Wythnos Dysgu yn y Gwaith 18 - 24 Mai 2026 – Gwneud Amser i Ddysgu
18 awr yn ôl
Mae Wythnos Dysgu yn y Gwaith yn gyfle gwych i ganolbwyntio ar eich datblygiad. Gall treulio ychydig o amser yn ystod yr wythnos i ddysgu wneud gwahaniaeth go iawn i'ch hyder, sgiliau, a'ch llesiant cyffredinol.
Eleni, mae pawb yn cael eu hannog i wneud y gorau o Thinqi. Gallwch fewngofnodi i gwblhau modiwlau hanfodol, archwilio'r cynllun newydd neu edrych ar yr ystod eang o gyfleoedd dysgu eraill sydd ar gael. Mae rhywbeth at ddant pawb - boed hynny'n adeiladu sgiliau craidd, dod yn fentor digidol, neu loywi gwybodaeth sy'n bodoli eisoes.
Gallwch chi gymryd rhan drwy:
- Neilltuo amser penodol yn ystod yr wythnos ar gyfer dysgu
- Rhoi cynnig ar rywbeth newydd neu ailedrych ar bynciau allweddol ar Thinqi
- Rhannu eich profiadau dysgu gyda chydweithwyr
Gall neilltuo ychydig o amser arwain at fanteision mawr i chi a'ch tîm.
Gadewch i ni wneud Wythnos Dysgu yn y Gwaith 2026 yn brofiad cadarnhaol a diddorol drwy neilltuo amser penodol yn ystod yr wythnos ar gyfer dysgu - ewch ati i fewngofnodi, archwilio a dysgu.
