Caledwedd Corfforaethol: Y Ffeithiau

Diweddarwyd y dudalen: 16/05/2023

Cwestiynau a ofynnir yn aml

Bydd angen i'r rheolwr lenwi ffurflen defnyddiwr newydd sydd ar gael ar https://ictselfservice.carmarthenshire.gov.wales yn y golofn helpu eich hun. Bydd hyn yn sicrhau bod y rhwydwaith a'r cyfrifon e-bost yn cael eu sefydlu.

Mae angen o leiaf 10 diwrnod o rybudd i sicrhau bod y cyfrifon yn cael eu sefydlu a'r caledwedd gofynnol yn barod.

Os oes eisiau caledwedd, ticiwch y bocs am clyniadur. Bydd Gwasanaethau TG yn darparu dyfais addas yn ddigost i'r adran. Bydd hwn yn dibynnu os nad oes dyfais ar gael yn yr Adran.

Os bydd y gweithiwr yn symud i rôl newydd yn yr Awdurdod, ac mae'n teimlo fod yr offer presennol yn addas, gall ddefnyddio'r offer hwn yn ei swydd newydd.

Bydd y pecyn safonol sy'n cael ei ddarparu'n ddigost gan Wasanaethau TG yn cynnwys gliniadur.

Bydd angen i'r adran brynu offer ychwanegol megis gorsaf ddocio neu gyfrifiadur, sgrin 22", bysellfwrdd gwifredig, llygoden gwifredig, clustffonau MS Teams, sgrin ychwanegol drwy gyfrwng y Porth Prynu.

Os oes eisiau prynu ffon symudol, bydd eisiau siarad gyda’ch Cynrychiolwyr Ffonau Symudol.

Bydd eisiau casglu’s caledwedd o un o’r lleoliaid Galw Heibio TG (Caerfyrddin, Llanelli neu Rhydaman) gan y person newydd neu’r rheolwr llinell – bydd angen trefnu apwyntiad gyda’r pheirianydd, bydd e-bost cadarnhau gyda manylion yn cael ei e-bostio trwyddo.

 

Bydd eisiau creu galwd yn yr hunanwasanaeth i wneud apwyntiad galwd heibio i gollwng y ddyfais. Bydd Gwsanaethau TG yn trefnu i ddileu'r data, diweddaru'r feddalwedd a pharatoi'r ddyfais yn barod i aelod staff newydd i ddefnyddio.

Cysylltwch gyda’ch Cynrychiolwyr Ffonau Symudol os mae eisiau dychwelyd ffon symudol.

Nid oes unrhyw reswm i gadw hen offer. Er enghraifft; cadw'r offer ar gyfer staff newydd y bydd o bosibl arnynt angen dyfais yn y dyfodol. Bydd Gwasanaethau TG yn darparu dyfais i weithiwr newydd pan fydd yn dechrau yn ddigost i'r adran.

 

Mae’n ofynnol i gwsmeriaid drosglwyddo’r holl offer TG nad yw’n cael eu defnyddio ac sy’n cael eu storio.

Y rhesymau yw :-

  • Nid yw’r Awdurdod yn cael unrhyw werth o’r caedwedd hyn os yw’n segur
  • Ni fydd y caledwedd yn cael yr holl ddiweddariadau o ran meddalwedd a diogelwch, gan arwain at risg diogelwch posibl i’r Awdurdod.
  • Mae dyfeisiau segur yn defnyddio trwyddedau meddalwedd gwerthfwr
  • Mae angen i Wasanaethau TG gadw’r caledwedd er mwyn rheoli a chynnal rhaglen adnewyddu caledwedd TG yr Awdurdod.

 

Y caledwedd safonol a gyflenwir ac a ariennir gan wasanaethau TG yw -
Gliniadur Lenovo sgrin 13"
Sgrin 22"
Gorsaf ddocio
Llygoden gwifredig
Bysellfwrdd gwifredig

Bydd unrhyw ofyniad ychwanegol y tu hwnt i'r fanyleb safonol hon yn gorfod cael ei ariannu gan yr adran megis dyfeisiau o safon uwch, sgriniau ychwanegol ar gyfer sgrin ddeuol, clustffonau.  Bydd angen prynu offer fel bag gliniadur, bysellfwrdd di-wifr, llygoden ddi-wifr neu we-gamerâu drwy eich uned BSU.

Os yw'r ddyfais yn 5 mlwydd oed, byddwn yn disodli'r ddyfais yn unol â'r rhaglen caledwedd newydd.
Os yw'r ddyfais yn llai na 5 mlwydd oed, byddem yn ceisio trwsio'r offer neu roi dyfais debyg neu well i chi.

 

Bydd TG yn gwerthuso oedran eich dyfais bresennol os nad yw’n bodloni isafwm y fanyleb, gallwch gael dyfais yn ei le. Fodd byddag, os nid felly y mae, mae 2 opsiwn

  • Gallwch aros hyd nes bod y ddyfais yn gymwys i gael ei newid o dan yn cynllun disodli
  • Gall eich adran ariannu’r ddyfais newydd, bydd yn ofynnol cael côd cost

Bydd Gwasanaethau TG yn cyfnewid y ddyfais am ddyfais briodol gan ddefnyddio stoc sydd wedi'i hadnewyddu
ddiffinnir gan eich rôl newydd.

Mae hyn yn cynnwys HRA a Phensiynau, a Llyfrgelloedd

Bydd TG yn darparu pecyn newydd os yw'n cael ei ddefnyddio gan weithiwr CSC ac mae'n bryd iddo gael ei ddisodli. Bydd yn cael ei ddarparu yn ddigost i'r adran. Hyd yn oed os cafodd y pecyn gwreiddiol ei brynu gan arian grant.

Mae pob cyfrifiadur a sgrin yn y llyfrgelloedd yn cael eu cynnwys yn rhan o gynllun adnewyddu TG. Fodd bynnag, nid ydym yn caffael cyfrifiaduron newydd, felly byddwn yn disodli unrhyw gyfrifiaduron diffygiol gyda chyfrifiadur sydd wedi'i adnewyddu.

 

Gall myfyrwyr gweithwyr cymdeithasol cael gliniadur wrth yr adran Dysgu a Datblygu, syn cadw stoc o defeisiau.

Unrhyw myfyrwyr arall bydd eisiau creu galwad yn yr hunanwasanaeth Caledwedd Newydd (bydd eisiau cwpwlhau ffurflen Cyfrif Newydd am cyfeiriad ebost a mewngofnodi)

Cafwyd penderfyniad corfforaethol i gaffael gliniaduron newydd yn unig wrth adnewyddu offer er mwyn cyd-fynd â'r cynllun gweithio ystwyth, fodd bynnag, yn yr achosion hyn mae'n well disodli'r cyfrifiadur hwn gyda
chyfrifiadur arall sydd wedi cael ei adnewyddu, yn hytrach na darparu sawl gliniadur ar gyfer nifer o bobl.

 

Eich adran sy'n talu am yr eitemau ychwanegol fel pecyn pŵer, llygoden, bysellfwrdd sbâr, ayyb. Gallwch creu galwad caid prynu yn ein hunanwasanaeth.

Bydd angen prynu offer fel bag gliniadur, bysellfwrdd di-wifr, llygoden ddi-wifr neu we-gamerâu drwy eich uned BSU.

 

Byddai eich rheolwr yn asesu a oes budd o osod sgrin ddeuol, ac yna'n gwneud y penderfyniad. Byddai eich adran yn gorfod ariannu sgrin ychwanegol a doc deuol os oes angen.

Gallwn gynorthwyo o ran asesu'r hyn fyddai ei angen arnoch, megis a fyddai'r doc presennol yn gallu cefnogi sgriniau deuol. Gallwn hefyd gynghori pa geblau sy'n ofynnol. Gellir prynu'r holl bethau y byddai angen arnoch drwy gyfrwng porth prynu Gwasanaethau TG.

Y safon ar gyfer pob cwsmer yw sgriniau 22". Os yw'r sgrin bresennol yn is na 22", yna bydd TG yn darparu un yn ei lle yn ddi-gost i'r adran (destun y stoc sydd ar gael). Oes oes eisiau sgrin fwy na 22”, bydd eisiau côd cost wrth llofnodwr awdurdodedig.s oes eisiau sgrin fwy na 22”, bydd eisiau côd cost wrth llofnodwr awdurdodedig.

Dim ond un ddyfais y sydd ei hangen ar weithwyr CSC. Nid oes unrhyw reswm i gael cyfrifiadur a gliniadur/tabled er mwyn gweithio. Yn unol â gweithio ystwyth, byddai angen dychwelyd y cyfrifiadur at Wasanaethau TG.

 

Os yw eitem o dan warant, bydd TG yn cofnodi galwad gyda'r gwneuthurwr er mwyn cael eitem newydd yn ei lle o dan warant. Os yw'r warant wedi dirwyn i ben, eich adran fydd yn gyfrifol am ariannu'r offer ansafonol newydd.

Ar gyfer unrhyw eitemau coll, byddai'n rhaid i'ch adran dalu i brynu rhai newydd drwy gyfrwng porth siopa TG neu drwy'r stoc TG ac ailgodi'r tâl.

Dylid dychwelyd y pecyn at Wasanaethau TG os nad oes rhywun arall yn ymgymryd â'r swydd yn ystod y cyfnod mamolaeth. Os bydd aelod o staff dros dro yn cael ei ddynodi i gyflawni'r gwaith yn ystod y cyfnod mamolaeth, yna gall yr unigolyn hwnnw ddefnyddio'r offer.

Ar hyn o bryd, mae CSC yn darparu cymorth ar gyfer y caledwedd. Bydd eisiau creu ffurflen Cais Newydd am cyfrif Partners.

Os ydych wedi colli eich ffon symudol, bydd eisiau creu galwad yn hunan-wasanaeth, gallwn ni canslo’r contract.
Os ydych wedi niweidio’ch ffon symudol gallwn mynd a’r ffon i atgyweiriwr annibynnol neu gallwch archebu ffon symudol newydd trwy eich Cynrychiolwyr Ffonau Symudol.

Llwythwch mwy