Canllawiau ar Ddethol wrth Ddileu Swyddi - Awst 2026
1. Cyflwyniad
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd gweithio diogel a sefydlog ar gyfer ei weithwyr. Er hynny, efallai y bydd adegau ac amgylchiadau lle bydd newidiadau yn rôl a gwaith Awdurdodau Lleol, technoleg newydd a newidiadau trefniadaethol eraill, yn golygu bod angen dileu swyddi.
Dylid darllen y canllawiau hyn ochr yn ochr â Pholisi'r Awdurdod ar Ddileu Swyddi a'i Bolisi Ailstrwythuro ac mae'n cyflwyno'r dull a argymhellir ar gyfer dethol gweithwyr i ddileu eu swyddi, os bydd sefyllfa'n codi lle mae angen dileu swyddi.
Nid yw'r canllawiau hyn yn rhan o delerau ac amodau cyflogaeth gweithwyr, a gellir eu newid.
2. Dull Dethol
Bydd yr Awdurdod yn ystyried y dull mwyaf priodol o ddethol, gan roi sylw i unrhyw ofynion penodol sydd gan y sefydliad ar y pryd.
Lle gallai ailstrwythuro gwasanaeth arwain at ddileu swyddi sydd eisoes yn bodoli, ond gan greu rolau newydd yn ogystal, bydd y dull dethol ar gyfer rolau newydd yn unol â Pholisi Ailstrwythuro yr Awdurdod a'i weithdrefnau Recriwtio a Dethol er mwyn penodi o blith y garfan gymwys o weithwyr.
Lle nad oes newidiadau arwyddocaol i rolau, ond mae'r galw am y rolau hynny'n lleihau, y dull arferol o ddethol fydd drwy ddefnyddio matrics dethol ar gyfer dileu swyddi, lle caiff gweithwyr eu hasesu yn erbyn meini prawf dethol gwrthrychol.
3. Carfan i Ddethol Ohoni
Bydd yr Awdurdod yn nodi yn achos faint o rolau mae risg dileu swyddi, a bydd yn pennu carfan y dewisir y gweithwyr ohoni. Bydd yr Awdurdod yn sicrhau bod y garfan i ddethol ohoni wedi cael ei diffinio'n deg. Fel arfer, bydd y garfan yn cynnwys gweithwyr sy'n cyflawni'r un gwaith, neu waith tebyg, ac sy'n cyflawni swyddi y gellir eu cyfnewid, boed hynny o fewn yr un adran neu leoliad, neu'r un patrwm gwaith/shifftiau neu beidio. Wrth benderfynu ar y garfan ar gyfer dileu swyddi, bydd yr Awdurdod yn rhoi sylw i amgylchiadau megis:
Y gwaith y mae gweithwyr yn ei wneud o ddydd i ddydd;
Agosrwydd safleoedd/canolfannau; a
Ble mae gweithwyr yn cyflawni eu gwaith yn rheolaidd.
O dan rai amgylchiadau, ni fydd yn briodol pennu carfan o weithwyr i ddewis ohonynt ar gyfer dileu swyddi, er enghraifft lle nad effeithir ond ar rôl un gweithiwr, neu lle bydd y gwasanaeth cyfan yn dod i ben.
4. Meini Prawf Dethol
Ar ôl i'r Awdurdod benderfynu ar y garfan i ddethol ohoni, bydd yn defnyddio meini prawf i benderfynu pa weithwyr o blith y garfan honno allai gael eu dewis ar gyfer dileu eu swyddi. Bydd yr Awdurdod yn sicrhau, i'r graddau y mae hynny'n bosibl, bod y meini prawf a ddefnyddir yn wrthrychol, yn yr ystyr nad ydynt wedi'u seilio ar farn oddrychol yr unigolion sy'n defnyddio'r meini prawf.
Bydd yr Awdurdod yn ymdrechu i ddefnyddio meini prawf sy'n fesuradwy ac y gellir eu cefnogi â chofnodion dogfennol, data, neu dystiolaeth arall, er enghraifft presenoldeb, arfarnu perfformiad a chofnodion goruchwylio (lle bo hynny'n briodol), cofnodion galluogrwydd neu ddisgyblu ac ati.
Mewn sefyllfaoedd lle bydd nifer o swyddi yn cael eu dileu, bydd y meini prawf dethol a'r pwysoliad yn cael eu llunio mewn ymgynghoriad â'r Undebau Llafur cydnabyddedig, a chytunir arnynt gyda'r Cyfarwyddwr perthnasol (neu'r cynrychiolydd a enwebir ganddo) a'r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Pobl, Digidol a Pholisi) neu'r cynrychiolydd a enwebir ganddo). Wrth gytuno ar feini prawf, rhaid sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu'n uniongyrchol nac yn anuniongyrchol.
Mae rhai meini prawf dethol yn annheg yn awtomatig. Ni fydd yr Awdurdod yn dethol gweithiwr ar gyfer dileu swyddi ar sail unrhyw un o'r rhesymau canlynol:
Beichiogrwydd, gan gynnwys pob rheswm sy'n ymwneud â mamolaeth.
Teulu, gan gynnwys absenoldeb rhiant, absenoldeb tadolaeth (geni a mabwysiadu), absenoldeb mabwysiadu neu amser o'r gwaith ar gyfer dibynyddion.
Gweithredu fel cynrychiolydd gweithwyr.
Gweithredu fel cynrychiolydd undeb llafur.
Ymuno ag undeb llafur neu beidio â gwneud hynny.
Bod yn weithiwr rhan-amser neu gyfnod penodol.
Oedran , anabledd, ailbennu rhywedd, hunaniaeth rhywedd a mynegiant rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd, cred neu ddiffyg cred, rhyw a cyfeiriadedd rhywiol.
Tâl ac oriau gwaith, gan gynnwys Rheoliadau Amser Gweithio, gwyliau blynyddol a'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Mynnu hawl statudol.
Bydd y meini prawf dethol a ddefnyddir gan yr Awdurdod yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys anghenion y gwasanaeth ar y pryd a'r rolau sydd o dan sylw.
Yn y rhestr ganlynol ceir enghreifftiau o'r meini prawf y gall yr Awdurdod eu defnyddio:
Presenoldeb: Er mwyn penderfynu ar gofnod presenoldeb gweithiwr, bydd yr Awdurdod yn edrych ar gofnodion presenoldeb yn y 3 blynedd hyd at ddechrau'r ymgynghoriad ar ddileu swyddi. Ni fydd yr Awdurdod yn rhoi sylw i absenoldebau oherwydd beichiogrwydd, mamolaeth, absenoldeb arall am resymau teuluol nac anabledd.
Disgyblu: Er mwyn penderfynu ar gofnod disgyblu gweithiwr, bydd yr Awdurdod yn chwilio yn y cofnodion personél am rybuddion ffurfiol a phryderon disgyblu anffurfiol a gofnodwyd trwy gamau anffurfiol/ffurfiol y Polisi Disgyblu.*
Cofnodion Galluogrwydd: Er mwyn penderfynu ar gofnod galluogrwydd gweithiwr, bydd yr Awdurdod yn chwilio yn y cofnodion personél am nodiadau gwella ffurfiol a phryderon galluogrwydd a gofnodwyd trwy gamau anffurfiol/ffurfiol y Polisi Galluogrwydd.*
Perfformiad yn y Swydd: Er mwyn penderfynu ar gofnod perfformiad gweithiwr, bydd yr Awdurdod yn edrych ar ddogfennau arfarnu a chofnodion goruchwylio (lle bo hynny'n briodol).
Gwybodaeth a sgiliau perthnasol: Bydd yr Awdurdod yn ymgymryd ag archwiliad gwybodaeth a sgiliau oddi mewn i'r garfan a sefydlwyd, sy'n berthnasol i rôl y swydd, defnyddwyr gwasanaeth, cwsmeriaid a'r Awdurdod.
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol: Er mwyn penderfynu ar gofnod cymwysterau a hyfforddiant perthnasol gweithiwr, bydd yr Awdurdod yn edrych ar ffeiliau personél a chofnodion Dysgu a Datblygu. Gellir nodi hyn trwy archwiliad sgiliau hefyd.
Hyd y cyfnod gwasanaeth (fel un o nifer o feini prawf yn unig, ac ar ôl cwblhau’r Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb).
Pennir y meini prawf dethol penodol a ddefnyddir, yn dibynnu ar unrhyw ofynion busnes perthnasol, ar y pryd, gan roi sylw i unrhyw angen am gadw gwybodaeth benodol, sgiliau a gweithlu cytbwys.
(* Sylwer: Gall pryderon disgyblu/galluogrwydd a gofnodwyd trwy gamau anffurfiol/ffurfiol y polisïau Disgyblu/Galluogrwydd fod ar ffurf llythyron neu nodiadau at unigolion; nodiadau ffeiliau; nodiadau dyddiadur neu gofnodion cyfarfodydd. Nid yw digwyddiadau nad oes cofnod ysgrifenedig ar eu cyfer yn ddigonol. Ni ddefnyddir cofnodion digwyddiadau na chawsant eu codi erioed gyda'r unigolyn dan sylw).
5. Cymhwyso'r Meini Prawf Dethol
Bydd yr Awdurdod yn sgorio gweithwyr yn erbyn y meini prawf dethol mewn modd rhesymol, teg a chyson. Bydd o leiaf ddau reolwr yn cymhwyso'r meini prawf yn annibynnol, gyda chyngor gan Bartner Busnes Adnoddau Dynol, cyfrifir y sgoriau, a defnyddir cyfartaledd.
Ni fydd yr Awdurdod yn cymhwyso'r meini prawf dethol mewn modd gwahaniaethol, er enghraifft ar sail statws rhan-amser, beichiogrwydd neu absenoldeb mamolaeth. Os bydd gweithiwr sy'n rhan o'r garfan i ddethol ohoni yn anabl, bydd yr Awdurdod yn ystyried addasiadau rhesymol i'r weithdrefn ddethol er mwyn dileu unrhyw anfantais y byddai gweithiwr ag anabledd yn ei hwynebu fel arall.
6. Sgorio a Phwysoli
Bydd yr Awdurdod yn defnyddio matrics dethol ar gyfer dileu swyddi i sgorio pob gweithiwr. Bydd y matrics yn cyflwyno'r meini prawf a ddefnyddir i asesu gweithwyr mewn modd clir, tryloyw. Bydd yn cyflwyno cwmpas y sgorio a faint o bwysoliad neu bwysigrwydd y mae'r awdurdod yn ei roi i bob maen prawf.
Bydd yr Awdurdod yn sgorio gweithwyr yn erbyn y meini prawf dethol drwy ystyried tystiolaeth ddogfennol neu wybodaeth arall a gafwyd am y gweithiwr. Ni fydd gweithwyr yn cael eu sgorio trwy eu cymharu â'i gilydd. Mae'n bwysig bod y sgoriau'n cael eu cefnogi gan gofnodion cywir, ac mae'n ofynnol bod rheolwyr yn darparu tystiolaeth ddogfennol at y diben hwn.
Gall fod angen i'r Awdurdod addasu'r sgoriau a bennwyd i weithwyr i osgoi triniaeth annheg neu wahaniaethu, er enghraifft, os yw gweithiwr wedi bod yn absennol am gyfnodau am reswm sy'n gysylltiedig ag anabledd, gall yr Awdurdod wneud addasiadau rhesymol i'r sgorio i ddileu unrhyw anfantais y byddai'r gweithiwr yn ei hwynebu fel arall.
7. Llunio Asesiad Annibynnol
Ar ôl nodi'r rheolwyr a fydd yn ymwneud â'r broses ddethol ar gyfer dileu swyddi, cyflwynir copïau o'r meini prawf dileu swyddi a'r matrics sgorio, a bydd yn ofynnol i reolwyr lunio asesiadau annibynnol o bob gweithiwr yn erbyn y meini prawf y cytunwyd arnynt.
Dylai rheolwyr ystyried manylion penodol y meini prawf a dod i benderfyniadau, ar sail tystiolaeth, ynghylch y sgôr a bennir i weithiwr.
Wrth ddod i benderfyniadau ynghylch perfformiad, dylid edrych ar y dogfennau arfarnu/adolygu, a mesur perfformiad yn erbyn y targedau. Os daw'n amlwg, yn ystod y broses ddethol, fod cofnodion perfformiad un neu fwy o weithwyr yn anghyflawn, dylid tynnu'r meini prawf perfformiad o blith y meini prawf dethol.
Os yw gwybodaeth a sgiliau yn cael eu defnyddio'n feini prawf dethol, dylid nodi'r gofynion penodol yng nghyswllt y meysydd hynny ar ddechrau'r broses, fel bod modd dod i benderfyniadau teg a chyson ynghylch gweithwyr unigol.
8. Y Cyfarfod Cymedroli
Ar ôl i'r rheolwyr baratoi asesiadau annibynnol o weithwyr a phennu sgoriau'n briodol, dylid cynnal cyfarfod cymedroli i gytuno ar y sgoriau terfynol. Bydd y rheolwyr sgorio yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw; ynghyd â Phartner Busnes Adnoddau Dynol, a fydd yn cynghori ar y broses gymedroli, gan sicrhau bod modd cyfiawnhau'r penderfyniadau a wneir, ar sail y wybodaeth a aseswyd.
9. Sylwadau Gweithwyr
Ar ôl i'r gweithwyr gael eu sgorio yn erbyn y meini prawf dethol perthnasol, ac mae sgôr gyffredinol wedi'i phennu iddynt, fe'u rhoddir mewn trefn yn ôl eu sgoriau. Bydd hyn yn galluogi'r Awdurdod i ddethol dros dro ar gyfer dileu swyddi.
Mae gan weithwyr y cyhoeddir bod eu swyddi’n cael eu dileu ar sail y meini prawf dethol hawl i gael manylion y matrics dileu swyddi a gwblhawyd ar eu cyfer, gan ddangos sut y bu iddynt sgorio yn erbyn eu maen prawf a'u sgôr gyffredinol, yn ogystal â gwybodaeth gyfyngedig am eu sefyllfa ar y matrics o'u cymharu â gweithwyr eraill yn y garfan ddethol. Diben hyn yw galluogi'r gweithiwr i adolygu'r matrics dileu swyddi a gwblhawyd.
Gwahoddir gweithwyr i gyfarfodydd ymgynghori unigol i drafod sut cyfrifwyd eu sgôr. Byddant yn gallu codi unrhyw bryderon, gwrthwynebiadau neu heriau ynghylch eu sgôr, yn ogystal â chodi unrhyw faterion eraill y maent yn barnu sy'n briodol am y sefyllfa dileu swyddi. Mae gan weithwyr hawl i gael cwmni swyddog undeb llafur cydnabyddedig neu gydweithiwr yn y cyfarfod ymgynghori ffurfiol hwn.
Bydd yr Awdurdod yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan weithwyr, ond mater i'r Awdurdod fydd y penderfyniad terfynol ynghylch dethol.
Yn dilyn y cyfarfodydd ymgynghori unigol, bydd yr Awdurdod yn hysbysu’r gweithwyr ynghylch ei benderfyniad.
10. Hysbysu Ynghylch Dethol ar Gyfer Dileu Swyddi
Yn dilyn ymgynghoriad llawn, gwahoddir unrhyw weithwyr a ddewiswyd ar gyfer dileu swyddi i gyfarfod ffurfiol i gadarnhau'r diswyddo, ac i gytuno ar unrhyw delerau yng nghyswllt y diswyddo. Mae gan weithwyr hawl i gael cwmni cydymaith, h.y. swyddog undeb llafur cydnabyddedig neu gydweithiwr yn y cyfarfod diswyddo ffurfiol hwn.
Bydd yr Awdurdod yn cadarnhau ei benderfyniad yn ysgrifenedig a rhoddir hawl i weithwyr apelio yn erbyn y penderfyniad hwn.
11. Apêl
Bydd gan weithwyr a ddewiswyd ar gyfer dileu swyddi, ac sy'n anfodlon ar sut y bu i'r Awdurdod gymhwyso'r meini prawf dethol, neu sy'n credu eu bod wedi'u rhoi o dan anfantais annheg gan y meini prawf dethol, neu nad ydynt wedi cael cyfle teg i gyflwyno sylwadau; neu sydd wedi cael eu diswyddo ar sail dileu swyddi, hawl i apelio, fel yr amlinellir yn y Polisi Dileu Swyddi.
12. Sicrhau Cyfle Cyfartal
Rhaid i’r canllawiau hyn gael eu cymhwyso’n gyson i bob gweithiwr, heb ystyried hil, lliw, tarddiad ethnig neu genedlaethol (gan gynnwys dinasyddiaeth), iaith, anabledd, crefydd, cred neu ddiffyg cred, oedran , rhyw, ailbennu rhywedd, mynegiant neu hunaniaeth rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, statws rhiant neu briodasol/partneriaeth sifil, beichiogrwydd na mamolaeth.
Os bydd gennych unrhyw bryderon ynghylch cydraddoldeb ac amrywiaeth yng nghyswllt cymhwyso’r weithdrefn hon, gofynnir i chi gysylltu ag aelod o’r Tîm Adnoddau Dynol a fydd, os bydd angen, yn sicrhau yr adolygir y polisi/gweithdrefn yn briodol.
Os oes angen y wybodaeth hon arnoch mewn ffurf arall, anfonwch e-bost at CHR@sirgar.gov.uk
Atodiad 1 - Disgrifiadau o'r Meini Prawf Dethol
Manylion llawn yma: Atodiad 1 - Disgrifiadau o'r Meini Prawf Dethol
Atodiad 2 - Matrics Dethol ar Gyfer Dileu Swyddi
Manylion llawn yma: Atodiad 2 - Matrics Dethol ar Gyfer Dileu Swyddi
