Dyfeisiau Symudol
Diweddarwyd y dudalen: 19/11/2024
Mae’r dyhead i gael gwybodaeth o unrhyw le, ar unrhyw adeg, yn ysgogiad cyson inni. Mae’r ffyrdd rydym yn gwneud busnes yn newid, ac mae angen inni fod ar flaen y gad i sicrhau ein bod yn gwella’n barhaus yn y maes hwnnw.
Er bod angen inni wneud defnydd o dechnoleg symudol er mwyn gwella ein ffordd o weithio a sbarduno ein perfformiad, rhaid inni hefyd sicrhau ein bod yn rheoli gwybodaeth yn dda.
Nod y canllaw hwn yw cynorthwyo swyddogion i gael mynediad diogel i wybodaeth y mae arnyn nhw ei hangen. Dylid darllen y canllaw hwn ar y cyd â’n polisi defnyddio dyfais symudol.
Pa ddyfeisiau sy’n berthnasol i’r polisi hwn?
- Ffonau clyfar
- Gliniaduron
- Llechi
- Camerâu digidol
- Recordwyr llais
- Watshis clyfar
Pam na allaf ddefnyddio fy nyfais bersonol fy hun at ddibenion gwaith?
Nid ydym yn cynnal a chadw dyfeisiau personol ac felly cân nhw eu hystyried fel dyfeisiau na reolir, ond mae dyfeisiau sy’n eiddo i’r Cyngor ac sy’n cael eu darparu gennym yn cael eu rheoli’n llawn gennym ni. Mae’n ofynnol inni o dan y gyfraith (Deddf Diogelu Data 1998) gynnal cyfrinachedd, cywirdeb ac argaeledd y data personol sydd yn ein meddiant, ac nid yw hyn yn bosibl ar ddyfais na reolir.
Mae gennym y gallu i roi gosodiadau diogelwch ar ddyfeisiau sydd o dan ei reolaeth gan helpu i leihau’r risgiau uchod, er enghraifft:
- Mae llechen a ddarparwyd gan y gwaith i aelod o staff yn cael ei dwyn yn ystod taith ar drên. Mae’r swyddog yn cysylltu â’r ddesg gymorth TG, sy'n gallu rhwystro mynediad o bell a dileu yn ddiogel yr holl ddata a geir ar y ddyfais.
Beth arall ddylwn i wybod?
Gwnewch y canlynol:
- Cysylltwch â’r ddesg gymorth TG i drafod eich gofynion ar gyfer gweithio symudol.
- Cadwch eich dyfais symudol yn ddiogel ar bob adeg e.e. dan glo mewn drâr os ydych i ffwrdd o'ch desg.
- Cysylltwch â’r ddesg gymorth TG os oes angen ichi ddefnyddio "ap" ar eich dyfais at ddibenion gwaith.
- Defnyddiwch raglenni’r Cyngor sydd wedi eu cyhoeddi ac ar gael ar eich dyfais symudol.
- Cysylltwch â’r ddesg gymorth TG os yw eich dyfais ar goll neu wedi'i dwyn. Gallan nhw ddiogelu eich dyfais o bell.
- Gwiriwch gyda’ch pennaeth gwasanaeth os ydych yn bwriadu defnyddio eich dyfais dramor at ddibenion busnes. Bydd angen gwneud newidiadau i'r contract SIM.
Peidiwch â gwneud y canlynol:
- Prynu dyfais symudol o siop gyda'r disgwyliad y bydd yn cael ei defnyddio i weithio’n symudol.
- Gadael dyfeisiau symudol mewn lleoliadau gweladwy a allai gynyddu'r tebygolrwydd y byddant yn cael eu lladrata e.e. sedd car.
- Llwytho "apiau" ar eich dyfais. Nid yw rhai ohonynt yn storio gwybodaeth yn ddiogel ac mae angen i’r uned TG eu gwirio.
- Disgwyl y gallwch gael mynediad i bopeth y dymunwch oddi ar eich cyfrifiadur bwrdd gwaith / gliniadur / ffôn clyfar neu lechen.
- Gadael i unrhyw un arall gael mynediad i’ch dyfais.
- Teithio gyda dyfais i wledydd y tu allan i’r ardal economaidd Ewropeaidd heb drafod â’r swyddog diogelwch TG o flaen llaw. Mae angen rhoi ystyriaeth i faterion diogelu data ac amgryptio dyfais wrth deithio y tu hwnt i’r ardal hon.