Polisïau TG

Diweddarwyd y dudalen: 03/11/2021

Polisi defnyddio a monitro e-bost

Polisi defnyddio a monitro e-bost

Pwrpas y ddogfen hon yw rhoi gwybodaeth i chi am ddefnydd effeithiol a phriodol o'r cyfleusterau e-bost.

Mae defnydd o'r e-bost yn cyfeirio at bob defnydd o'n cyfleusterau e-bost boed hynny ar gyfer cyfathrebu mewnol neu allanol. Mae'r polisi hwn yn llywodraethu ein dull o reoli ein cyfleusterau e-bost.

Polisi defnyddio a monitro e-bost (.pdf)

Polisi diogelwch gwybodaeth

Polisi diogelwch gwybodaeth

Prif nod y polisi hwn yw sicrhau bod ein hasedau, ein staff (parhaol, dros dro a staff dan gontract), aelodau etholedig, data a chyfarpar yn cael eu diogelu’n ddigonol rhag unrhyw weithred a allai gael effaith niweidiol ar Dechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) a diogelwch gwybodaeth.

Mae’r polisi hwn yn berthnasol i'r holl wybodaeth rydym yn ei chadw, boed hynny’n electronig neu ar bapur.

Mwy o wybodaeth ar ddiogelwch gwybodaeth

Polisi defnyddio a monitro'r rhyngrwyd

Polisi defnyddio a monitro'r rhyngrwyd

Pwrpas y ddogfen hon yw rhoi gwybodaeth i chi am ddefnydd effeithiol a phriodol o'r rhyngrwyd.

Mae defnydd o'r rhyngrwyd yn cyfeirio at ddefnyddio'r rhyngrwyd o unrhyw un o'n cyfrifiaduron a/neu ein rhwydwaith. Mae'r polisi hwn yn llywodraethu ein dull o reoli cyfleusterau'r rhyngrwyd, gan ddiogelu buddiannau'r staff a'r Cyngor.

Polisi defnyddio a monitro'r rhyngrwyd (.pdf)

Y polisi ynghylch dyfeisiau symudol

Y polisi ynghylch dyfeisiau symudol

Mae'r polisi hwn yn diffinio gweithdrefnau, cyfrifoldebau ac ymarferion derbyniol o ran defnyddio dyfeisiau symudol rydym yn eu caniatáu i gysylltu â'n rhwydwaith.

Caiff dyfais symudol ei diffinio fel unrhyw ddyfais electronig sydd â'r gallu i drosglwyddo, derbyn, recordio, prosesu neu storio data. Mae'r swyddogaeth hon yn cynyddu mewn nifer o ddyfeisiau a gallent fod ag un swyddogaeth neu gyfuniad o'r swyddogaethau canlynol:

  • Gliniaduron
  • Llechi e.e. iPads Apple, Lenovo Helix, padiau Samsung Galaxy ac ati.
  • Ffôn Clyfar / Ffôn Symudol neu Gynorthwyydd Digidol Personol (PDA).
  • Dyfais recordio ddigidol e.e. camera digidol, recordiad sain, chwaraewr mp3.
  • Unrhyw ddyfais symudol arall, megis system llywio lloeren neu ddyfais hybrid sy'n cyfuno swyddogaethau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i bob aelod o staff (parhaol, dros dro a staff dan gontract), aelodau etholedig ac unrhyw bartneriaid neu drydydd parti sy'n cael mynediad i'n data o un o'n dyfeisiau.

Mwy o wybodaeth ar ddyfeisiau symudol

Deddf hawlfreintiau, dyluniadau a phatentau

Deddf hawlfreintiau, dyluniadau a phatentau

Mae'r polisi hwn yn diffinio ein gofynion i sicrhau cydymffurfiaeth â Deddf Hawlfreintiau, Dyluniadau a Phatentau 1988. Er enghraifft, sicrhau nad oes dim meddalwedd neu ddeunydd hawlfraint arall heblaw hyn a drwyddedir gan y Cyngor yn cael ei osod neu rannu ar ein peiriannau.

Mae'n berthnasol i bob aelod o staff (parhaol, dros dro a staff dan gontract), ac i bob aelod etholedig, gwerthwyr, partneriaid busnes a staff contractwyr, waeth ble y maent.

Deddf hawlfreintiau, dyluniadau a phatentau (.pdf)

Polisi Defnydd ar gyfer Cyfrifiaduron Mynediad Cyhoeddus

Polisi Defnydd ar gyfer Cyfrifiaduron Mynediad Cyhoeddus

Mae'r Polisi hwn yn diffinio gweithdrefnau, cyfrifoldebau ac ymarferion derbyniol o ran y cyfrifiaduron a ddarperir at ddefnydd aelodau'r cyhoedd. Mae'r cyfrifiaduron cyhoeddus i'w cael ar draws safleoedd y Cyngor Sir ac yn rhoi mynediad i aelodau'r cyhoedd at gyfrifiadur sy'n rhoi mynediad i'r rhyngrwyd.

Polisi Defnydd ar gyfer Cyfrifiaduron Mynediad Cyhoeddus (.pdf)