Polisi Teledu Cylch Cyfyng Corfforaethol - Mawrth 2026

5. Prynu a Defnyddio Camerâu Teledu Cylch Cyfyng

5.1. Cyn gweithredu unrhyw systemau teledu cylch cyfyng newydd, neu sydd wedi'u newid yn sylweddol, at ddefnydd y Cyngor (gan gynnwys camerâu gwisg a chamerâu wedi'u gosod ar gerbydau), rhaid iddynt gael eu gymeradwyo'n ffurfiol gan yr Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth neu ei ddirprwy enwebedig.

Rhaid i'r broses gymeradwyo hon fod yn unol â gweithdrefn Mynegi Diddordeb y Cyngor, fel y nodir yn yr adran teledu cylch cyfyng ar y fewnrwyd Teledu Cylch Cyfyng (CCTV).
 
5.2. Bydd y broses Mynegi Diddordeb yn dilyn gweithdrefn llywodraethu Eiddo Corfforaethol, a fydd yn rhan o gymeradwyo ceisiadau am osod systemau newydd er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith. 
 
5.3. Ni chaniateir caffael, gosod neu weithredu system teledu cylch cyfyng heb gwblhau'r broses Mynegi Diddordeb a chael awdurdodiad yr Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth. 
 
5.4. Rhaid i'r rheiny sy'n gyfrifol am gyflwyno a gweithredu'r systemau teledu cylch cyfyng sicrhau bod y defnydd o gamerâu yn gymesur i'r amcan arfaethedig a bod hawl unigolion i breifatrwydd yn cael ei pharchu bob amser. Rhaid cwblhau'r Mynegiant o Ddiddordeb gydag amcan gweithredol clir ar gyfer y system teledu cylch cyfyng gan wirio'r  DPIA perthnasol i sicrhau ei fod yn cwmpasu'r system. 
 
5.5. Rhaid cymryd gofal i sicrhau nad yw camerâu yn dal delweddau neu seiniau o leoedd preifat megis tai preifat. 
 
5.6. Ni chaniateir i gamerâu cudd gael eu defnyddio o dan nawdd y polisi hwn. Mae gweithgareddau o'r fath yn dod o fewn cwmpas Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (RIPA) neu'n rhannol ac mae'n rhaid cael awdurdodiad ar gyfer gweithgaredd o'r fath o dan y gweithdrefnau RIPA perthnasol. Fel arfer, dylai systemau teledu cylch cyfyng fod yn glir gydag arwyddion gweladwy wedi'u lleoli'n agos at y ddyfais yn hysbysu'r rhai yn y cyffiniau eu bod yn cael eu monitro a/neu eu recordio. Gall cynnwys arwydd neu hysbysiad o'r fath amrywio yn ôl natur y ddyfais sy'n cael ei defnyddio, yr ardal y mae'n cael ei defnyddio ynddi a diben ei defnyddio. 
 
5.7. Mae'r Cyngor yn nodi y gallai camerâu ffug weithredu fel dull atal, a dylai ceisiadau i'w defnyddio fynd drwy'r broses Mynegi Diddordeb ac asesu risg, gan ystyried y cyfiawnhad a ddarperir. 
 
5.8. Dim ond wrth fynedfeydd sy'n eiddo i'r cyngor, pwyntiau mynediad staff yn unig a chownteri gwasanaeth cyhoeddus dynodedig y gellir defnyddio camerâu clychau drws clyfar. Rhaid cymeradwyo gosod drwy'r broses Mynegi Diddordeb a'i gofnodi yn y gofrestr teledu cylch cyfyng ganolog. Rhaid i bob defnydd gynnwys arwyddion, a rhaid iddynt gydymffurfio ag asesiadau o'r effaith ar breifatrwydd. 
 
5.9. Yn achos systemau teledu cylch cyfyng sydd â'r gallu i symud, gogwyddo a chwyddo, bydd angen cyfiawnhad i'w caffael, eu gosod a'u gweithredu, gan ddibynnu ar natur y safle, lefel bosibl y tarfu ar breifatrwydd, a'r diben a'r angen amdanynt. Ni fyddant yn cael eu gosod fel rheol.  
 
5.10. Ar ôl cyflwyno system teledu cylch cyfyng sefydlog, rhaid anfon map sy'n dangos lleoliad y camera at y pwynt cyswllt unigol teledu cylch cyfyng i'w gynnwys ar gofrestr ganolog y Cyngor o systemau teledu cylch cyfyng.  
 
5.11. Rhaid ystyried y defnydd o systemau teledu cylch cyfyng fel rhan o waith cynllunio, adeiladu neu adnewyddu. Dylid cael cyngor gan Swyddog Dylunio i Atal Troseddau Heddlu Dyfed-Powys. Dylid rhannu awdurdodiad ar gyfer defnyddio systemau teledu cylch cyfyng yn gynnar wrth ddylunio adeiladau gyda'r Pennaeth Gwasanaeth y mae'r adeilad yn cael ei adeiladu ar ei gyfer. Y rheswm dros hyn yw y gellir cymhwyso'r polisi hwn a mabwysiadu dull amgen, neu system teledu cylch cyfyng dderbyniol sy'n rhan o'r dyluniadau. Dylid cadw gwybodaeth am y system teledu cylch cyfyng fel rhan o'r ffeil sy'n ymwneud â'r adeilad wedi'i gwblhau.