1. Cyflwyniad

O dan ddarpariaethau Deddf Plant a Theuluoedd 2014 a Rheoliadau Gweithio Hyblyg (Diwygio) 2023, mae gan bob gweithiwr yr hawl statudol i ofyn i'w gyflogwr am gael newid yn barhaol delerau ac amodau contractiol ei gyflogaeth er mwyn gweithio'n hyblyg.

Mae dyletswydd statudol ar Gyngor Sir Caerfyrddin i ystyried pob cais o’r fath.

Nid yw'r hawl statudol hon yn golygu bod hawl awtomatig i weithio'n hyblyg. Bydd yr Awdurdod yn gweithio gyda'r gweithwyr er mwyn ceisio cytuno ar drefniant gweithio hyblyg sy'n dderbyniol i'r ddwy ochr ac sy'n diwallu anghenion y ddwy ochr. Fodd bynnag mewn rhai amgylchiadau mae'n bosibl y gwrthodir cais am weithio hyblyg o achos rhesymau busnes a chaiff y rhain eu hegluro'n glir yn ystod y weithdrefn ar gyfer gwneud cais.

Mae’r hawl statudol yn ceisio hwyluso trafodaethau ac annog y gweithiwr a’r rheolwr llinell i ystyried patrymau eraill o weithio hyblyg a dod o hyd i atebion sy’n cyd-fynd â gofynion y naill ochr a’r llall.