Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2026:

1 diwrnod yn ôl

Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2026: Troi Ymwybyddiaeth yn Weithred

Cynhelir Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl rhwng 11 a 17 Mai 2026 ac mae'n un o ymgyrchoedd pwysicaf y DU sy'n canolbwyntio ar wella llesiant meddyliol. Thema eleni yw "Gweithredu", sy'n tynnu sylw at bwysigrwydd cymryd camau ymarferol i gefnogi iechyd meddwl yn ein bywydau bob dydd.

Mae iechyd meddwl yn effeithio ar bob un ohonom, ac er bod ymwybyddiaeth wedi gwella, mae llawer o bobl yn dal i wynebu rhwystrau i gael cymorth. Mae'r wythnos hon yn ein hannog i symud y tu hwnt i sgwrs a chymryd camau ystyrlon - boed hynny'n edrych ar ôl ein hunain, cefnogi cydweithwyr, neu gyfrannu at ddiwylliant iachach yn y gweithle.

Gall hyd yn oed gweithredoedd bach wneud gwahaniaeth.  Gallai hyn gynnwys cymryd amser i orffwys, cadw'n egnïol, cysylltu ag eraill, neu gadw mewn cysylltiad â chydweithiwr. Mae yna dair ffordd allweddol y gallwn ni weithredu:

  • I chi'ch hun – blaenoriaethu eich iechyd meddwl eich hun a cheisio cymorth pan fo angen
  • I eraill – creu amgylcheddau cefnogol a gwrando heb farnu
  • I bob un ohonom – helpu i adeiladu diwylliant lle mae iechyd meddwl yn cael ei werthfawrogi a'i gefnogi

Cymorth a chysylltiadau lleol o fewn Cyngor Sir Caerfyrddin

Mae ystod eang o gysylltiadau a chymorth llesiant mewnol ar gael i staff:

Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnig cyngor, arweiniad, gwasanaethau cyfeirio a chymorth ymarferol i helpu staff i reoli eu llesiant a chael y cymorth iawn ar yr adeg iawn.

Creu gweithle iachach

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl yn gyfle i ni ystyried sut rydyn ni'n cefnogi llesiant ar draws ein timau. Gall hyrwyddo gweithio hyblyg, annog seibiannau, a chymorth cyfeirio gyfrannu at amgylchedd gwaith iachach.

Yn y pen draw, nid yw Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn ymwneud ag wythnos yn unig—mae'n ymwneud â gwneud newid parhaol. Trwy weithredu, pa mor fach bynnag, gallwn ni helpu i greu gweithle mwy cefnogol a gwydn i bawb.

Ar ben hynny, rydym wedi creu'r modiwl e-ddysgu  Iechyd Meddwl yn y gweithle (gig.cymru) fel modiwl gorfodol allweddol, mae'n rhaid i bawb gwblhau hwn. Mae'n canolbwyntio ar iechyd meddwl, gan gynnwys straen, yn y gweithle a sut i’ch cefnogi chi eich hun ac eraill, ac mae'n darparu dolenni i'r cymorth mewnol ac allanol sydd ar gael.

Rydym wedi ymrwymo o hyd i gefnogi eich iechyd meddwl a'ch llesiant ac rydym yn eich annog i ganolbwyntio ar wneud addasiadau i'ch trefn ddyddiol y gallwch ddygymod â hwy, er y gall effaith camau bach ymddangos yn fach, gall effeithiau'r rhain fod yn anferthol!

I gynorthwyo arweinwyr tîm, goruchwylwyr a rheolwyr i leihau straen ac absenoldeb salwch sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl yn eu meysydd gwasanaeth, rydym wedi trefnu rhaglen o weithdai "Rheoli Straen ac Iechyd Meddwl yn y Gweithle". Caiff pob arweinydd tîm, goruchwyliwr a rheolwr ei annog yn gryf i fynychu'r gweithdai hyn.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r tudalennau mewnrwyd Straen, Iechyd Meddwl a Llesiant Emosiynol i gael rhagor o wybodaeth a chefnogaeth. Gweler hefyd ein tudalen Cymorth a Chefnogaeth ar gyfer sefydliadau ac adnoddau allanol. I wneud unrhyw ymholiadau eraill am Iechyd a Llesiant, cysylltwch â'r tîm Iechyd a Llesiant ar unrhyw adeg drwy lenwi'r ffurflen gysylltu ar-lein.