gynted â phosibl - gall hwn fod yn adroddiad llafar, e-bost neu gopi papur o'r ffurflen (ar gael ar y fewnrwyd).
COFIWCH - NID yw digwyddiadau trais ac ymddygiad ymosodol yn rhan o'r swydd ac NI ddylid eu hanwybyddu.
Am ragor o gyngor, arweiniad a gwybodaeth ar sut i reoli risgiau sy'n gysylltiedig â Diogelwch Personol gan gynnwys trais ac ymddygiad ymosodol, ewch i'r tudalennau Diogelwch Personol ar y fewnrwyd a lawrlwytho'r Pecyn Cymorth i Reolwyr.
Am ragor o gyngor, arweiniad neu gymorth ynghylch rhoi gwybod am ddamwain / digwyddiad ewch i'r tudalennau Rhoi gwybod am Ddamwain / Digwyddiad / Damwain a fu bron â digwydd ar y fewnrwyd, neu cysylltwch â'r Tîm Iechyd a Diogelwch ar IechydaDiogelwch@sirgar.gov.uk.
Erthygl gan: Llesiant Y Weithwyr