Lluniau Dyfais Symudol – Canllaw Ms One Drive

Diweddarwyd y dudalen: 16/05/2023

Mae'r canllaw hwn ar gyfer defnyddwyr y mae'n ofynnol iddynt dynnu lluniau sy'n gysylltiedig â gwaith ar gyfer eu rôl, gan ddefnyddio dyfais symudol, megis ffôn symudol neu lechen. Cliciwch yma i sicrhau eich bod yn gyfarwydd â'r 'Polisi Trin Data Personol' a gellir cael rhagor o wybodaeth am 'Ddiogelu Data' yma.

 

Lle bynnag y bo'n bosibl, dylid defnyddio MS OneDrive bob amser i dynnu lluniau wrth ddefnyddio'ch dyfais symudol. Bydd y rhain yn cael eu cadw'n awtomatig a byddant ar gael ar eich gliniadur pan fyddwch yn cael mynediad i'ch OneDrive.

Mae hyn yn cadw'r lluniau'n fwy diogel ac o fewn eich Cyfrif Microsoft 365.

Mae hyn hefyd yn creu copi wrth gefn, pe bai'r ddyfais llaw yn cael ei cholli/difrodi.

Mae angen Data 4G neu signal Wi-Fi er mwyn i hyn weithio.

                                                                                         

Dyfais Apple

  • Agorwch 'One Drive' ar eich iPad neu iPhone.
  • Gallwch greu ffolder benodol yn eich OneDrive i gadw'r lluniau hyn.
  • Yna cliciwch ar yr eicon Camera yn y canol ar waelod y sgrin.
  • Am y tro cyntaf, bydd sgrin naid yn ymddangos yn nodi "OneDrive would like to access your camera", cliciwch ar 'OK'.
  • Bydd 4 opsiwn ar ochr dde'r sgrin o dan y botwm tynnu llun (shutter): 'Document', 'Whiteboard', 'Business Card' a 'Photo'. Dewiswch yr opsiwn sydd ei angen arnoch. Yna cliciwch ar y botwm tynnu llun (shutter) pan fyddwch yn barod i dynnu'r llun.

 

                                                                   

  • Ar ôl i chi dynnu'r llun, bydd opsiynau golygu ar waelod y llun.

                                                                   

 

  • Ar ôl i chi olygu'r llun, os oes angen, cliciwch ar y botwm 'Done >'.
  • Os hoffech ddileu'r llun, cliciwch ar y saeth '<' yn y gornel chwith ar frig y dudalen a dewiswch 'Discard image'.
  • Bydd y dudalen dewisiadau cadw yn rhoi'r opsiynau i chi newid teitl y llun, dewis y ffeil i'w gadw neu ei olygu eto

 

                                                                 

 

  • Cliciwch ar y tic glas ar ochr dde uchaf y sgrin, i gadw'r llun yn OneDrive.
  • Bydd neges yn ymddangos ar waelod y sgrin yn nodi a oedd y ffeil wedi'i lanlwytho'n llwyddiannus.
  • Gallwch nawr gael mynediad i'r llun o'ch OneDrive ar eich gliniadur

 

Dyfais Samsung

  • Agorwch 'One Drive' ar eich llechen neu ddyfais symudol.
  • Gallwch greu ffolder benodol yn eich OneDrive i gadw'r lluniau hyn.
  • Yna cliciwch ar yr eicon Gamera glas yn y gornel dde ar waelod y sgrin.
  • Am y tro cyntaf, bydd sgrin naid yn ymddangos yn nodi "OneDrive would like to access your camera", cliciwch ar 'OK'.
  • Bydd 4 opsiwn ar waelod y sgrin o dan y botwm tynnu llun (shutter): 'Whiteboard', 'Document', 'Business Card' a 'Photo'. Dewiswch yr opsiwn sydd ei angen arnoch. Yna cliciwch ar y botwm tynnu llun (shutter) pan fyddwch yn barod i dynnu'r llun.

                                                                                               

 

  • Ar ôl i chi dynnu'r llun, bydd opsiynau golygu ar waelod y llun.

                                                                                               

 

  • Ar ôl i chi olygu'r llun, os oes angen, cliciwch ar y botwm 'Done >'.
  • Os hoffech ddileu'r llun, cliciwch ar y botwm 'Delete' ac yna dewiswch 'Delete'.
  • Bydd y dudalen dewisiadau cadw yn rhoi'r opsiynau i chi newid teitl y llun, dewis y ffeil i'w gadw neu ei olygu eto.

 

                                                                                             

 

Canllaw Dim Data na Signal Wi-Fi

 

Rydym yn ymwybodol bod llawer ohonoch yn cynnal ymweliadau safle ledled y Sir ac felly gall signal ffonau symudol fod yn afreolaidd iawn.

Yn yr achosion hyn, gallwch dynnu lluniau gan ddefnyddio camera'r ffôn, ac yna gallwch eu lanlwytho i OneDrive pan fyddwch mewn lleoliad lle mae signal Wi-Fi neu ddata ar gael.

Awgrymir eich bod yn lanlwytho'r lluniau bob dydd neu'n fwy rheolaidd, oherwydd gall gymryd llawer o amser i lanlwytho nifer sylweddol a gall ddraenio data, ac ni allwn adalw lluniau o ddyfeisiau.

Bydd angen dileu lluniau a dynnir gan ddefnyddio camera'r ffôn â llaw yn yr ap lluniau cyn gynted ag y cânt eu trosglwyddo i OneDrive.

 

Trosglwyddo lluniau a dynnwyd gyda chamera'r ddyfais symudol:

  • Agorwch 'One Drive' ar eich dyfais symudol
  • Cliciwch ar yr arwydd plws (+) ar ochr dde uchaf y sgrin (wrth ymyl y chwyddwydr)
  • Dewiswch 'Upload
  • Dewiswch lun/lluniau i'w trosglwyddo trwy glicio ar y llun. Bydd tic glas yn ymddangos ar yr holl luniau a ddewiswyd
  • Cliciwch ar yr eicon OneDrive glas ar frig y sgrin
  • Dewiswch y ffeil lle rydych chi am gadw'r llun/lluniau
  • Bydd y lluniau'n cael eu lanlwytho'n awtomatig i'r ffolder a ddewiswyd a byddant ar gael yn OneDrive.
  • Dilëwch y lluniau ar unwaith o'r ap Oriel pan fyddwch yn gallu eu gweld yn eich ffolder OneDrive.

 

Fel arall, gallwch drosglwyddo'n uniongyrchol o'r ap Oriel:

  • Agorwch yr Ap Oriel.
  • Dewiswch luniau i'w lanlwytho
  • Cliciwch ar lun
  • Cliciwch ar yr eicon rhannu

 

  • Dewiswch yr eicon OneDrive o'r opsiynau sydd ar gael
  • Dewiswch OneDrive o'r opsiynau
  • Dewiswch y ffeil lle rydych chi am gadw'r llun/lluniau
  • Gwasgwch ar y tic yn y gornel dde uchaf i'w lanlwytho i OneDrive
  • Bydd y lluniau'n cael eu lanlwytho'n awtomatig i'r ffolder a ddewiswyd a byddant ar gael yn OneDrive
  • Dilëwch y lluniau ar unwaith o'r ap Oriel pan fyddwch yn gallu eu gweld yn eich ffolder OneDrive

 

  • NODER: Mae'n rhaid dileu'r holl ddata Personol fel y'i diffinnir yn y polisi isod o'ch cyfrif OneDrive a'ch dyfais symudol, pan fydd wedi'i drosglwyddo/storio ar Gynllun Ffeiliau’r Cyngor, SharePoint, Info@Work, APP, CIVICA, CareFirst, Eclipse, ac ati yn unol â’r 'Polisi Trin Data Personol’:
  • Trin Data Personol

 

Dim ond o un ddyfais y mae angen i chi ddileu data o OneDrive, bydd y weithred hon yn cael ei dyblygu ar bob dyfais gyda'ch cyfrif One Drive.

Bydd angen dileu lluniau a dynnir gan ddefnyddio camera'r ffôn â llaw yn yr ap lluniau cyn gynted ag y cânt eu trosglwyddo i OneDrive.