8. Y Weithdrefn

Yn y lle cyntaf mae’n rhaid i’r gweithiwr gyflwyno ei gais ffurfiol gan ddefnyddio Ffurflen FW (A). Bydd y manylder sydd ei angen yn dibynnu ar y newidiadau y dymunir eu gwneud yn y patrwm gweithio presennol. Fodd bynnag, dylai gweithwyr sylwi y gallai gymryd hyd at ddau fis i gwblhau’r broses o adeg cyflwyno’r cais tan ei weithredu’n derfynol. (Ceir arweiniad i weithwyr yn Atodiad 2).

Bydd cais sy’n cael ei gytuno yn golygu y bydd telerau ac amodau gwaith y gweithiwr yn newid yn barhaol. Ni fydd hawl i ddychwelyd i’r patrwm gweithio blaenorol, hynny yw, cynyddu oriau gwaith. Cyn gwneud y cais, felly, mae’n bwysig i’r gweithiwr ystyried pa batrwm gweithio fyddai orau iddo ac unrhyw oblygiadau ariannol, gan gynnwys yr effaith ar ei bensiwn.

Hefyd mae'n gyfrifoldeb ar y rheolwr llinell i ystyried cais am weithio hyblyg yn ofalus ac i roi sylw i sut y gellir bodloni'r patrwm gweithio a ddymunir mewn swyddogaeth neu faes gwasanaeth penodol. Os na ellir cefnogi'r cais dylai'r rheolwr llinell drafod dewisiadau eraill gyda'r gweithiwr a all fod yn dderbyniol i'r ddwy ochr.

Drwy gydol y cais hwn gall gweithwyr a rheolwyr llinell geisio cyngor gan y Tîm Adnoddau Dynol yn yr Is-adran Rheoli Pobl. Hefyd gall gweithwyr geisio cyngor gan gynrychiolydd undeb llafur cydnabyddedig.