Mis y Galon
11 diwrnod yn ôl
Mis Chwefror yw Mis y Galon ac eleni rydym yn annog pobl i gymryd o leiaf 10 munud y dydd i helpu i wella iechyd eu calon.
Oeddech chi'n gwybod bod gan bron i 1 o bob 2 oedolyn yn y DU golesterol uchel? Mae angen rhywfaint o golesterol yn ein gwaed ar bob un ohonom i gadw'n iach, ond gall gormod arwain at broblemau iechyd difrifol fel trawiadau ar y galon a strôc.
Gall lefelau colesterol gael eu heffeithio gan nifer o ffactorau gan gynnwys ffordd o fyw, diet, geneteg a chyflyrau iechyd fel diabetes. Gall unrhyw un gael colesterol uchel, hyd yn oed os ydych chi'n ifanc, yn denau, yn bwyta'n dda ac yn ymarfer corff oherwydd gall fod yn gyflwr genetig.
Ar hyn o bryd mae saith miliwn o bobl yn y DU yn byw gyda chlefyd cardiofasgwlaidd, sy'n cynnwys trawiad ar y galon a strôc. Fodd bynnag, mewn llawer o achosion gall pobl leihau eu risg o'r cyflyrau hyn trwy:
• Gwella eu diet;
• Gwneud mwy o weithgarwch corfforol;
• Rhoi'r gorau i ysmygu.
Mae ystadegau newydd yn dangos bod llai na thraean (30%) o oedolion yn bwyta pum darn o ffrwythau a llysiau y dydd, ac nid yw 33% o ddynion a bron i hanner (45%) o fenywod yn gwneud y 150 munud o weithgarwch corfforol a argymhellir yr wythnos.
Rydym yn annog pobl i ‘ddechrau’n fach’ drwy gymryd o leiaf 10 munud bob dydd i wneud newid bach tuag at ffordd iachach o fyw yn ystod Mis y Galon ym mis Chwefror. Mae hyn yn unol ag argymhellion y llywodraeth y dylai oedolion anelu at fod yn egnïol bob dydd, ‘mewn pyliau o 10 munud neu fwy’, gan wneud cyfanswm o o leiaf 150 munud yr wythnos.
Am ragor o wybodaeth a Chyngor Ffordd o Fyw ewch i'r tudalennau Iechyd a Lles.
Erthygl gan: Tim Iechyd a Llesiant