Polisi Teledu Cylch Cyfyng Corfforaethol - Mawrth 2026
Yn yr adran hon
4. Cyfrifoldebau
4.1. Yr Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth
4.1.1. Mae'r Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth yn sicrhau dull corfforaethol tuag at gyfrifoldebau'r Cyngor sy'n deillio o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012. Mae ganddo gyfrifoldeb strategol am uniondeb ac effeithiolrwydd y prosesau sydd ar waith, sy'n sicrhau cydymffurfiaeth mewn perthynas â'r holl gamerâu gwyliadwriaeth y mae'r Cyngor yn eu gweithredu.
4.1.2. Bydd yr Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth yn sicrhau bod Templedi Hunanasesu ac Asesiadau o’r Effaith ar Ddiogelu Data yn cael eu cyhoeddi ar y wefan a'u bod yn cael eu hadolygu bob blwyddyn.
4.1.3. Bydd yr Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth yn arwain o ran ardystiad trydydd parti i ddarparu tystiolaeth o gydymffurfiaeth â Chôd Ymarfer y Comisiynydd Camerâu Gwyliadwriaeth.
4.2. Pwynt Cyswllt Unigol Teledu Cylch Cyfyng
4.2.1. Mae'r Pwynt Cyswllt Unigol Teledu Cylch Cyfyng yn gyfrifol am oruchwylio'r holl agweddau ar gamerâu gwyliadwriaeth. Mae'n sicrhau bod pawb sy'n ymwneud â'r defnydd o systemau teledu cylch cyfyng yn ymwybodol o'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau cyfredol mewn perthynas â'r systemau hyn. Mae gwybodaeth a manylion cyswllt ar gyfer y Pwynt Cyswllt Unigol Teledu Cylch Cyfyng ar fewnrwyd y Cyngor.
4.3. Penaethiaid Gwasanaeth
4.3.1. Y Pennaeth Gwasanaeth perthnasol sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am systemau teledu cylch cyfyng. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod yr holl staff perthnasol yn cael yr hyfforddiant priodol a bod yr holl systemau'n cael eu defnyddio yn unol â'r polisi hwn.
4.3.2. Bydd Penaethiaid Gwasanaeth yn enwebu Swyddog Arweiniol Teledu Cylch Cyfyng y Gwasanaeth a fydd yn cyfathrebu â gweithredwyr teledu cylch cyfyng y system.
4.4. Swyddogion Arweiniol Teledu Cylch Cyfyng y Gwasanaeth
4.4.1. Bydd Swyddogion Arweiniol Teledu Cylch Cyfyng Arweiniol y Gwasanaeth yn goruchwylio'r holl systemau teledu cylch cyfyng y mae'r gwasanaeth yn eu rheoli. Byddant hefyd yn bwynt cyswllt canolog ac yn cynnig cyngor i staff mewn perthynas ag ymholiadau. Byddant yn gyfrifol am sicrhau bod Templedi Hunanasesu ar waith ar gyfer yr holl systemau, bod yr Asesiadau o’r Effaith ar Ddiogelu Data yn berthnasol i'r holl systemau a bod y dogfennau hyn yn cael eu hadolygu bob blwyddyn ac yn cael eu cyhoeddi.
4.4.2. Bydd Swyddogion Arweiniol y Gwasanaeth yn sicrhau y cymerir y camau angenrheidiol cyn gosod system newydd neu wneud newidiadau i systemau presennol, gan gynnwys cwblhau mynegiant o ddiddordeb ac ymgynghori. Gweler yr adran teledu cylch cyfyng ar y fewnrwyd am ragor o fanylion.
4.4.3. Swyddog Arweiniol dynodedig y Gwasanaeth fydd yn gyfrifol am weithrediad dyddiol pob system teledu cylch cyfyng. Bydd rhestr o'r holl systemau a'u swyddogion perthnasol ar y dudalen teledu cylch cyfyng ar fewnrwyd y Cyngor, y mae'n rhaid i'r Swyddogion Arweiniol ei diweddaru'n rheolaidd. Mae hyn yn berthnasol i drydydd partïon sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd y Cyngor.
4.4.4. Bydd Swyddog Arweiniol y Gwasanaeth yn sicrhau bod swyddogion y cyngor sy'n ymwneud â gweithredu'r system teledu cylch cyfyng yn cael hyfforddiant i ddefnyddio'r offer a'u bod yn ymwybodol o'r polisi hwn a'r gweithdrefnau sydd ar waith i reoli systemau teledu cylch cyfyng o fewn y cyngor.
4.4.5. Dylai Swyddog Arweiniol y Gwasanaeth weithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer yr holl ymholiadau sy'n berthnasol i'r system teledu cylch cyfyng, a dylai sicrhau mai dim ond swyddogion awdurdodedig y cyngor sy'n gallu gweithredu neu weld delweddau.
4.4.6. Bydd Swyddog Arweiniol y Gwasanaeth yn ymchwilio i unrhyw camddefnydd honedig o system teledu cylch cyfyng ac yn rhoi gwybod amdano ar unwaith i'r pwynt cyswllt unigol teledu cylch cyfyng.
4.4.7. Bydd Swyddog Arweiniol y Gwasanaeth yn sicrhau bod y system teledu cylch cyfyng yn weithredol ac yn cymryd camau i fynd i'r afael ag unrhyw ddiffygion fel y bo'n briodol.
4.4.8. Bydd Swyddogion Arweiniol Gwasanaethau yn sicrhau y cymerir y camau angenrheidiol cyn gosod system newydd neu wneud newidiadau i systemau presennol, gan gynnwys cwblhau mynegiant o ddiddordeb ac ymgynghori.
4.5. Gweithredwyr Teledu Cylch Cyfyng
4.5.1. Rhaid i swyddogion y cyngor sy'n gweithredu systemau teledu cylch cyfyng gydymffurfio â deddfwriaeth bresennol, y polisi hwn, canllawiau, codau ymarfer a llawlyfrau lleol. Rhaid iddynt wybod gofynion GDPR y DU a'r Ddeddf Diogelu Data a chwblhau cwrs eDdysgu y Cyngor ynghylch y rheoliadau hyn.
4.5.2. Bydd swyddogion y cyngor sy'n ymwneud â'r defnydd o systemau teledu cylch cyfyng yn rhoi gwybod am unrhyw gamddefnydd i Swyddog Arweiniol Teledu Cylch Cyfyng y Gwasanaeth a bydd yn cydweithio ag unrhyw ymchwiliad. Bydd Swyddog Arweiniol y Gwasanaeth yn rhoi gwybod amdano ar unwaith i'r pwynt cyswllt unigol teledu cylch cyfyng ac yn ymchwilio i unrhyw gamddefnydd honedig o system teledu cylch cyfyng.
4.5.3. Bydd swyddogion y cyngor sy'n gweithredu systemau teledu cylch cyfyng yn gyfrifol am roi gwybod ar unwaith i Swyddog Arweiniol y Gwasanaeth am unrhyw ddiffygion i offer.
4.5.4. Mae nifer o systemau teledu cylch cyfyng y Cyngor wedi'u lleoli ar safleoedd a ddefnyddir gan drydydd partïon. Yn yr achosion hyn, mae'n bwysig bod dealltwriaeth glir rhwng y Cyngor a'r sefydliad(au) dan sylw o ran pwy sy'n gyfrifol am bob agwedd ar y system teledu cylch cyfyng. Dylai hyn gael ei gofnodi a'i lofnodi gan y ddau barti. Dylid rhoi copi o'r ddogfen hon i bwynt cyswllt unigol teledu cylch cyfyng y cyngor.
