Ffonau Symudol a Chardiau SIM CSC

Diweddarwyd y dudalen: 29/02/2024

Cynrychiolwyr Ffonau Symudol

Adran

Cynrychiolydd Ffonau Symudol

Prif Weithredwr

Ruth Morgan a Nia Hughes

Gwasanaethau Corfforaethol

Tracey Thomas, Hayley John & Lauren James

Addysg a Gwasanaethau Plant

Nicola Hoare (Ad.), Caroline M Jones (Ad.) a Julie Hall (G.P.) Melanie Janes (G.P.)

Cymunedau

Kerry Halpin, Janet Jones, Amanda K Field, Allison James, Barbara K James (Hamdden)​, Caryl Thomas, Rosie Davies & Lowri Harries.  Tai a Diolgelu'r Cyhoedd: Andrea Thomas, (Cymunedau), Jonathan May & Nicola Samuel.

Lle a Seilwaith

Lle a Chynaliadwyedd: Kerry Latham, Trafnidiaeth a Phriffyrdd: Zoe Hughes Gwastraff a’r Amgylchedd: Zoe Hughes, Eiddo: Kerry Latham, Gwasanaethau Glanhau a Chymorth Busnes: Kim Butler a Philip J Bowen

Cysylltwch â'ch Cynrychiolydd Ffôn Symudol Adrannol i:

  • Archebu ffonau symudol a chardiau SIM newydd.
  • Uwchraddio contractau ffôn.
  • Diweddaru manylion defnyddiwr ffôn.
  • Cael gwared ar rifau/contractau (dim ond os yw'r rhif allan o gontract).
  • Cynhyrchu adroddiadau defnydd.
  • Rhoi gwybod am ffonau sydd wedi'u colli.

Pwysig: Dylai’r broses o ailddyrannu’r ffôn gael ei chydlynu a’i chytuno â’r Cynrychiolydd Ffonau Symudol Adrannol, yna bydd y Cynrychiolydd Ffonau Symudol yn diweddaru’r manylion ar-lein ar gyfer y ffôn symudol. I sychu'r ffôn ac i ychwanegu'r defnyddiwr newydd i'r grŵp symudol, cofnodwch alwad gyda'r Ddesg Gymorth TG.

Pwysig: Mae pob defnyddiwr Ffôn Symudol Corfforaethol bellach wedi cofrestru gyda nodwedd ddiogelwch ychwanegol o'r enw Dilysu Aml-ffactor (MFA). Mae hyn yn golygu ein bod yn ychwanegu cam dilysu ychwanegol i wirio pwy ydych chi! Rydym wedi creu canllaw cam wrth gam i'ch helpu drwy'r broses hon. Cliciwch yma i gael mynediad ato. 

 

Nodwch: Os oes gennych broblemau technegol cofnodwch alwad gyda'r Ddesg Gymorth TG.

 

Costau Ffonau Symudol

Ffonau Clyfar

Samsung Galaxy (Android)

iPhone (iOS)

Llais a Negeseuon Testun yn unig

Nokia

Sylwer: Gallai costau a modelau ffonau symudol newid oherwydd yr hyn sydd ar gael ac oherwydd bod ffonau symudol yn cyrraedd diwedd eu hoes.

 

Costau Contract Ffôn Symudol

Llais yn unig (Negeseuon testun a galwadau diderfyn, dim data): £1.25

Llais a Data

Negeseuon testun a galwadau diderfyn gyda 2GB o ddata: £6.25

Negeseuon testun a galwadau diderfyn gyda 4GB o ddata: £9.25

Negeseuon testun a galwadau diderfyn gyda 8GB o ddata: £13.25

Negeseuon testun a galwadau diderfyn gyda 16GB o ddata: £19.25

Costau data allan o'r bwndel: 5c fesul MB

 

Costau Trwydded ar gyfer Ffonau Clyfar

Mae angen trwydded Microsoft ar bob ffôn clyfar (nid oes angen y drwydded hon ar ffonau llais a thestun safonol), er mwyn i ni reoli'r ddyfais yn ddiogel a gosod rhaglenni Microsoft (Outlook, Teams, OneDrive ac ati). Gweler isod y costau trwydded blynyddol:

Ceisiadau am Ffôn Clyfar Corfforaethol

  • Mae angen Ffôn Clyfar Corfforaethol ar y defnyddiwr ac mae ganddo gyfeiriad e-bost CSC eisoes: £0.

O fis Mai 2021 nid oes unrhyw gost trwydded ychwanegol i ddefnyddiwr y mae angen Ffôn Clyfar Corfforaethol arno, cyn belled â bod ganddo gyfrif e-bost CSC eisoes.

  • Mae angen Ffôn Clyfar Corfforaethol ar y defnyddiwr ac nid oes ganddo gyfeiriad e-bost CSC ar hyn o bryd: £69.60.

Bydd y defnyddiwr yn cael trwydded Microsoft F3, nid yw'r drwydded hon yn caniatáu iddynt ddefnyddio rhaglenni Microsoft (gan gynnwys e-bost) ar gyfrifiadur neu liniadur.

Ceisiadau Dewch â'ch Dyfais eich hun (BYOD)

Mae BYOD yn caniatáu i staff CSC gael mynediad i raglenni, e-bost a data CSC ar eu ffôn symudol personol.

  • Mae angen i'r defnyddiwr gael BYOD ar ei ddyfais bersonol ac mae eisoes ganddo gyfeiriad e-bost CSC: £0
  • Mae angen i'r defnyddiwr gael BYOD ar ei ddyfais bersonol ac nid oes ganddo gyfeiriad e-bost CSC ar hyn o bryd: £69.60.

Bydd y defnyddiwr yn cael trwydded Microsoft F3, nid yw'r drwydded hon yn caniatáu iddynt ddefnyddio rhaglenni Microsoft (gan gynnwys e-bost) ar gyfrifiadur neu liniadur.