Awgrymiadau Defnyddiol ar gyfer Teams!

Diweddarwyd y dudalen: 16/04/2021

Defnyddiwch y rhaglen Microsoft Teams i gadw trefn ar bopeth

Mae Microsoft Teams yn eich galluogi i gadw mewn cysylltiad ble bynnag yr ydych. Gallwch ddod o hyd i ffeiliau sydd wedi'u storio ar eich OneDrive, cael galwadau fideo neu alwadau llais a chyfarfodydd, neu gallwch anfon negeseuon at eich tîm cyfan neu unigolion a grwpiau. Mae Microsoft Teams yn eich galluogi i weithio ar y cyd yn hawdd.

Creu sianel ar gyfer eich tîm.

Gall Gweinyddwyr Teams greu sianeli drwy glicio ar y 3 dot ar ochr dde enw'r tîm a chlicio ar Ychwanegu Sianel.

Dysgu am dimau a sianeli

Addasu'r sianel.

Gall Gweinyddwyr Teams ychwanegu tabiau at eich sianel gan wneud eich tîm yn fwy effeithlon ac effeithiol drwy roi ar waith ddulliau gweithio mwy cyflym neu fwy syml.

Mwy am yr apiau yn Microsoft Teams

Rhannu a gweithio ar ffeil wrth ddefnyddio Microsoft Teams

Gallwch atodi unrhyw ffeiliau at negeseuon gan ddefnyddio'r eicon clip papur o dan y man ble rydych yn teipio eich negeseuon. Yna mae'r rhain yn cael eu storio'n awtomatig yn y tab Ffeiliau uwchben y sianel.

Defnyddio Ffeiliau yn Microsoft Teams

Mae cyfarfodydd gwib yn hawdd i'w sefydlu yn Microsoft Teams

Yn y tab Calendr gallwch glicio Cyfarfod nawr ac yna Ymuno nawr. Ychwanegwch enwau neu gyfeiriadau e-bost (os yn allanol) unrhyw un yr ydych am ei wahodd. Gallwch rannu eich bwrdd gwaith neu geisiadau unigol â phawb yn y cyfarfod gan ddefnyddio'r eicon Rhannu.

Cyfarfod nawr

Pinio sianeli

Os yw sianel yn bwysig iawn i chi, cliciwch ar y 3 dot i'r dde ohoni a dewiswch Pinio Bydd unrhyw sianel y byddwch yn ei phinio yn ymddangos ar y brig.

Nodweddion hygyrchedd yn Microsoft Teams

Mae nodweddion helaeth a llwybrau byr bysellfwrdd ar gael yn Microsoft Teams gyda mwy ar y gweill.

Gweld dewisiadau hygyrchedd ar gyfer Microsoft Teams

Ap symudol Microsoft Teams

Os oes gennych ffôn clyfar y Cyngor, bydd Microsoft Teams eisoes ar y ffôn. Mae gan yr ap yr holl nodweddion sydd eu hangen arnoch er mwyn i chi gadw mewn cysylltiad pan na fyddwch wrth eich desg.

Archwilio'r ffrwd Gweithgareddau yn Teams

Tynnu sylw cydweithiwr gan ddefnyddio @

Os ydych am gael sylw cydweithiwr, pan fyddwch yn postio neges defnyddiwch y symbol @ a dechreuwch deipio ei enw. Dewiswch ei enw a bydd y neges yn tynnu ei sylw.

Creu a fformatio negeseuon

Newid sgwrs yn gyfarfod.

Os ydych chi am newid sgwrs yn alwad fideo neu lais, gellir defnyddio'r eiconau ar ochr dde y sgrin sgwrsio i ddechrau'r alwad.

Cyfarfodydd a ffonio

Help i ddefnyddio Microsoft Teams

Mae adran gymorth helaeth yn rhan o Microsoft Teams gyda thestunau a fideos hyfforddi. Cliciwch ar y botwm Help ar waelod chwith sgrin.