Cyfieithu ar y pryd yn Microsoft Teams

Diweddarwyd y dudalen: 23/11/2022

Mae cyfarfodydd Microsoft Teams nawr yn caniatáu cynnwys cyfieithydd ar y pryd, a fydd yn gallu cyfieithu iaith yn y cyfarfod mewn amser real, heb amharu ar gyflwyniad y siaradwr.

Ar ôl i chi benderfynu ar ddyddiad ar gyfer eich cyfarfod, bydd angen i chi sicrhau bod cyfieithydd ar gael i fynychu. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu â'r tîm cyfieithu i drefnu cyfieithydd ar gyfer eich cyfarfod.Unwaith y bydd yr uned gyfieithu wedi cadarnhau eich cyfieithydd byddwch yn gallu gwahodd y cyfieithydd i'r cyfarfod.

Bydd y canllaw hwn yn mynd â chi drwy'r hyn sydd angen i chi ei wneud wrth drefnu cyfarfod, cynnwys cyfieithydd, a sut y gall mynychwyr y cyfarfodydd ddefnyddio'r botwm cyfieithu.

Darllenwch y canllaw yn llawn yma