Y Polisi a’r Weithdrefn Disgyblu - Chwefror 2021
Yn yr adran hon
- 10. Achwyniadau a Godwyd yn Ystod Achos Disgyblu
- 11. Swyddogion yr Undeb Llafur
- 12. Cyhuddiadau Troseddol a Rhybuddion neu Euogfarnau y tu allan i'r Gwaith
- 13. Apeliadau
- 14. Cadw Cofnodion
- 15. Monitro’r Polisi a’r Weithdrefn
- 16. Cydraddoldebau
- 17. Rôl y Cydymaith yn ystod y Broses Ddisgyblu ac Achwyniadau
6. Methu â Bod yn Bresennol Mewn Cyfarfod
• Mewn rhai achosion, efallai y bydd gweithiwr yn methu neu'n anfodlon mynychu cyfarfod fel rhan o'r broses ymchwilio neu ddisgyblu, e.e. salwch. Cyn bwrw ymlaen â'r cyfarfod dylai'r swyddog ymchwilio neu'r panel ystyried y canlynol:
- barn feddygol ynghylch a yw'r gweithiwr yn abl i fynychu'r cyfarfod.
- difrifoldeb y mater disgyblu sy'n cael ei ystyried.
- cofnod disgyblu'r gweithiwr (gan gynnwys rhybuddion presennol), cofnod gwaith cyffredinol, profiad gwaith, swydd a hyd y gwasanaeth.
- Y rheolau sy'n ymwneud ag ymddygiad a phresenoldeb a amlinellir ym mharagraff 3.
• Pan fydd gweithiwr yn dal i fethu dod i gyfarfod, gall yr Awdurdod ddod i'r casgliad y bydd penderfyniad yn cael ei wneud ar sail y dystiolaeth sydd ar gael. Os bydd hyn yn digwydd, rhoddir gwybod i'r gweithiwr.
