Caffael
Diweddarwyd y dudalen: 21/03/2025
Rydym yn gwario dros £370 miliwn y flwyddyn ar nwyddau, gwaith, a gwasanaethau, a chaiff hyn effaith sylweddol ar ansawdd bywyd ein gymuned. Mae'n hanfodol ein bod ni yn meithrin ymagwedd strategol at gaffael er mwyn sicrhau bod nwyddau, gwaith, a gwasanaethau yn cael eu caffael mor effeithlon ac effeithiol â phosibl.
Mae gennym ymagwedd ddatganoledig at bwrcasu, sy'n golygu bod gweithgareddau pwrcasu pob un o’n bum adran yn gyfrifoldeb uniongyrchol i ddeiliaid cyllideb unigol, sy'n gallu archebu a thendro am gontractau.
Rôl yr Uned yw sicrhau bod Swyddogion Arweiniol yr Adrannau yn cael y cymorth a'r arweiniad priodol i gaffael nwyddau, gwaith a gwasanaethau mewn modd proffesiynol. Mae'r holl weithgarwch caffael yn cydymffurfio â'r gweithdrefnau, rheolau a'r rheoliadau perthnasol i sicrhau ein bod ni’n cael y gwerth gorau am arian bob amser a gwneir hyn mewn modd agored a thryloyw nad yw'n gwahaniaethu.
Daeth Deddf Caffael 2023 i rym ar 24 Chwefror 2025. Mae’n disodli Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 ac yn cyflwyno fframwaith caffael cyhoeddus symlach, mwy tryloyw a hyblyg yn y DU*
I'ch atgoffa, mae'r broses y dylid ei dilyn wrth geisio dyfynbrisiau fel a ganlyn:
- Ar gyfer Pryniannau gwerth hyd at £10,000 mae ein gweithdrefn Contract yn ei gwneud yn ofynnol i Swyddogion 'fod yn fodlon bod y gwerth gorau am arian wedi'i sicrhau, a bod gofal rhesymol wedi'i gymryd i gael nwyddau, gwaith neu wasanaethau o ansawdd digonol am bris cystadleuol.'
- Ar gyfer Pryniannau rhwng £10,000 a £30,000 'dylid ceisio o leiaf 3 dyfynbris o ffynonellau cystadleuol a'u cadarnhau'n ysgrifenedig, drwy lythyr, ffacs neu e-bost.
- Mae Mynegiant o Ddiddordeb yn ofynnol i ofyn am unrhyw gymorth i gynnal ymarfer caffael sy'n fwy na £30,000
PWYSIG: Ar gyfer pryniannau o dan £30,000, gofynnir i chi ystyried 'Meddwl Sir Gâr yn Gyntaf' wrth geisio dyfynbrisiau ar gyfer Nwyddau, Gwaith neu Wasanaethau. Felly, ewch ati i archwilio'r farchnad i weld a oes unrhyw fusnesau yn Sir Gaerfyrddin a all ddarparu'r nwyddau / gwasanaeth rydych chi'n ceisio eu prynu a'u cynnwys yn eich gwahoddiadau i gyflwyno dyfynbris.
*Bydd yr holl Gontractau/Fframweithiau yr ymrwymwyd iddynt cyn 24 Chwefror 2025 yn parhau i fod yn ddarostyngedig i'r rheoliadau blaenorol (Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015) ac ni fydd y newidiadau a gyflwynwyd o dan Ddeddf Caffael Newydd 2023 yn effeithio arnynt.
Mae tîm yr Uned Caffael Corfforaethol yn rhoi cyngor, cymorth ac arweiniad ynghylch caffael. Mae croeso i chi siarad ag un o'n tîm os oes gennych gwestiwn.