Canllaw i Reolwyr ynghylch Cefnogi Staff Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol - Ionawr 2024
Yn yr adran hon
- Croeso i'r Canllaw
- Yr Anhawster o Beidio â Bod Allan yn y Gwaith
- Cwmpas
- Beth Mae'r Gyfraith yn ei Ddweud
- Beth y Gallwch Chi ei Wneud Fel Rheolwr
Beth y Gallwch Chi ei Wneud Fel Rheolwr
Mae yna rai pethau ymarferol y gallwch chi eu gwneud fel Rheolwr i feithrin diwylliant cynhwysol yn eich gwasanaeth a'ch tîm, ac i gefnogi aelodau LHD o'r tîm yn y gweithle a'r rheiny sydd am ddod allan yn y gwaith.
Yn gyffredinol…
Sicrhewch fod eich holl staff yn ymwybodol o bolisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a chanllawiau Safonau Ymddygiad y Cyngor.
Sicrhewch eich bod chi a'ch tîm wedi cael yr hyfforddiant a datblygiad diweddaraf mewn cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Heriwch unrhyw sylwadau neu 'gellwair' homoffobig a deuffobig yn
bendant ac ar unwaith. Mae egluro wrth staff yn syml pam mae rhywbeth y maent
wedi'i ddweud yn amhriodol yn aml yn ffordd effeithiol o beri iddynt feddwl amdano a newid eu hymddygiad.Peidiwch bod ag ofn dweud y peth anghywir. Ymddiheurwch a symud ymlaen os ydych chi'n gwneud camgymeriad. Os oes angen rhagor o wybodaeth neu ddatblygiad arnoch, siaradwch â'ch rheolwr neu'r tîm Dysgu a Datblygu.
Anogwch staff i gwblhau ymarferion monitro cydraddoldeb a chymryd rhan mewn arolygon staff.
Defnyddiwch iaith gynhwysol mewn unrhyw gyfathrebiadau â'ch gwasanaethau a'ch timau, e.e. partner yn hytrach na sboner/wejen a pheidiwch â gwneud rhagdybiaethau am gyfeiriadedd rhywiol pobl yn seiliedig ar eu partner presennol.
Dangoswch eich cefnogaeth mewn digwyddiadau neu grwpiau cymunedol LHD sy'n cael eu cynnal yn yr ardal leol e.e. digwyddiadau Pride.
Cefnogi unigolyn yn benodol...
Os bydd aelod o staff am ddod allan nodwch yn glir y byddwch yn ei gefnogi/chefnogi.
Ystyriwch ddarparu amser ychwanegol ar gyfer goruchwylio.
Cyfeiriwch ef/hi at wybodaeth ac adnoddau a allai fod o ddiddordeb (gweler y rhestr ar ddiwedd y daflen hon).
Cydnabyddwch gyfraniad staff sy'n ymwneud ag unrhyw grwpiau rhwydwaith drwy'r broses arfarnu perfformiad.
