17. Ceisiadau a Wrthodir

Er y bydd canlyniad boddhaol i'r rhan fwyaf o geisiadau, bydd achlysuron pan na fydd y gweithiwr yn fodlon ar sut yr ymdriniwyd â'i gais a phan gaiff y cais ei wrthod. Efallai y bydd y gweithiwr am gynnwys trydydd parti neu efallai ei fod yn ystyried gwneud cwyn i dribiwnlys cyflogaeth. Fodd bynnag dyma rai dewisiadau o ran sut y gall gweithwyr ymdrin â cheisiadau a wrthodwyd neu na chytunwyd arnynt:

  • Drwy gynnal trafodaeth anffurfiol â'u rheolwr llinell.
  • Drwy Weithdrefn Achwyniadau'r Awdurdod.
  • Cynnwys trydydd partïon, e.e. swyddog y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (ACAS).

Fodd bynnag, gall gweithiwr gwyno wrth Dribiwnlys Cyflogaeth neu wasanaeth cymodi ACAS pan fydd:

  • Y cyflogwr wedi methu â dilyn y weithdrefn yn briodol; neu
  • Penderfyniad y cyflogwr i wrthod cais wedi’i seilio ar ffeithiau anghywir.

Nid oes hawl gan weithiwr wneud cwyn pan fo'n anghytuno'n unig â'r seiliau busnes a ddarparwyd. Sylwch fod cynllun cymodi cynnar yn wirfoddol a rhaid i’r gweithiwr a’r cyflogwr gytuno i'r broses.