Rheoli eich cyfrinair

Diweddarwyd y dudalen: 16/05/2023

Os ydych wedi anghofio eich cyfrinair Windows, os oes angen i chi ei newid, neu os oes angen i chi ddatgloi eich cyfrif, gallwch wneud hyn i gyd drwy Microsoft SSPR (Hunanwasanaeth Ailosod Cyfrinair)

Beth yw Microsoft SSPR?

Mae Microsoft SSPR yn wasanaeth newydd i reoli cyfrineiriau sy'n disodli ein meddalwedd "Password Station" bresennol, felly yn ystod y cyfnod pontio, bydd y ddau opsiwn ar gael i ddefnyddwyr.

Rydym yn eich annog i gofrestru ar gyfer Microsoft SSPR cyn gynted â phosibl. Mae'n rhaid i chi fynd drwy'r broses gofrestru a dewis atebion i nifer o gwestiynau diogelwch.

Pwysig: Bydd methu â chofrestru yn golygu y bydd yn rhaid i chi gysylltu â'r Ddesg Gymorth TG yn y dyfodol os oes angen i chi newid eich cyfrinair neu ddatgloi eich cyfrif, yn hytrach na gallu gwneud hynny eich hun. Bydd "Password Station" yn cael ei ddileu ar ddyfeisiau ar ôl i'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr gofrestru ar gyfer Microsoft SSPR.

Cofrestru ar gyfer Microsoft SSPR

Sut ydw i'n cael mynediad i Microsoft SSPR?

Ar ôl i chi gofrestru, os oes angen i chi ailosod, datgloi neu newid eich cyfrinair gallwch wneud hynny drwy'r ddau ddull canlynol.

  1. Drwy'r ddolen "Ailosod Cyfrinair" o dan y maes cyfrinair ar sgrin fewngofnodi Windows 10.
  2. Drwy fynd i https://passwordreset.microsoftonline.com o borwr gwe ar unrhyw ddyfais gorfforaethol.

Rheoli eich Cyfrinair

Awgrymiadau ar greu cyfrinair cryf

Ceisiwch ymarfer rheoli eich cyfrinair. Defnyddiwch gymysgedd o nodau, rhifau a symbolau arbennig e.e.$!%&. Peidiwch â defnyddio cyfrineiriau sy'n seiliedig ar wybodaeth bersonol, a pheidiwch â defnyddio'r un cyfrinair ar gyfer gwefannau gwahanol. Y lleiafswm hyd a argymhellir ar gyfer cyfrineiriau yw 9 nod, a dylid defnyddio ymadrodd yn hytrach na chyfrinair. Gellid defnyddio ymadrodd megis 'Rwy'n hoffi yfed te gwyrdd', yn hytrach na defnyddio cyfrinair 'te gwyrdd'.

Ond pam dylid dilyn y camau hyn?

Gellir lawrlwytho meddalwedd hacio, sy'n hawdd ei gael ar y Rhyngrwyd, a'i osod ar gyfrifiadur safonol er mwyn dyfalu neu 'gracio' cyfrineiriau (nid oes arnoch angen cyfrifiadur arbennig!). Mae'n llwyddo i wneud hyn drwy redeg cyfres o nodau hyd nes iddo ddod o hyd i'r un cywir. Byddai cyfrinair sy'n air cyffredin o'r geiriadur ac sy'n cynnwys 8 nod yn cymryd llai na 12 awr i'w ddyfalu. Byddai ymadrodd sy'n cynnwys 6 gair yn cymryd dros 100 mlynedd i'w ddyfalu!

Hefyd, ni ddylid cadw cofnod o gyfrineiriau yn un man, na'u rhannu ag unrhyw un. Cadwch nhw'n gyfrinach!