Polisi Absenoldeb Gofalwyr
Cyflwyniad
Mae'r polisi hwn yn nodi ein hymrwymiad i gefnogi gofalwyr a'r weithdrefn ar gyfer rheoli cais gan weithiwr am absenoldeb gofalwyr yn unol â Deddf Absenoldeb Gofalwyr 2023.
Efallai y bydd gan weithwyr gyfrifoldebau gofalu ac y byddant yn gofyn am ein cymorth i gyfuno gwaith â gofal. Rydym wedi mabwysiadu'r polisi hwn i ddangos ein cefnogaeth i weithwyr sy'n ofalwyr, ac i nodi pa gymorth sydd ar gael.
Ein nod yw rhoi'r un cyfleoedd i ofalwyr o ran recriwtio a gyrfa â phawb arall. Byddwn yn rhoi cymaint o gymorth â phosibl i ofalwyr gyflawni'r amcan hwn.
Cwmpas
Mae'r polisi a'r weithdrefn hon yn cwmpasu pob gweithiwr, gan gynnwys athrawon a gyflogir yn ganolog, ac eithrio staff mewn ysgolion a reolir yn lleol, y mae polisi ar wahân yn berthnasol ar eu cyfer. Yn absenoldeb polisi y cytunwyd arno'n lleol gan ysgolion unigol, dylid dilyn egwyddorion y polisi hwn.
Diffiniad gofalwr
Wrth ddiffinio gofalwyr, ein nod yw sicrhau cydbwysedd rhwng cydnabod amgylchiadau arbennig gofalu, a pheidio â dosbarthu gofalwyr fel grŵp caeth neu ar wahân.
Rydym yn diffinio gofalwyr fel gweithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu sylweddol sy'n cael effaith sylweddol ar eu bywyd gwaith. Mae'r gweithgareddau y mae gofalwyr yn eu cyflawni yn eang, gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i'r canlynol:
- cymorth gyda gofal personol.
- cymorth gyda symudedd.
- rheoli meddyginiaeth.
- tasgau ymarferol yn y cartref.
- cefnogaeth emosiynol; a
- cymorth gyda materion ariannol neu waith gweinyddol.
Mae anghenion gofalwyr yn wahanol i anghenion gweithwyr sydd â chyfrifoldebau gofal plant arferol, ac mae amgylchiadau a cherrig milltir gofalu yn wahanol i'r rhai sy'n gysylltiedig â gofal plant arferol. Edrychwch ar ein polisïau Absenoldeb a Gweithio Hyblyg ar gyfer opsiynau a allai eich helpu i gydbwyso gofal plant.
Mae gofalu yn gallu bod yn anrhagweladwy a pheri gofid. Gall gweithiwr dderbyn cyfrifoldebau gofalu dros nos, er enghraifft ar ôl i'w riant gael strôc, neu gall cyfrifoldebau gofalu ddatblygu dros amser, er enghraifft pan fo gan bartner y gweithiwr gyflwr iechyd hirdymor gwanychol. Gyda gofal plant arferol, mae taith y plentyn yn fwy rhagweladwy wrth iddo dyfu'n hŷn, mynd i'r ysgol a dod yn fwy annibynnol. Gall cerrig milltir gofalu fynd i'r cyfeiriad arall, er enghraifft gall rhiant oedrannus ddod yn fwy bregus ac yn fwy dibynnol dros amser, a gall plentyn anabl barhau i fod ag anghenion cymorth sylweddol pan fydd yn oedolyn.
Diffiniad o ddibynyddion
Mae'r diffiniad o “ddibynnydd” a allai fod angen eich gofal yn cynnwys:
- eich priod, eich partner sifil, eich plentyn, eich rhiant.
- person sy'n byw yn yr un cartref â chi (ac eithrio oherwydd ei fod yn gyflogai, yn denant neu'n
lletywr); neu - unrhyw berson arall sy'n dibynnu'n rhesymol arnoch i ddarparu neu drefnu gofal.
Nodi a datgelu
Nid yw'n ofynnol i chi ddatgelu i'ch rheolwr llinell eich bod yn gofalu am rywun ond rydych yn cael eich annog i wneud hynny. Bydd hyn yn ein helpu i roi cymorth priodol i chi. Bydd rheolwyr llinell yn parchu cyfrinachedd unrhyw wybodaeth a roddir iddynt yn hyn o beth.
Pan fyddwch yn datgelu i'ch rheolwr llinell neu drwy'r adran Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ar Ddangosfwrdd MyView eich bod yn ofalwr, byddwn yn prosesu unrhyw ddata personol sy'n cael ei gasglu yn unol â'n datganiad preifatrwydd data. Mae data sy'n cael ei gasglu o'r pwynt lle rydych yn rhoi gwybod inni am eich cyfrifoldebau gofalu yn cael ei gadw'n ddiogel a'i ddefnyddio gan unigolion a'i ddatgelu i unigolion dim ond er mwyn eich cefnogi gyda'ch cyfrifoldebau gofalu (er enghraifft, wrth ddelio â cheisiadau am weithio hyblyg).
Lle mae rheolwr yn gwybod bod gennych gyfrifoldebau gofalu, dylai eich rheolwr llinell drafod y cymorth y mae ein sefydliad yn ei gynnig i ofalwyr a'ch annog i gael y cymorth hwn. Gweler ein tudalen we Cefnogaeth i Ofalwyr.
Absenoldeb gofalwyr
Mae absenoldeb gofalwyr yn wythnos o absenoldeb di-dâl mewn cyfnod treigl o 12 mis ac nid oes cyfnod gofynnol o wasanaeth i wneud cais amdano. Mae wythnos o absenoldeb gofalwyr yr un mor hir â'ch wythnos waith arferol.
Bydd absenoldeb gofalwyr yn berthnasol i'r holl weithwyr a'i fwriad yw eich galluogi i ddarparu neu drefnu gofal ar gyfer dibynnydd sydd ag angen gofal hirdymor.
Ar gyfer beth y gellir defnyddio absenoldeb gofalwyr
Gellir defnyddio absenoldeb gofalwyr ar gyfer angen gofal hirdymor. Mae gan ddibynnydd angen gofal hirdymor:
- os oes ganddo salwch neu anaf (boed yn gorfforol neu'n feddyliol) sy’n gofyn, neu'n debygol o ofyn, am ofal am fwy na thri mis.
- os oes ganddo gyflwr sy'n gyfystyr ag anabledd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010; neu
- os oes angen gofal arno am reswm sy'n gysylltiedig â'i henaint.
Mae'r hawl statudol hon i absenoldeb gofalwyr yn berthnasol i amrywiaeth eang o sefyllfaoedd gofalu, ond nid yw'n cynnwys gofal plant cyffredinol, ac eithrio pan fydd eich plentyn yn bodloni'r diffiniad o ddibynnydd sydd ag angen gofal hirdymor.
Os oes gennych gyfrifoldebau gofalu byrdymor, cyfeiriwch at bolisïau a gweithdrefnau Absenoldeb a Gweithio Hyblyg yr Awdurdod. Bydd hyn yn darparu opsiynau eraill, e.e., gwyliau blynyddol, amser o'r gwaith ar gyfer dibynyddion, ac ati.
Sut y gellir cymryd absenoldeb gofalwyr?
Gellir cymryd absenoldeb gofalwyr yn hyblyg. Y gofynion allweddol yw:
- Wrth ddefnyddio'r absenoldeb, mae'n rhaid i chi gymryd o leiaf hanner diwrnod gwaith ar y tro; ystyr diwrnod gwaith yw eich patrwm gweithio arferol. Nid oes angen i'r absenoldeb gael ei ddefnyddio ar ddiwrnodau olynol. Felly, os ydych yn gweithio'n llawn amser, gallech gymryd pum niwrnod ar wahân dros gyfnod treigl o 12 mis.
- Mae'n ofynnol i chi roi rhybudd, er nad oes angen gwneud hyn yn ysgrifenedig. Mae'n rhaid i'r rhybudd gynnwys y ffaith bod gennych hawl i gymryd absenoldeb gofalwyr a'r diwrnod(au) neu ran o ddiwrnod a gymerir.
- Mae'n ofynnol i chi roi rhybudd sydd naill ai ddwywaith hyd y cyfnod y gofynnir amdano, neu dri diwrnod, p'un bynnag yw'r hiraf. Gellir hepgor y rhybudd hwn drwy gydgytundeb gan eich rheolwr llinell ar yr amod eich bod fel arall yn gymwys i gymryd absenoldeb gofalwyr.
Gwneud Cais am Absenoldeb Gofalwyr
Mae'n rhaid i chi gysylltu â'ch rheolwr llinell neu'ch swyddog enwebedig cyn gynted â phosibl i esbonio pam mae angen absenoldeb gofalwyr arnoch a nifer y diwrnodau y byddwch yn absennol, gan ddefnyddio Atodiad 1.
Bydd gofyn i chi hefyd wneud cais am absenoldeb gofalwyr drwy'r system hunanwasanaeth ar y we, Dangosfwrdd MyView, gan ddefnyddio 'Absenoldeb Arall’.
Fodd bynnag, nid oes rhaid darparu tystiolaeth ddogfennol. Prif bwrpas llenwi'r ffurflen MyView yw awdurdodi didyniadau cyflog am y cyfnod o absenoldeb di-dâl.
Penderfyniad y rheolwr a gohirio eich absenoldeb gofalwyr.
Ni all eich rheolwr llinell wrthod eich cais am absenoldeb gofalwyr ond gall ei ohirio os yw o'r farn resymol y byddai cymeradwyo'r absenoldeb yn tarfu'n ormodol ar ddarparu'r gwasanaeth, fel y nodir yn Atodiad C. Os yw eich rheolwr llinell yn gohirio'r absenoldeb, mae’n rhaid iddo roi gwrthrybudd ysgrifenedig i chi o fewn saith diwrnod i'r cais, gan esbonio'r rheswm dros ohirio a'r dyddiadau diwygiedig pryd y gellir cymryd yr absenoldeb. Fodd bynnag, mae'n rhaid caniatáu i chi gymryd yr absenoldeb y gofynnwyd amdano o fewn mis i'ch cais gwreiddiol.
Ein Hymrwymiad i chi
Mae gennych yr hawl i beidio â phrofi triniaeth niweidiol (gan gynnwys cael eich cosbi, eich disgyblu neu eich diswyddo'n annheg) oherwydd eich bod wedi cymryd, wedi ceisio cymryd, neu wedi gwneud defnydd o fanteision absenoldeb gofalwyr.
Os yw eich cais am amser o'r gwaith wedi cael ei wrthod, er ei fod yn un teg yn eich barn chi, gallwch ddefnyddio'r Weithdrefn Achwyniadau i ddatrys y mater.
Tâl yn ystod absenoldeb gofalwyr
Nid oes gennych hawl statudol i gael eich talu yn ystod absenoldeb gofalwyr. Felly, mae unrhyw absenoldeb a gymerir fel absenoldeb gofalwyr yn ddi-dâl.
Er y bydd symiau sy'n daladwy drwy gyflog yn dod i ben, bydd yr holl fuddion eraill yn parhau. Er enghraifft, mae'r gwyliau y mae gennych hawl iddynt yn parhau i gronni. Bydd cyfraniadau pensiwn yn parhau i gael eu talu.
Canslo eich absenoldeb gofalwyr
Gallwch ganslo eich absenoldeb gofalwyr a'i gymryd rywbryd arall cyn belled â'ch bod yn rhoi gwybod i'ch rheolwr llinell cyn i'ch absenoldeb ddechrau.
Ni allwch ganslo unrhyw absenoldeb gofalwyr sydd eisoes wedi dechrau.
Dychwelyd i'r gwaith ar ôl absenoldeb gofalwyr
Yn dilyn eich absenoldeb gofalwyr, mae gennych yr hawl i ailddechrau gweithio yn yr un swydd ag o'r blaen a hynny ar delerau ac amodau nad ydynt yn llai ffafriol na'r telerau a fyddai wedi bod yn berthnasol pe na baech wedi bod yn absennol. Nid effeithir ar barhad eich cyflogaeth.
Ffynonellau cymorth allanol
Mae nifer o sefydliadau sy'n darparu cymorth a chefnogaeth i ofalwyr, gan gynnwys:
- Carers UK, sy'n darparu cymorth a chyngor i ofalwyr ar hawliau cyflogaeth, budd-daliadau a chredydau treth, asesiadau, a materion ymarferol eraill i ofalwyr.
- Gwefan y GIG, sy'n darparu llawer o wybodaeth a chyngor i ofalwyr;
- Grace Care Consulting, sy'n darparu cyngor a chefnogaeth ynghylch gofal, anghenion arbennig a niwroamrywiaeth.
- Age UK ac Independent Age, sy'n cynnig gwybodaeth a chymorth i unrhyw un sy'n darparu gofal anffurfiol di-dâl i berson hŷn drwy amrywiaeth o wasanaethau lleol.
- Contact, sy'n darparu cymorth, cyngor a gwybodaeth i deuluoedd â phlant anabl; ac
- Ymddiriedolaeth Gofalwyr, sy'n gweithio gyda sefydliadau eraill i roi mynediad i ofalwyr i seibiannau, gwybodaeth, cyngor, addysg, hyfforddiant a chyfleoedd cyflogaeth.
Camddefnyddio absenoldeb gofalwyr
Os camddefnyddir cynllun y Polisi Absenoldeb Gofalwyr mewn unrhyw fodd, ymdrinnir â hynny o dan Weithdrefn Ddisgyblu'r Cyngor, e.e., cymryd absenoldeb at ddibenion heblaw am absenoldeb gofalwyr, fel y nodir uchod.
Sicrhau cyfle cyfartal
Rhaid i bawb fabwysiadu agwedd gadarnhaol, agored a theg a gofalu y cedwir at Bolisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yr Awdurdod ac y caiff ei weithredu’n gyson heb ystyried hil, lliw, cenedligrwydd, gwreiddiau ethnig neu genedlaethol, iaith, anabledd, crefydd a chred neu ddiffyg cred, oed, rhyw, ailbennu rhywedd, hunaniaeth neu fynegiant o ran rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, mamolaeth, statws o ran bod yn rhiant neu o ran priodas/partneriaeth sifil.
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn perthynas â chymhwyso’r polisi a’r weithdrefn hon, cysylltwch ag aelod o’r Tîm Rheoli Pobl a fydd, os oes angen, yn sicrhau bod y polisi/y weithdrefn yn cael ei (h)adolygu’n briodol.
Os oes angen copi o'r cyhoeddiad hwn arnoch mewn fformat arall, cysylltwch â Rheoli Pobl drwy anfon e-bost at CHR@sirgar.gov.uk.