Argraffu a Sganio

Diweddarwyd y dudalen: 16/05/2023

Cwestiynau cyffredin

Pan fyddwch yn argraffu dogfen, dewiswch yr opsiwn i argraffu ar eich cyfrifiadur, yn ôl yr arfer. Fodd bynnag, yn hytrach na chasglu eich dogfen o argraffydd penodol, bydd modd i chi bellach ei hargraffu o unrhyw argraffydd ar y rhwydwaith. Gallai hyn fod yn argraffydd gerllaw, neu gallech gasglu eich dogfen o unrhyw argraffydd arall.

Ar ôl dewis ble a phryd rydych chi am gael eich dogfen, sweipiwch eich carden adnabod yn narllenydd cardiau'r ddyfais. Bydd hyn yn eich mewngofnodi a bydd dewisiadau megis argraffu, copïo, sganio i'w gweld ar y sgrin. Drwy bwyso 'Print', bydd modd i chi ddewis argraffu pob dogfen, argraffu'r rhai rydych wedi'u dewis neu ddileu dogfennau nad oes eu hangen arnoch.

Oes. Gallwch godi eich dogfennau o unrhyw un o argraffyddion Cyngor Sir Caerfyrddin.

Mae'r system yn ddiogel. Nid yw'r dogfennau rydych yn eu hargraffu'n aros amdanoch ger yr argraffydd er mwyn i bawb eu gweld. Byddwch yn argraffu'r dogfennau o dan eich rheolaeth tra byddwch wrth y ddyfais. Ni fydd dogfennau'n cael eu hargraffu tan eich bod yn cyrraedd yr argraffydd ac yn sweipio'ch carden neu'n defnyddio'ch enw defnyddiwr a'ch cyfrinair. Os ydych yn anfon rhywbeth i'w argraffu ac yn anghofio amdano, ni fydd yn cael ei argraffu a bydd y dasg yn cael ei dileu o'r argraffydd yn ddiogel mewn 24 awr.

Yn syml, ewch i'r argraffydd rhydd agosaf a sweipiwch eich carden adnabod i argraffu eich gwaith.

Gallwch roi eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair â llaw ar bad cyffwrdd yr argraffydd.

Ar gyfer costau argraffu, siaradwch naill ai ag Ultann George neu Mandy Daniel mewn Cyfrifon a all ddarparu dadansoddiad o'r taliadau.

 

Pan fydd yr inc yn isel bydd ein hargraffwyr yn rhoi gwybod i Konica yn awtomatig a bydd inc newydd yn cael ei ddosbarthu i'ch lleoliad o dan enw eich Hyrwyddwr Argraffu.

Nid oes angen cysylltu â'r Ddesg Gymorth TG i archebu inc neu focsys ar gyfer cetris inc gwag.

Drwm Argraffydd, Uned Ddelweddu a Styffylau

Os oes angen drwm argraffydd neu uned ddelweddu newydd arnoch, bydd yn rhaid archebu'r rhain gyda Konica - 0871 574 7200 opsiwn 2.

 

Unrhyw broblemau cyffredinol yn ymwneud ag argraffydd amlswyddogaeth Konica megis: papur yn mynd yn sownd, codau namau, ansawdd gwael y print neu'r copi - cysylltwch â Konica yn uniongyrchol drwy ffonio 0371 5747200. (Cofiwch nodi rhif eich offer, eich lleoliad a'ch manylion cyswllt.)

Pan fydd cetris inc gwag gennych neu finiau gwastraff, gallwch gysylltu â Claire Tyler, EOS Solutions South Ltd ar 01306 631 070 neu e-bostiwch info@eossolutionsltd.com.

Byddan nhw'n anfon bocs wedi'i bacio'n fflat atoch; llenwch y bocs â'r cetris inc gwag a chysylltwch â nhw pan fyddwch angen i'r bocs gael ei gasglu gan gwmni cludo (rhoddir y manylion llawn ar y bocs).

Eich dewis chi fydd naill ai cadw bocs yn barhaol yn eich adran ac yna ffonio pan fydd hwnnw'n llawn, neu gadw cetris inc gwag a ffonio pan fydd angen bocs arnoch – croeso i chi a'ch swyddfa benderfynu.