Cynllun Buddion Ceir Tusker

Diweddarwyd y dudalen: 01/06/2023

Rydym wedi ymuno â Tusker er mwyn darparu cynllun buddion ceir ar eich cyfer sy'n caniatáu i chi yrru car newydd sbon, fydd yn cael ei gynnal a'i gadw a'i yswirio'n llawn am 3 blynedd. Byddwch yn cael pecyn moduro cwbl gynhwysol am gost fisol sefydlog, trwy trefniant ildio cyflog, felly y cyfan sydd angen i chi boeni amdano yw'r tanwydd.

Mae trefniant ildio cyflog yn golygu eich bod yn cytuno i roi’r gorau i’ch hawl i dderbyn rhan o’ch cyflog gros sy’n ddyledus o dan eich contract cyflogi, yn gyfnewid am fuddiant ar wahân i arian – yn yr achos hwn, les ar gar newydd sbon. Caiff y cyflog ei ildio cyn Treth Incwm, Yswiriant Gwladol a chyfraniadau pensiwn, gan arwain at arbedion treth ar y buddiant.

  • Car newydd sbon;
  • Yswiriant modur cwbl gynhwysol gan gynnwys unrhyw deithio busnes i chi a’ch partner domestig. Am gost ychwanegol, gellir yswirio dau yrrwr ychwanegol at ddibenion cymdeithasol, domestig a phleser yn unig;
  • Treth cerbyd flynyddol;
  • Gwasanaeth torri i lawr llawn ledled Ewrop
  • Teiars newydd;

(I gael rhagor o wybodaeth ynghylch beth sydd wedi'i gynnwys a heb ei gynnwys yn y cynllun, darllenwch y Cwestiynau Cyffredin (FAQ's) ar wefan Tusker.)

Mae'r meini prawf cymhwyso isod:

  • Mae angen i chi fod yn gyflogai parhaol â thal;
  • Os ydych ar gontract cyfnod penodol neu gontract dros dro, rhaid bod eich contract cyflogi am gyfnod sy’n hwy na’r Cytundeb Ildio Cyflog arfaethedig;
  • Rhaid bod eich cyflog gros, ar ôl ystyried eich holl fuddiant ildio cyflog, yn uwch na’r Lefel Enillion Is, y Cyflog Byw Cenedlaethol i gyflogeion 25 oed a hŷn a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol i gyflogeion 24 oed ac iau am gyfnod y Cytundeb Ildio Cyflog;
  • Ni ddylai taliadau goramser, gwaith wrth gefn nac unrhyw daliadau honorariwm gael eu cynnwys pan fyddwch yn nodi eich cyflog blynyddol ar y wefan; Rhaid ichi fod wedi cyflawni eich cyfnod prawf yn llwyddiannus;
  • Ni ddylech fod wedi derbyn unrhyw rybuddion o dan ein polisi disgyblu;
  • Ni ddylech fod ar unrhyw adolygiadau galluogrwydd ffurfiol o dan delerau ein polisi galluogrwydd;
  • Nid yw cyflogeion sydd ar delerau ac amodau athrawon yn gymwys i ymuno â’r cynllun ar y cam hwn.

Nid yw cael mynediad i wefan Tusker yn gwarantu eich bod yn gymwys yn awtomatig i ymuno â'r cynllun. Bydd dal angen gwirio a chymeradwyo eich bod yn gymwys cyn ichi allu archebu car drwy’r cynllun.

Hyd yn oed pan fyddwch yn cael eich ystyried yn gymwys i fod yn rhan o’r cynllun, mae’n bwysig eich bod yn deall yr ymrwymiadau ariannol y byddwch yn ymgymryd â nhw, effaith y cyflog a ildir a gofynion y cynllun petai eich cyflogaeth yn dod i ben yn ystod y cyfnod hwn.

Os ydych yn rhan o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, lawrlwythwch y ffeithlen (.pdf) i gael rhagor o wybodaeth ynghylch effaith yr ildio cyflog ar eich pensiwn yn y dyfodol.

Os nad oes unrhyw geir yn ymddangos, gallai hyn fod am y bydd eich cyflog gros yn disgyn yn is na'r trothwy(on) a bennir gan y Llywodraeth ar gyfer Lefel Enillion Is, y Cyflog Byw Cenedlaethol ar gyfer gweithwyr 25 oed a hŷn a'r Cyflog Byw Cenedlaethol ar gyfer gweithwyr 24 oed ac iau. Os nad ydych yn siŵr a yw hyn yn berthnasol i chi, cysylltwch â Thîm Ymgysylltu Cyflogeion Tusker drwy ‘Live Help Online’ sef gwasanaeth negeseua sydyn ar-lein sydd i’w weld ar y wefan. Fel arall, gallwch eu ffonio ar 0333 400 2020 neu anfon e-bost: EETeam@ss4c.comM.