Polisi Teledu Cylch Cyfyng Corfforaethol - Mawrth 2026

1. Rhagarweiniad

1.1. Mae'r polisi hwn yn llywodraethu offer camerâu gwyliadwriaeth a'r broses o gasglu, cadw, defnyddio a gwaredu data a gofnodir gan systemau teledu cylch cyfyng. Mae'r Cyngor yn gweithredu systemau teledu cylch cyfyng at sawl diben, gan gynnwys monitro ardaloedd o fewn ac o amgylch adeiladau'r cyngor, meysydd parcio, priffyrdd, yn ogystal â defnyddio camerâu wedi'u gosod ar gerbydau fel camerâu gwyliadwriaeth y tu mewn i gerbydau, camerâu dangosfwrdd, camerâu gwisg, clychau drws clyfar, dronau, a thechnoleg adnabod plât rhif awtomatig. At ddibenion y polisi hwn, cyfeirir at bob dyfais o'r fath gyda'i gilydd fel 'systemau teledu cylch cyfyng'. 
 
1.2. Er eglurder, mae dronau sydd â chamerâu yn cael eu trin fel systemau teledu cylch cyfyng ac mae'r holl ofynion a safonau a nodir yn y polisi hwn yn berthnasol iddynt. 
 
1.3. Nod y polisi hwn yw nodi safonau sy'n ymwneud â defnyddio offer o'r fath sy'n gwneud y mwyaf o effeithiolrwydd tra ar yr un pryd yn lleihau ymyrraeth â phreifatrwydd unigolion y mae eu delweddau'n cael eu cipio gan y dyfeisiau. 
 
1.4. Mae'r polisi hwn yn berthnasol i'r holl systemau teledu cylch cyfyng amlwg y mae'r Cyngor yn eu gweithredu; fodd bynnag, nid yw'n berthnasol i ysgolion Sir Gaerfyrddin, sy'n gweithredu fel rheolwyr data annibynnol. 
 
1.5. Er nad yw'r polisi hwn yn berthnasol i ysgolion Sir Gaerfyrddin, argymhellir yn gryf bod pob ysgol yn mabwysiadu ei pholisi teledu cylch cyfyng ei hun. Gall ysgolion ddefnyddio'r polisi corfforaethol hwn fel templed i sicrhau aliniad ag arfer gorau a chydymffurfiaeth gyfreithiol o dan GDPR y DU a Deddf Diogelu Data 2018. 
 
1.6. Cyfeirir at Gyngor Sir Caerfyrddin fel 'y Cyngor' drwy gydol y polisi hwn. 
 
1.7. Dylid darllen y ddogfen hon ar y cyd â chodau ymarfer perthnasol o'r Comisiynydd Camerâu Gwyliadwriaeth a Biometreg a Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.  
 
1.8. Bydd y polisi hwn, y ddeddfwriaeth, y gweithdrefnau a'r templedi i'w gweld ar fewnrwyd y cyngor.  
 
1.9. Rhaid i swyddogion sy'n cynnal gwyliadwriaeth gudd, gyda dyfeisiau recordio neu hebddynt, gydymffurfio â Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 a'r Codau Ymarfer a gyhoeddir yn unol â'r ddeddfwriaeth honno. Nid yw'r polisi hwn yn berthnasol i weithgareddau o'r fath.