Mae gwefan Thinqi wedi cael ei hadnewyddu!
1 diwrnod yn ôl
Fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i wella eich profiad gyda Thinqi, rydyn ni wedi gwneud rhai gwelliannau.
Hafan newydd ffres:
Y peth cyntaf y byddwch chi'n sylwi arno yw'r hafan wedi'i hailgynllunio. Mae'n rhoi golwg gliriach ar wybodaeth allweddol boed hynny'n Dysgu dan Sylw, Adnoddau a Argymhellir, neu Weithgaredd Diweddar.
Mynediad haws at gyfleoedd dysgu:
Mae'r tab "Fy Ngweithgareddau" newydd yn dod â'ch holl weithgareddau dysgu at ei gilydd mewn un lle, gan gynnwys eitemau sydd angen eu cwblhau, eitemau sydd wedi'u cwblhau ac eitemau sydd wedi'u nodi.
Yn ogystal, mae'r "Llyfrgell" yn darparu un lle ar gyfer yr holl gyrsiau, adnoddau a llwybrau dysgu sydd ar gael.
Os hoffech chi archebu lle ar ddigwyddiad, defnyddiwch y botwm "Dewislen" ar ochr dde uchaf y sgrin i weld y sesiynau sydd ar gael a threfnu eich lle, gan ei gwneud hi'n haws cynllunio a rheoli eich dysgu.
Rheoli gosodiadau'n haws:
Mae'n haws nag erioed i chi reoli eich gosodiadau. Mae botwm clir “Golygu proffil” bellach yn lle’r eicon cog blaenorol, sy’n ei gwneud yn haws i chi ddiweddaru eich dewisiadau iaith, cyfrinair a manylion eich proffil.
Rydyn ni'n eich annog chi i edrych ar y nodweddion newydd a manteisio ar y platfform wedi'i ddiweddaru. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch chi, ewch i'r tudalennau Dysgu a Datblygu ar y fewnrwyd.
