Canllaw i Reolwyr ynghylch Cefnogi Staff Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol - Ionawr 2024

Ein Hymrwymiad i Chi

Rydym yn cydnabod y gallai unigolion niwroamrywiol ddod â chryfderau i'r gweithle mewn nifer o feysydd megis rhoi sylw i fanylder, meddwl am bethau mewn ffordd wahanol i’r arfer, delweddu gweledol, adnabod patrymau a sgiliau dadansoddol.

Credwn y bydd ymdrechion i greu a chynnal sefydliad niwrogynhwysol yn helpu i feithrin creadigrwydd, safbwyntiau gwahanol, syniadau da ac arloesedd, a fydd yn helpu i ysgogi gwell perfformiad sefydliadol.

Fodd bynnag, rydym yn deall y gall unigolion niwroamrywiol wynebu nifer o rwystrau yn y gweithle.

Rydym wedi ymrwymo i wneud newidiadau i fynd i'r afael â'r rhwystrau hyn. Er enghraifft:

  • Sicrhau ein bod yn meithrin ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o niwroamrywiaeth;

  • Creu arferion recriwtio a phrosesau dethol cynhwysol;

  • Annog unigolion â chyflyrau niwroamrywiol i rannu eu profiadau byw os ydynt yn teimlo'n gyfforddus yn gwneud hynny;

  • Cyfeirio unigolion a chydweithwyr niwroamrywiol at gymorth i ddysgu mwy am niwroamrywiaeth a'i ddeall yn well;

  • Darparu hyfforddiant i reolwyr llinell i sicrhau eu bod yn gallu cefnogi unigolion niwroamrywiol; a

  • Darparu sesiynau ymwybyddiaeth o niwroamrywiaeth i'r gweithlu i helpu staff i ddangos empathi at gydweithwyr niwroamrywiol a'u cefnogi'n well.