Mae angen mwy o roddwyr gwaed yn Sir Gâr

10 diwrnod yn ôl

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru angen rhoddwyr gwaed yn Sir Gaerfyrddin - allwch chi helpu?

A wyddech chi:

  1. Mae pob rhodd gwaed yn arbed 3 bywyd, neu 6 babi cynamserol.
  2. Dim ond 3% o'r boblogaeth gymwys yng Nghymru sy'n rhoi gwaed ar hyn o bryd.
  3. Mae'n cymryd 5-10 munud yn unig i roi gwaed.

Dod yn achubwr bywyd drwy gofrestru i gyfrannu heddiw.

Dyma'r sesiynau sy'n cael eu cynnal cyn bo hir:

·       22 Ionawr, 2025 – Lolfa Quinnell, Parc y Scarlets

·       29 Ionawr, 2025 – Tesco Rhydaman

·       31 Ionawr, 2025 – Neuadd Goffa, Pen-y-groes

·       6 Chwefror, 2025 – Gwesty Brenhinol y Llwyn Iorwg, Caerfyrddin

·       10 Chwefror, 2025 – Ymddiriedaeth y Neuadd Ddinesig, Llandeilo

·       13 Chwefror, 2025 – Lolfa Quinnell, Parc y Scarlets

·       14 Chwefror, 2025 – Pontyberem

·       20 Chwefror, 2025 – Asda Llanelli

·       21 Chwefror, 2025 – Neuadd y Deml Gristnogol, Rhydaman

·       28 Chwefror, 2025 – Y Neuadd Goffa, Porth Tywyn

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi rhoi dolen archebu unigryw i Gyngor Sir Caerfyrddin.

Rhagor o wybodaeth ac i archebu lle yn y sesiwn agosaf atoch