Gadael y Cyngor
Diweddarwyd y dudalen: 19/01/2024
Os byddwch yn penderfynu gadael eich swydd, mae arnom angen ichi gyflwyno llythyr ymddiswyddo ffurfiol trwy law eich rheolwr.
Mae’n ofynnol ichi roi un wythnos o rybudd i ddirwyn eich contract cyflogaeth gyda ni i ben yn ystod eich cyfnod prawf. Yn dilyn cwblhau’r cyfnod prawf, mae isafswm cyfnod y rhybudd yr un fath â’ch cyfnod tâl arferol, h.y. yr amser rhwng un cyfnod tâl a’r nesaf (4 wythnos neu un mis).
Os ydych yn cael eich cyflogi mewn swydd Gradd ‘L-O’ yn ôl graddau’r Cyd-gyngor Cenedlaethol neu swydd Prif Swyddog yn ôl graddau’r Cydgyngor Trafod Telerau, mae'n bosibl y bydd eich contract cyflogaeth yn mynnu eich bod yn rhoi isafswm o dri mis o rybudd i ddirwyn eich cyflogaeth i ben. Gellir hepgor cyfnodau rhybudd trwy gydgytundeb. Cysylltwch â'r Adain Gwasanaethau Pobl os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch.
Nodyn i reolwyr, os oes gennych aelod o staff sy'n gadael y cyngor, bydd angen i chi lenwi "ffurflen terfynu cyflogaeth" a'i dychwelyd i CE HR People Man / CE HR Schools Team.
Os ydych yn dymuno ymddeol, gwneud cais am derfynu cyflogaeth neu os ydych wedi cael eich hysbysu y bydd eich swydd yn cael ei dileu gweler y tudalennau perthnasol yn yr adran hon.
Adnoddau Dynol: e-ffurflen Achos Busnes
Mae ymddeol yn gynnar, terfynu cyflogaeth a dileu swydd yn gallu bod yn gostus iawn inni, ac ni allwn roi unrhyw ymrwymiad ichi hyd nes y caiff achos busnes ei gwblhau’n llawn a’i gymeradwyo.
Cynghorir rheolwyr i ddarllen y Cyfarwyddyd ynghylch Achosion Busnes (.pdf) cyn cychwyn ar y broses achos busnes.
Cyrsiau cyn ymddeol
Mae’r uned Datblygu a Dysgu Corfforaethol yn cynnal cyrsiau cyn ymddeol i weithwyr sy’n paratoi i ymddeol neu sy’n ystyried ymgeisio am derfynu cyflogaeth yn gynnar o dan y cynllun terfynu cyflogaeth.
Un Sir Gâr
Mae Un Sir Gâr wedi cael ei sefydlu gan bartneriaeth o asiantaethau yn y sir i’w gwneud yn haws i unigolion o bob oedran, ac o amrywiol alluoedd, sgiliau a diddordebau gael mynediad i’r llwybr yn ôl i waith a’r cyfleoedd hyfforddiant sydd ar gael. Y partneriaid allweddol yw’r Ganolfan Byd Gwaith, Gyrfa Cymru, Coleg Sir Gâr, y Bartneriaeth Ddysgu Ranbarthol a Chyngor Sir Caerfyrddin; rhyngddynt mae ganddynt gyfoeth o brofiad a chysylltiadau gyda chyflogwyr ar draws y sir. I gael rhagor o wybodaeth ewch i'w gwefan neu ffoniwch y rhif rhadffôn 0800 9173 408.
Cymorth i Ddechrau Busnes
Os ydych yn wynebu colli eich swydd ac yn ystyried dechrau eich busnes eich hun mae yna nifer o wefannau sy’n gallu cynnig cyngor a chefnogaeth.