Diogelwch TG

Diweddarwyd y dudalen: 09/08/2023

Dychmygwch fyd, wedi'i ddiffinio gan dechnoleg ac yn cael ei arwain gan ein galw, lle mae bron bob unigolyn wedi'i gysylltu lle bynnag y mae yn y byd.

Dychmygwch fusnes sy'n seiliedig ar y galw hwn, yn gweithio o swyddfeydd heb ffiniau, ac angen mynediad i'r wybodaeth sydd ar gael er mwyn cefnogi'r busnes ar unrhyw adeg. Dyna sy'n digwydd heddiw, ac er bod angen i ni ddefnyddio technoleg er mwyn gwella'r modd yr ydym yn gweithio, rydym hefyd angen sicrhau ein bod yn defnyddio'r wybodaeth yr ydym yn ei phrosesu mewn modd cywir.

Mae angen Diogelwch TG er mwyn helpu i ddiogelu data a Systemau TG, gan ddiogelu'r wybodaeth y maent yn eu cadw. Yn sgil dyfodiad y Rhyngrwyd a gweithio symudol, mae systemau'n cael eu dosbarthu ac yn hygyrch o sawl lleoliad. Mae Systemau TG yn cael eu dylunio gyda phwyslais ar 'Ddefnydd Hwylus', sydd i lawer o bobl yn fantais, fodd bynnag o safbwynt diogelwch, gall systemau fod yn anniogel wrth i'r galw am ddefnydd hwylus a hygyrchedd gynyddu.

Nod diogelwch gwybodaeth yw creu cydbwysedd priodol rhwng y ddau.

Awgrymiadau Defnyddiol

Cadwch eich dyfeisiau'n ddiogel

Os oes angen i chi adael eich cyfrifiadur, ffôn, neu lechen am unrhyw gyfnod o amser, hyd yn oed cyfnod byr, rhowch y ddyfais dan glo. Os ydych yn cadw gwybodaeth sensitif ar yriant fflach neu yriannau caled allanol, sicrhewch eu bod o dan glo hefyd.

Anfon gwybodaeth sensitif neu gyfrinachol ar e-bost!

Os oes angen i ni anfon unrhyw wybodaeth mewn neges e-bost sy'n gategori arbennig (sensitif) o ddata personol neu sy'n debygol o beri niwed neu ofid pe bai rywun na ddylai ei weld yn cael mynediad i'r wybodaeth honno, mae'n rhaid i ni sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei diogelu. Nid yw'n ddiogel i anfon gwybodaeth debyg i hyn dros e-bost safonol oherwydd gellir ei rhyng-gipio'n hawdd wrth i'r e-bost gael ei drosglwyddo dros y Rhyngrwyd at y derbynnydd.

Er mwyn helpu staff i ddiogelu data personol y Cyngor, rydym wedi llunio system ddiogel ar gyfer e-byst a anfonir at y sefydliadau a restrir yma. Bydd unrhyw beth y byddwch yn anfon i'r sefydliadau hyn yn cael ei amgryptio'n awtomatig.

Er mwyn anfon e-bost at unrhyw dderbynnydd nad ydynt ar y rhestr, gallwn ddarparu ffordd arall o anfon e-bost yn ddiogel. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â'r Ddesg Gymorth TG. 

Byddwch yn ymwybodol o e-byst gwe-rwydo.

Mae e-byst gwe-rwydo yn cael eu hanfon er mwyn ceisio "chwilota" am wybodaeth bersonol megis manylion banc neu wybodaeth fewngofnodi i wefannau. Mae gennym borth sy'n hidlo e-byst sy'n atal y mwyafrif o'r rhain, fodd bynnag mae'n bosibl y bydd rhai e-byst yn cyrraedd eich mewnflwch.

Gall yr e-bost ymddangos fel pe bai'n dod gan gwmni cyfreithlon sy'n gofyn i chi ddilysu rhyw fath o wybodaeth. Peidiwch byth â chlicio ar y dolenni hyn yn yr e-byst. Os ydych yn ansicr, cysylltwch â'r cwmni'n uniongyrchol dros y ffôn i holi a ydynt wedi anfon unrhyw ohebiaeth atoch. Gallwch hefyd reoli'r modd y mae'ch e-byst yn cael eu hidlo gan ychwanegu at eich rhestr anfonwyr a ganiateir a'r rhai sydd wedi'u blocio.

Pan fyddwch all-lein, byddwch yn ymwybodol o deilwra cymdeithasol, lle mae rhywun yn ceisio cael gwybodaeth oddi wrthych drwy ddylanwadu arnoch. Os bydd rhywun yn ffonio yn gofyn am wybodaeth sensitif, mae'n iawn i ddweud na. Gallwch bob amser ffonio'r cwmni yn ôl ar y rhif cyswllt yr hysbysebwyd ganddo er mwyn cadarnhau mai'r cwmni sy'n ffonio! Ni ddylai neb ofyn i chi gadarnhau cyfrinair dros y ffôn!